CYLCHLYTHYR EBRILL 2025 / APRIL 2025 NEWSLETTER

Themau tymor nesaf / Next term's themes

Chwedl, Cainc a Stori / Fables, Myths and Story

Gwerth y Mis/Value of the Month

Ebrill/April - Dyfalbarhad/Perseverance

Mai/May - Hapusrwydd/Happiness

Hawl y Mis/Right of the Month

Ebrill/April - Erthygl 24 - Eich hawl i fwyd a dŵr da ac i weld y meddyg os ydych yn sâl / Article 24 - Your right to good food and water and to see the Doctor if you're ill.

Mai/May - Erthygl 31 - Eich hawl i ymlacio a chwarae / Article 31 - Your right to relax and play.

Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember

12.04.2025-27.04.2025 - Gwyliau/Holidays

28.04.2025 - HMS / INSET

Dydd Mawrth 29.04.2025 Tuesday - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school

29.04.2025-07.05.2025 - B6 - Cwrs Seiclo yn yr ysgol / Cycling Course in school

30.04.2025 - B3/4 - Sgiliau Tenis/Tennis Skills - Clwb Tenis Llanelli Tennis Club

02.05.2025 - Ffotograffydd - lluniau dosbarth / Photographer - Class photos

02.05.2025 - B1 - Arolygiad Deintyddol yn yr ysgol / Dental Inspection in school

05.05.2025 - Gŵyl Fai - ysgol ar gau / May Day - school closed

13.05.2025 - Bl3/4 a B5/6 - Gŵyl Rygbi yn Stebonheath / Rugby Festival in Stebonheath

13-14.05.2025 - Ffair Lyfrau yn yr ysgol 14:30-15:30 / Book Fayre in the school 14:30-15:30

15.05.2025 - Mabolgampau'r Ysgol (mwy o fanylion i ddilyn) / School Sports (more details to follow)

24.05.2025-01.06.2025 - Gwyliau

02.06.2025 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school

Archebu cinio ysgol dyddiol / Parent Pay Daily Meals Bookings

Atgof Pwysig:

Gall pob teulu gofio bod yn rhaid archebu pryd bwyd eu plentyn ar ParentPay cyn 8yb bob dydd gan ei fod yn helpu staff y gegin i ddarparu bwyd ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys plant sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim â hawl i UPFSM.

Gofynnwch yn y dderbynfa os nad ydych yn gwybod sut i wneud hyn.

Diolch am eich cefnogaeth gyda'r mater hwn.

Important Reminder:

Please can all families remember that they must book their child's meal on ParentPay before 8am each day as it helps the kitchen staff cater accordingly. This includes children who are in receipt of Free School Meals and UPFSM.

Please ask in reception if you don't know how to do this.

Thank you for your support with this matter.

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys i hawlio Prydau Ysgol am Ddim i'ch plentyn/plant, yna gwnewch gais nawr drwy glicio ar yr isod.

If you think that you are eligible to claim for Free School Meals for your child/children then apply now by clicking on the above link.

Prydlondeb/Punctuality

Chwaraeon / Sports

Mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon yn ystod yr hanner tymor yma gan gynnwys:

Pupils have taken part in various sporting activities during this half term including:

Blwyddyn 2 - Sesiwn sgiliau chwaraeon yng Nghanolfan Hamdden Llanelli / Sports skills session at Llanelli Leisure Centre

Blwyddyn 3/4 - Gŵyl Rygbi Cymysg ym Mharc y Scarlets / Mixed Rugby festival at Parc y Scarlets

Blwyddyn 3/4 - Cystadleuaeth Pȇl-droed Cymysg yr Urdd yn Tregib, Llandeilo / Mixed Football Competition in Tregib, Llandeilo

Blwyddyn 5/6 - Cystadleuaeth Pȇl-droed Merched yr Urdd yn Tregib, Llandeilo / Girls Football Competition in Tregib, Llandeilo

Mae Blwyddyn 3 a 4 wedi cymeryd rhan yng ngwersi nofio dyddiol am dair wythnos yng Nghanolfan Hamdden / Years 3 and 4 have taken part in daily swimming lessons for three weeks at Llanelli Leisure Centre.

Dydd Gŵyl Dewi / St David's Day

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi trefnwyd bore coffi yn yr ysgol ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid ac ymwelwyr. Roedd pob dosbarth, yn eu tro, yn perfformio ac yn diddanu’r dorf. Diolch i bawb am eu cefnogaeth ac i’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon am eu cymorth.

To celebrate St David's Day we arranged a coffee morning in school for parents/guardians and visitors. Every class, in turn, performed and entertained the crowds. Thank you to everyone for their support and to the PTA for their help.

Meithrin

Yn ystod ein thema'r hanner tymor yma, rydym wedi bod yn dathlu a dysgu am Gymru a dysgu am y traddodiadau sydd gennym ni. Cafodd pawb gyfle i ganu yn ein gwisgoedd traddodiadol o flaen rhieni yn ein bore dathlu a chwblhau llawer o weithgareddau yn y dosbarth. Rydym hefyd wedi datblygu ein sgiliau coginio trwy ddefnyddio’r llysiau yn ein hardal gartref i greu cawl a'u torri mewn i ddarnau bach gan ddefnyddio cyllell. Dilynom gyfarwyddiadau syml i greu crempogau blasus, addurno bisgedi ar ddiwrnod trwyn coch a nythod siocled amser y Pasg. Mae’r plant wedi mwynhau datblygu eu sgiliau TGCh trwy ddysgu sut i deipio, adnabod a darganfod llythrennau gwahanol. Rydym hefyd wedi troi mewn i ffotograffwyr trwy chwilio am adar tu allan a thynnu lluniau ohonynt gyda’r iPad. Rydym wedi dechrau dysgu am y Gwanwyn a pharatoi ar gyfer plannu llysiau a phlanhigion yn y tymor newydd.

Mae wedi bod yn amser prysur iawn i ni hefyd yn ystod yr hanner tymor diwethaf. Braf oedd gweld y plant yn perfformio’n wych o flaen yr ysgol a'u teuluoedd yn ein gwasanaeth dosbarth. Cyfle hyfryd i bawb cael gweld y gwaith caled rydym wedi bod yn gwneud yn ein dosbarth. Mae llawer o bethau celf a chrefft wedi bod ar waith, wrth baratoi ar gyfer adeg y Pasg. Peintio, torri allan, lliwio a hefyd helfa wyau - roedd llawer o wynebau hapus wrth ddarganfod bod y gwningen wedi gadael wyau o amgylch y dosbarth i ni.

During this half term, we have been celebrating and learning about Wales and learning about the traditions that we have. It was lovely to see the children dressed in their traditional costumes and singing in front of parents during the open morning on St David’s day and having fun completing lots of activities in class. We have also developed our cooking skills by using the vegetables in our home area to create Cawl by cutting up vegetables into small pieces using a knife. We followed simple instructions to create delicious pancakes, decorated cookies on red nose day and made delicious chocolate easter baskets. We have enjoyed developing our ICT skills during the last term by learning how to type, recognise letters and discover where they are hiding on the keyboard. We have also turned into photographers, using the iPad to capture pictures of different birds in the outside area. We’ve began learning about the Spring term and preparing our gardening beds ready to grow vegetables and plants after half term.

It has been a busy time for us in the Meithrin class. It was wonderful to see the children performing brilliantly in front of the school and their families during our class assembly. A lovely opportunity for them to show you the hard work they have been doing in class and singing and signing the new songs they have learnt. There has been lots of arts and crafts happening in class also in preparation for Easter. Painting, lots of cutting out, colouring and even an Easter hunt – There were many happy faces when discovering that the easter bunny had visited our class and hidden eggs for us to find.

.

Llongyfarchiadau i'r unawdwyr, llefarwyr, Parti Llefaru a'r Parti Unsain a gymerodd ran yn yr Eisteddfod Gylch eleni. Da iawn chi.

Congratulations to the 'Parti Unsain', Recitation group and the individuals who took part in the singing competition in the Local Urdd Eisteddod this year. Well done.

Derbyn

Dyna ddiwedd tymor arall wedi dod i ben! Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn dros yr wythnosau diwethaf yn paratoi ar gyfer ambell berfformiad yn y neuadd ac mae’r dosbarth wedi bod yn fôr o ganu – o ganeuon Dydd Gŵyl Dewi, i’n hoff ganeuon sydd yn gwneud i ni deimlo’n hapus a phawb yn mwynhau bod yn rhan o’r holl fwrlwm. Cawsom ddechreuad hyfryd i’r hanner tymor newydd gyda phawb wedi’u gwisgo mewn gwisg Gymreig neu grys rygbi ac fe wnaethom fwynhau perfformio o flaen ein rhieni a’n ffrindiau yn ein bore coffi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Bu ‘Diwrnod y Llyfr’ yn ddiwrnod hyfryd arall yn y dosbarth gyda nifer o gymeriadau gwych o’n hoff lyfrau wedi ymuno â’n dosbarth ni. Cawsom lawer o hwyl yn gwrando ar rhai o hoff storïau’r disgyblion.

Cafwyd sawl trafodaeth yn y dosbarth am yr holl bethau sy’n ein gwneud ni’n hapus. Gofynnwyd i’r plant ddod ag un peth i’r ysgol oedd yn gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus. Cafwyd ymateb gwych a phob un yn falch i rannu ei peth arbennig nhw – unai ar ffurf llun neu’r gwrthrych ei hun. Daeth hyn yn sylfaen i’n gwasanaeth dosbarth ychydig o wythnosau yn ôl. Dysgom sawl cân yn sôn am hapusrwydd hefyd - roedd pob un yn mwynhau ac yn rhoi o’i gorau wrth ganu. Braf oedd cael croesawi ein rhieni a’n teuluoedd i fwynhau ein Gwasanaeth ac i rhannu hapusrwydd ein dosbarth ni gyda nhw. Da iawn i chi gyd am wasanaeth hyfryd ac am berfformiad arbennig o dda.

Ynghanol hyn i gyd rydym wedi parhau i ddatblygu ein hannibyniaeth yn y dosbarth. Rydym bellach wedi dechrau dysgu a chofio sut i greu toes ein hunain ac rydym wedi dysgu pa liwiau sydd angen eu cymysgu i greu lliwiau newydd. Nawr gallwn gymysgu paent ein hunain ar gyfer yr ardal greadigol. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydym wedi bod yn brysur yn plannu blodau yn ein hardal allanol. Edrychwn ymlaen i’w gweld yn tyfu wrth i ni ofalu amdanynt dros yr wythnosau nesaf. Rydym hefyd wedi bod yn brysur yn cwblhau gweithgareddau hwylus am y gwanwyn a’r Pasg gan gynnwys nythod siocled blasus!

Mwynhewch y gwyliau ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu yn ôl yn barod i barhau a’n taith ddysgu yn yr ysgol!

The end of another busy term has arrived! The last few weeks have been full of exciting activities and events, and we have been busy preparing to perform in the school hall from St David’s Day songs to our favourite songs that make us happy. We had a lovely start the new half term with everyone dressed in their Welsh Costume or rugby shirt and enjoyed performing in front of parents and friends at our coffee morning to celebrate St David’s Day. ‘World Book Day’ was another lovely day in class with many wonderful characters from our favourite books joining us in our activities! We had lots of fun listening to some of our favourite stories together.

There has been a lot of discussion about the things that make us happy. Pupils were asked to bring one thing that made them happy to school. There was a fantastic response, and each one was proud to share their special thing – either in picture form or the object itself. This became the foundation of our class assembly a few weeks ago. We also learned several songs about happiness. Everyone enjoyed the experience and gave of their very best. It was lovely to welcome parents, families and friends to enjoy our assembly and to share the happiness of our class. Well done to you all for and excellent performance.

Amidst all this we have continued to develop out independence within the classroom. We are learning to make our own playdough and we have learned what colours we need to mix together to create new colours! Now we can mix our own paint to use in our creative area. During the last week we have planted some beautiful flowers in our outdoor area. We look forward to seeing them grow as we learn to look after the them over the next few weeks. We have also been busy completing various activities based on spring and Easter and thoroughly enjoyed making chocolate nests!

Enjoy the holidays and we look forward to welcoming you back, ready to continue our learning journey at school.

I ddilyn thema Diwrnod y llyfr eleni penderfynodd y cyngor ysgol ofyn i bawb wisgo fel ei hoff cymeriad o lyfr. Cafwyd diwrnod o weithgareddau hwylus i ddathlu ym mhob dosbarth.

To follow the theme of this year's World Book Day the school council decided to ask everyone to dress up as their favourite character from a book. All pupils enjoyed a day full of activities to celebrate.

Blwyddyn 1

Gan barhau â’n thema, mae’r dysgwyr wedi mwynhau’n dysgu mwy am eu hardal leol, Trimsaran, ac archwilio beth sydd yn eu pentref. Aethom ar daith gerdded hyfryd drwy’r pentref a chwarae yn y parc cyn mynd yn ôl i’r ysgol i greu map, gan leoli’r holl leoedd pwysig. Roedd hyn yn her, gan ddefnyddio pren mesur a chofio pa ochr o’r ffordd oedd y lleoedd wedi’u lleoli!

Mae’r dysgwyr hefyd wedi mwynhau eu gwersi mathemateg, gan ddilyn rasys Fformiwla 1 a dysgu safleoedd y ceir fel cyntaf, ail, trydydd, pedwerydd ac yn y blaen. Gan archwilio diddordebau’r dysgwyr, fe arweiniodd hyn at ddysgu enwau gwledydd ledled y byd a chysylltu’r baneri. Cawsom amser gwych yn gweithio gyda’n gilydd mewn timau bach i greu enwau tîm ac i gwblhau cwis i enwi cymaint o faneri ag y gallwn!

Fel y mae llawer o rieni Blwyddyn 1 yn gwybod, ein hoff gyfaill darllen yw Aled Afal. Yr hanner tymor hwn, rydym wedi cyflwyno cymeriad newydd, Alwen Malwen (y falwoden liwgar). Mae hwn wedi bod yn rhan llawen o’n taith ddysgu wrth i ni archwilio cymeriad newydd sy’n ein dysgu am ddefnyddio dyfynodau wrth ysgrifennu a darllen.

I orffen y tymor, gan ganolbwyntio ar stori’r Pasg, mae Blwyddyn 1 wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i rannu syniadau a darganfod gwir ystyr y Pasg, pam rydym yn ei ddathlu, a ble daeth stori’r Pasg ohoni. Os gofynnwch i’ch plentyn, rwy’n siŵr y byddant yn gallu rhannu gyda chi brif elfennau’r hyn ddigwyddodd, a’r gwir reswm pam rydyn ni’n bwyta cymaint o siocled adeg y Pasg, gan fod rhan o’n tasg wedi bod yn trefnu’r stori o’r dechrau i’r diwedd.

Ar y nodyn hwnnw, ar ran staff Blwyddyn 1, dymunwn Pasg Hapus i chi a gobeithiwn y cewch wyliau hyfryd gyda’ch ffrindiau a’ch teuluoedd. P.S- o'r diwedd fe wnaethon ni creu ein clychsain wynt, diolch yn fawr iawn am eich cyfraniadau tuag atynt. Maen nhw'n edrych yn wych ac rydyn ni wrth ein bodd yn gwrando arnyn nhw'n canu yn y gwynt.

Carrying on with our theme, the learners have particularly enjoyed learning more about their local area, Trimsaran, and discovering what is within their village. We went on a lovely, long walk through the village and enjoyed a play in the park before heading back to school to draw a map, locating all the important places. This was definitely a challenge—using a ruler and remembering which side of the road the places were allocated!

The learners have also enjoyed their maths lessons, following the Formula 1 races and learning the positions of the cars such as first, second, third, and fourth, and so on. Exploring the learners' interests in this topic then led us to learning the names of countries all around the world and being able to associate them with their flags. We had a fantastic time working together in small teams to create team quiz names and complete a quiz to name as many flags as we could!

As many of our Year 1 parents are already aware, we have a favourite reading buddy—Aled Afal. This term, we introduced a new character: Alwen Malwen (the colourful snail). This has been a joyful part of our learning journey as we indulged in getting to know this new character, who is teaching us about the use of quotation marks in writing and reading.

To bring the term to an end, and with a focus on the Easter story, Year 1 have been working together to share ideas and discover the true meaning of Easter—why we celebrate it and where the story comes from. If you ask your child, we’re sure they’ll be able to share the main events and explain the true reason why we eat lots of chocolate at Easter time! As part of our task, we ordered the story from start to finish.

On that note, on behalf of the Year 1 and the staff, we wish you a Happy Easter and hope you enjoy the holidays with your friends and families. P.S- we finally got round to making our windchimes, thank you very much for your contributions towards them. They look fantastic and we love listening to them singing in the wind.

Gwasanaeth / Assembly

Diolch i Ficer Suzy Bale am ymweld â’r ysgol yn ddiweddar. Mwynhaodd y disgyblion stori’r Pasg yn ystod ei gwasanaeth.

Thank you to Vicar Suzy Bale for visiting the school recently. The pupils enjoyed the Easter story during her assembly.

Blwyddyn 2

Allwn ni ddim credu pa mor gyflym mae'r hanner tymor hwn wedi hedfan heibio. Mae amser gwir yn hedfan pan yr ydych chi'n cael hwyl ac yn gweithio'n galed! Unwaith eto, mae'r plant wedi bod yn hollol wych. Mae eu brwdfrydedd, eu hymdrech a'u hagweddau positif wedi disgleirio ym mhopeth rydyn ni wedi'i wneud. Ein prif ffocws yr hanner tymor hwn oedd stori hudolus Blodeuwedd. Rydyn ni wedi ymgolli’n llwyr yn y stori! Creuom fapiau stori, adroddom y stori yn uchel, a hyd yn oed ysgrifennu fersiynau ein hunain. Rydym wedi bod yn dysgu sut i anfon e-bost a rhoi ein sgiliau newydd ar waith trwy e-bostio Mr Jones i ofyn a allwn gael rhai bocsys adar o gwmpas yr ysgol i helpu denu mwy o adar. Rydym yn croesi bysedd byddwn yn clywed rhywfaint o adar yn canu o gwmpas yr ysgol yn fuan iawn! Roeddem hefyd yn falch iawn o gwblhau'r cwrs Kerbcraft yr hanner tymor hwn, lle dysgodd y plant bopeth am ddiogelwch ar y ffyrdd a sut i fod yn gerddwyr diogel a synhwyrol. Gweithiodd pawb yn galed iawn ac roedden nhw'n bles iawn i dderbyn tystysgrif ar ddiwedd y cwrs! Uchafbwynt arall yr hanner tymor hwn oedd derbyn y wobr ddarllen. Fe wnaethon ni bleidleisio ac aethon ni ar ymweliad i'r caffi lleol am gacen flasus ac yna treulio amser yn chwarae yn y parc. Joio mas draw! Yn ein gwersi ymarfer corff, rydym wedi bod yn cyfuno adrodd straeon â symudiad trwy greu dawns greadigol wedi'i hysbrydoli gan stori Blodeuwedd. Roedd pob grŵp yn dehongli gwahanol rannau o'r chwedl, ac un o'n hoff rannau oedd dawnsio i'r gerddoriaeth ddramatig gyda naws crac – roedd yr egni a'r mynegiant yn anhygoel! ‘Showstopper’ yr hanner tymor oedd ein gwasanaeth dosbarth, lle gwnaethom actio chwedl Blodeuwedd i'r ysgol gyfan a'r rhieni. Cawsom gymaint o hwyl yn perfformio a rhannu popeth roedden ni wedi'i ddysgu. Roedd canu ac actio’r plant yn arbennig. Da iawn i'n holl ddisgyblion gwych! Mwynhewch eich gwyliau Pasg.

We can’t quite believe how quickly this half term has flown by. Time really does fly when you’re having fun and working hard! Once again, the children have been absolutely fantastic. Their enthusiasm, effort, and positive attitudes have shone through in everything we’ve done. Our main focus this half term has been the magical and mysterious story of Blodeuwedd, a traditional Welsh legend. We’ve immersed ourselves in the tale – creating story maps, learning to recite the story aloud, and even writing our own versions. We’ve been learning how to send emails and put our new skills into action by emailing Mr Jones to ask if we could have some bird boxes around the school to help attract more birds. Fingers crossed we’ll hear some chirping around school very soon! We were also very proud to complete the Kerbcraft course this half term, where the children learned all about road safety and how to be safe and sensible pedestrians. Everyone worked really hard and showed great listening and awareness – and they were all awarded a special certificate to celebrate their achievements! Another highlight this half term was winning Class Readers of the School last term! As a special treat, we voted to visit the local café for some delicious cake and then spent some well-earned time playing in the park. In PE, we’ve been combining storytelling with movement by creating a creative dance inspired by the story of Blodeuwedd. Each group interpreted different parts of the legend, and one of our favourite parts was dancing to the dramatic, angry music – the energy and expression were amazing! The real showstopper of the half term was our class assembly, where we acted out the legend of Blodeuwedd for the whole school and parents. We had so much fun performing and sharing everything we’d learned. The children’s singing and acting were truly something special. Well done to all our wonderful pupils – we hope you have a restful and fun-filled break. We can’t wait to see what next term brings!

Blwyddyn 3

Yr hanner tymor yma rydym wedi mwynhau parhau i ddysgu am Gwenllian. Yn ystod y cyfnod fe wnaethom ddatblygu ein sgiliau ysgrifennu trwy ddysgu sut i ysgrifennu adroddiad papur newydd. Dros yr wythnosau rydym wedi dysgu am ferfau’r gorffennol, nodau dyfynodau ac ysgrifennu capsiynau, a gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddatblygwyd tymor diwethaf, bu modd i ni ysgrifennu adroddiad yn disgrifio'r frwydr rhwng Gwenllian a’r Normaniaid. Wrth barhau i ddatblygu ein sgiliau llythrennedd rydym wedi bod yn dysgu am sillafau. Roeddem yn gallu defnyddio’r sgil hon i greu ein cerdd Haiku ein hunain. Dechreuon ni’r tymor trwy ddysgu am onglau sgwâr a wnaethon fwynhau mynd o gwmpas dir yr ysgol yn darganfod onglau sgwâr yn ein byd. Yn dilyn ymlaen o hyn dysgom am gynhwysedd. Roeddem wrth ein bodd yn gweithio yn y dŵr yn mesur meintiau amrywiol mor gywir ag y gallem, ac yna defnyddiwyd y sgiliau hyn i'n helpu i ddatrys problemau sy'n seiliedig ar gynhwysedd. Rhan fawr o’r hanner tymor yma oedd ein gwersi nofio dyddiol dros y 3 wythnos diwethaf. Mae wedi bod yn anhygoel gweld y cynnydd sydd wedi'i gyflawni ac yn gweld hyder pawb yn cynyddu’n ddyddiol. Mae’r tair wythnos diwethaf wedi hefan ac ni allwn aros i groesawu ein teuluoedd i weld y cynnydd rydym wedi’i wneud ar diwedd y cyfnod. Gobeithio y cewch chi seibiant hyfryd ac edrychwn ymlaen at ddychwelyd ar ôl y Pasg

This half term we have enjoyed continuing learning about Gwenllian. We continued to develop our writing skills by learning how to write a newspaper report. Over the weeks we have learnt about past tense verbs, speech marks and caption writing, and using the knowledge we’d developed last term about Gwenllian, we were able to write a report describing the event of the battle between Gwenllian and the normans. Continuing to develop our literacy skills we have been learning about syllables. We were then able to use this skill to create our own Haiku poem. We started the term by learning about right angles and enjoyed going around the class and outside area discovering right angles. Following on from this we learnt about capacity. We loved working in the water measuring various quantities as accurately as we could, and we then used these skills to help us solve capacity based problems. A big part of this half term has been our daily swimming lessons over the last 3 weeks. It has been amazing to see the progress that has been achieved confidence grow. The last 3 weeks has gone so fast and we can’t wait to welcome our families to see the progress we have made at the end of the last week. We hope you have a lovely break and look forward to returning after Easter.

Blwyddyn 4

Mae’r dair wythnos ddiwethaf wedi bod yn brysur, gyda ni yn mynd i ganolfan hamdden Llanelli pob bore. Rydym wedi dysgu sut i gadw’n ddiogel yn y dŵr wrth ddysgu neu uwch-sgilio y strociau. Mae pob un ohonom wedi gwneud ein gorau glas yn y pwll. Rydym wedi ffocysu ar fathemateg ac iaith pob prynhawn. Rydym wedi dadansoddi graffiau, casglu data a chreu graffiau bar, llinell, pictogramau a diagramau venn. Yn ein sesiynau iaith rydym wedi bod yn canolbwyntio ar nodweddion iaith ysgrifennu dwyn i gof. Gan ein bod wedi penderfynu i beidio mynd i ogof Twm Sion Cati, aethom ni i Lyn Llech Owain. Fe wnaethon ni gerdded o amgylch y Llyn, gweithio mewn timoedd i chwarae gemau a braslunio llun o’r llyn. Roedd yn ddiwrnod bythgofiadwy. Yn ôl yn y dosbarth edrychom ar yr artist Nia Owen ac efelychom un o’i lluniau. Mae’r lluniau yn wych. Mwynhewch y bythefnos gyda’ch teuluoedd.

The last three weeks have been busy, with us going to Llanelli leisure centre every morning. We have learned how to stay safe in the water while learning and upskilling the strokes. All of us have done our very best in the pool. We have focussed on maths and language every afternoon. We have analysed graphs, collected data and created bar graphs, line graphs, pictograms and venn diagrams. In our language sessions we have been focussing on the language characteristics of recall writing. As we had decided not to go to Twm Sion Cati cave, we went to Llyn Llech Owain. We walked around the Lake, worked in teams to play games and sketch a picture of the lake. It was an unforgettable day. Back in class we looked at the artist Nia Owen and used her picture as inspiration to create our own. The pictures are great. Enjoy the two weeks with your families.

Diwrnod Trwyn Coch / Red Nose Day

Dathlom 'Diwrnod Trwyn coch' trwy wisgo coch i'r ysgol i godi arian at yr achos da yma. Codwyd £115.

We celebrated 'Red Nose Day' by wearing red to school to raise money for the good cause. We raised £115.

Blwyddyn 5

Mae Blwyddyn 5 wedi bod yn brysur ac wedi mwynhau archwilo’r chwedl Branwen yn ddyfnach! Yn eu gwersi ysgrifennu, mae Blwyddyn 5 wedi bod yn brysur yn archwilio testunau trafod. Maen nhw wedi cynhyrchu dadleuon ysgogol ar y Chwedl Branwen, gan ymchwilio i bwy oedd wirioneddol ar fai yn y stori. Maen nhw hefyd wedi mynd i’r afael â’r pwnc Fformiwla 1, gan bwyso a mesur y dadleuon o blaid ac yn erbyn y gamp. Wrth ddod â phopeth maen nhw wedi’i ddysgu dros y tymor at ei gilydd, creodd Blwyddyn 5 raglen ddogfen drawiadol ar chwedl Branwen, gyda cherddoriaeth wreiddiol, eu sylwebaeth eu hunain, a golygu fideo – i gyd wedi’i wneud yn annibynnol!

Aethant i gartref gofal lleol i dreulio amser gyda chleifion dementia, gan fwynhau bore o ddawnsio, canu a chymdeithasu gyda’r henoed yn Llyfrgell Llanelli. Yn eu gwersi Mathemateg, maent wedi bod yn dysgu am gyfesurynnau trwy weithgareddau hwyliog fel chwarae Battleships. Fel rhan o’u tasgau cymhwysedd digidol, maent wedi bod yn datblygu eu sgiliau Excel, gan ganolbwyntio ar dasgau taenlenni a dysgu llwybrau byr allweddol defnyddiol ar gyfer gweithio ar-lein. Yn ogystal, maent wedi bod yn defnyddio Charanga, rhaglen cerddoriaeth ar-lein, i gyfansoddi darnau o gerddoriaeth i’w cynnwys yn eu dogfennau.

Mae Blwyddyn 5 hefyd wedi bod yn gweithio’n galed yn eu grwpiau cydweithredu, gan ganolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau gwaith tîm. Rydym wedi bod yn archwilio’r rolau a’r cyfrifoldebau gwahanol sy’n gysylltiedig â gweithio gyda’n gilydd yn effeithiol, ac yn dysgu sut y gall pob aelod o’r tîm gyfrannu tuag at yr un nod.

Year 5 have had a busy and exciting time recently! They visited a local care home to spend time with dementia patients, enjoying a morning of dancing, singing, and socialising with the elderly at Llanelli Library. In maths, they have been learning about coordinates through fun activities like playing Battleships. As part of their digital competency tasks, they have been developing their Excel skills, focusing on spreadsheet tasks and learning useful keyboard shortcuts for working online. Additionally, they have been using Charanga, an online music tool, to compose pieces of music to include in their documentaries.

In their writing lessons, Year 5 have been busy delving into discussion texts. They’ve produced some thought-provoking debates on the Chwedl Branwen, exploring who was truly at fault in the story. They also tackled the topic of Formula 1, weighing up the arguments for and against the sport. Bringing together everything they’ve learned over the term, Year 5 created an impressive documentary on the tale of Branwen, complete with original music, their own commentary, and video editing within different apps, like iMovie.

Year 5 have also been working hard in their collaborative groups, focusing on developing their teamwork skills. We've been exploring the different roles and responsibilities involved in working together effectively, and learning how each team member can contribute to a shared goal.

Blwyddyn 6

Mae’r dosbarth wedi parhau gyda’r thema ‘Llais a Chymunedau Coll’. Maent wedi bod yn trafod hanes Capel Celyn gan ysgrifennu trafodaeth ac ystyried os oedd yn deg i foddi Cwm Tryweryn. Maent hefyd wedi bod yn sgriptio a chreu podlediad gan ddefnyddio rhaglen Adobe Creative Cloud.

Mae’r dosbarth wedi coginio nifer o bethau gwahanol gyda Mrs Evans a Mrs Davies yn ystod yr hanner tymor gan gynnwys cacen gaws, sgonau a phitsas. Diolch yn fawr i Mrs Evans a Mrs Davies am eu gwaith caled yn paratoi a helpu’r disgyblion wrth iddynt ddysgu nifer o sgiliau coginio newydd. Bu’r disgyblion hefyd yn gwerthu’r cacennau caws yn y bocs bwyd blasus i’r gymuned.

Mae cwmni CYCA wedi dechrau cynnal sesiynau gyda disgyblion blwyddyn 6. Gwytnwch digidol yw ffocws y sesiynau gyda’r disgyblion yn dysgu sut i fod yn ddiogel a hapus ar-lein. Mae athrawes hefyd wedi bod yn cynnal sesiynau ‘Cerdded drwy’r Beibl’ gyda’r disgyblion gan ddysgu am rai o storiâu’r Beibl.

Bu nifer o ddisgyblion yn canu a llefaru yn yr Urdd. Da iawn i’r disgyblion am ddysgu a pherfformio mor dda yn y gwahanol Eisteddfodau. Hefyd aeth griw o ferched blwyddyn 6 i gystadlu yng nghystadleuaeth pêl droed yr Urdd. Profiad hollol newydd i rai o’r disgyblion gyda phawb wedi mwynhau. Mae Blwyddyn 6 yn edrych ymlaen at eu tymor olaf yn Ysgol Trimsaran.

The class has continued with the theme ‘Voices and Lost Communities’. They have been discussing the history of Capel Celyn by writing a discussion piece and considering whether it was fair to flood the Tryweryn Valley. They have also been scripting and creating a podcast using the Adobe Creative Cloud program.

The class has cooked a variety of different things with Mrs Evans and Mrs Davies during the half term, including cheesecake, scones, and pizzas. A big thank you to Mrs Evans and Mrs Davies for their hard work in preparing and helping the pupils as they learned a number of new cooking skills. The pupils also sold the cheesecakes in the tasty food box to the community.

The company CYCA has started running sessions with Year 6 pupils. Digital resilience is the focus of the sessions, with the pupils learning how to be safe and happy online. The teacher has also been running ‘Walking through the Bible’ sessions with the pupils, teaching them about some of the Bible stories.

A number of pupils have been singing and reciting in the Urdd. Well done to the pupils for learning and performing so well in the various Eisteddfodau. A group of Year 6 girls also went to compete in the Urdd’s football competition — a completely new experience for some of the pupils, and everyone enjoyed it. Year 6 are looking forward to their final term in Ysgol Trimsaran.

Cystadleuaeth/Competition

Diolch i'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon am gyfrannu gwobrau ar gyfer ein cystadleuaeth 'Addurno Wy'. Dyma'r enillwyr.

Thank you to the PTA for donating prizes for our 'Decorate an Egg competition'. Here are the winners.

AROLYGIAD YSGOL/SCHOOL INSPECTION

ESTYN:

Bydd yr adroddiad arolygu a chrynodeb rhieni a gofalwyr yn cael eu cyhoeddi a byddant ar gael ar wefan Estyn ar 14/04/2025.

The inspection report and parent and carers summary will be published and available on the Estyn website on 14/04/2025.

CREATED BY
Ysgol Gymunedol Trimsaran