🎄Ysgol Gymraeg Pontardawe 🎄❄️ rhagfyr 2024 cylchlythyr / december 2024 newletter

Annwyl rieni a gofalwyr / Dear Parents and carers,

Hoffwn estyn eich diolch unwaith eto i chi gyd am eich cymorth a’ch cefnogaeth ar gyfer y tymor hwn. Roedd y cyngherddau Nadolig yn wych a diolchwn am eich cefnogaeth a mwynhewch yr wyl a welwn ni chi gyd ar ddydd Mawrth Ionawr 7fed 2025 yn y flwyddyn newydd. Cofiwch fod HMS ar Ionawr 6ed.

I would like to use the opportunity once again and extend my thanks to you all for your help and support over this term. The Christmas concerts were fantastic and thank you for your support and have a wonderful time over the festive period, we'll greet the pupils on their return on Tuesday January 7th 2025. Remember INSET on January 6th.

Absenoldebau a Phresenoldeb / Absences and Attendance

Mae'r ysgol yn dechrau yn brydlon am 8.45yb - mae sawl un yn cyrraedd yr ysgol yn hwyr. Ceisiwch gyrraedd ar amser os gwelwch yn dda. Os yw eich plentyn yn absennol o'r ysgol, cysylltwch â'r ysgol cyn gynted â phosibl - naill ai gadewch neges ar y llinell absenoldeb neu e-bostiwch yr ysgol. School starts promptly at 8.45am - several pupils still arrive at school late. Try to arrive on time please. If your child is absent from school, please contact school at the earliest convenience - either leave a message on the absence line, or email the school. https://cdnfiles.j2bloggy.com/30104_b/wp-content/uploads/2024/03/13713-NPT-Miss-school-Miss-Out-A4-poster.pdf https://cdnfiles.j2bloggy.com/30104_b/wp-content/uploads/2024/03/13713-NPT-Miss-school-Miss-Out-A4-poster-Welsh.pdf

Parcio / Parking

Mae gan yr ysgol maes parcio ar gyfer STAFF YN UNIG. Yn anffodus, ni fyddwn yn caniatâi unrhyw gerbydau yn y maes parcio ond am fysiau. Mae camerau CCTV yn gorchwylio'r maes. Mae hwn o ganlyniad i faterion iechyd a diogelwch. Parciwch yn synhwyrol o amgylch yr ysgol - tu hwnt i finnau’r ysgol neu ym maes parcio rhieni ar waelod y tyle.

The school has a car park for STAFF ONLY. Unfortunately, we don't allow any vehicles in the car park other than our buses. CCTV cameras are in operation. This is due to health and safety issues. Please park sensibly around the school – beyond the school premises or in the parents' car park at the bottom of the hill..

HMS / INSET

Dydd Llun, Ionawr 6ed, 2025 / Monday, 6th January 2025

Dydd Gwener, Mehefin 27ain, 2025 (Clwstwr Ystalyfera) / Friday, 27th June 2025 (Ystalyfera Cluster INSET)

Dydd Llun, Gorffennaf 21ain, 2025 / Monday, 21st July 2025

(Un diwrnod arall i'w penodi, maes o law / One further INSET day will be confirmed in due course)

Am ddyddiadau pellach ewch ar / For more dates please visit : https://beta.npt.gov.uk/cy/ysgolion-a-dysgu/dyddiadau-tymhorau-ysgolion/diwrnodau-hms-ysgol/?nextyear=true

Diolch / Thank you,

Mr M Evans (Pennaeth / Headteacher)

Cyngherddau / Concerts

Diolch i bawb am eich cefnogaeth barhaus - roedd pawb yn wych. Diolch i'r staff a'r CRaFf am drefnu'r raffl. Codwyd dros £750 tuag at goffrau'r CRaFf.

Thank you to everyone for your continued support - everyone was fantastic. Thanks to the staff and PTA for arranging the raffle. Over £750 was raised towards the PTA funds for your children.

Ymddeoliad Mrs Rhian Morgan Retirement

Bydd Mrs Rhian Morgan yn ymddeol ar ddiwedd y tymor ar ôl treulio 33 mlynedd fel athrawes yn yr ysgol. Bu Mrs Morgan yn aelod o staff ffyddlon a gweithgar fel teulu Pontardawe ar hyd ei gyrfa ac fel ysgol rydym yn dymuno pob llwyddiant a hapusrwydd iddi. Dechreuodd Mrs Morgan ei gyrfa'r ysgol yn 1992 o dan ofalaeth gyn pennaeth yr ysgol Mr Alun Wyn Bevan. Merch leol yw Mrs Morgan o Drebannws lle gwnaeth briodi a Chris ac ymgartrefu yn Rhydaman lle magwyd ei dau fab Tomos ac Owain. Bu Rhian yn golled ar yr ysgol a dymunwn bob bendith iddi ar ei ymddeoliad haeddiannol. Mrs Laura Curtis sydd wedi ei phenodi fel athrawes newydd y derbyn gyda Mrs Nia Jones o Ionawr 7fed. Miss Nia Evans bydd yn rhedeg ein dosbarth Meithrin o dan arweiniad Mr Curtis.

Mrs Rhian Morgan will retire at the end of term after spending 33 years as a teacher at the school. Mrs Morgan has been a loyal and hard-working member of staff as the Pontardawe family throughout her career and as a school we wish her every success and happiness. Mrs Morgan began her school career in 1992 under the care of former head of school Mr Alun Wyn Bevan. Mrs Morgan is a local from Trebannws where she married Chris and settled in Ammanford where her two sons Tomos and Owain. Mrs Morgan will be a huge loss to the school and we wish her every blessing on her well-deserved retirement. Mrs Laura Curtis will continue her post as job share with Mrs Nia Jones as both reception teachers as of January 7th. Miss Nia Evans will be responsible in the running of the Nursery class led by Mrs Curtis.

X

Edrychwch ar ein tudalen X @yggpontardawe ... Mae'n ardal wych lle byddwch yn dod o hyd i lwyth o luniau ac enghreifftiau o'r gwaith gwych sy'n digwydd yn yr ysgol!

Check out our X page @yggpontardawe ... it is a fantastic area where you will find loads of pictures and examples of the brilliant work that goes on in school!

Presenoldeb / Attendance = 93.7% (ers Medi/since Sept)

Nid da lle gellir gwell! Os na allwch fynychu'r ysgol oherwydd salwch, gwnewch yn siŵr bod swyddfa'r ysgol yn cael gwybod cyn gynted â phosibl.

Diogelu / Safeguarding

Os yw'ch plentyn yn poeni neu'n gofidio am unrhyw beth - yn y cartref neu yn yr ysgol, mae croeso iddo/iddu a'i gynghori i siarad ag oedolyn dibynadwy yn yr ysgol.

If your child is worried or upset about anything - home-based or school-based, they are welcome and advised to speak to a trusted adult within school.

Person Dynodedig ar gyfer Diogelu / Designated Safeguarding Person (DSP) - Mr M Evans

Dirprwyon Diogelu / Deputy DSP - Mr A Owen, Mrs L Curtis, Miss A Jones a Mrs N Fairburn

Dyddiadur / Diary days

6.1.25: HMS / INSET

7.1.25: Dechreu tymor newydd i blant / Start of new term for pupils

27.1.25: Dewiniaid Digidol / Digital Wizards at Singleton Campus

29.1.25: Noson Holocost / NPT Holocaust ceremony

30.1.25: Cwrs Preswyl Pentre Ifan Bl3 / Yr 3 Residential overnight stay

19-21.2.25: Cwrs Preswyl Bl4 Abernant / Yr 4 Residential visit to Abernant

21.2.25: Hanner Tymor / Half Term

27.6.25: HMS / INSET

21.7.25: HMS / INSET

Fe fydd newidiadau i’r dyddiadur wrth i’r tymor datblygu. Hysbysebwn mewn da bryd. There will be amendments to this diary as the term progresses. We’ll keep you well informed.

Os ydych chi ein hangen ni, cysylltwch trwy e-bost yn swyddfa@yggpontardawe.npt.school

If you need us, please contact by email at swyddfa@yggpontardawe.npt.school

Ar ran yr holl ysgol, staff a llywodraethwyr, dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i chi gyd.

On behalf of the whole school, staff and governors we wish you all a very Merry Christmas and a Happy new year.