Ysgol Gymunedol Penparc Llawlyfr / Handbook

Ysgol Gymunedol Penparc

Pennaeth/Headteacher: Mrs Nicola Roscoe
Dirprwy Bennaeth/Deputy Headteacher: Mrs Lowri Owens

Cadeirydd y Corff Llywodraethol/Chair of the Board of Governors: Mr Heddwyn Evans

Cyfeiriad/Address:

Ysgol Gymunedol Penparc, Tremain, Ceredigion SA43 1SQ

Ffôn/ Phone: 01239 810586

prif@penparc.ceredigion.sch.uk

Arwyddair yr Ysgol / School Motto

Gair o groeso

Hoffwn gyflwyno’r llyfryn hwn i chi, sydd yn esbonio nôd ac amcanion ein hysgol. Mae ynddo wybodaeth angenrheidiol a phwysig a fydd yn cynorthwyo eich plentyn i ymgartrefu yn yr ysgol.

Edrychwn ymlaen fel ysgol at gydweithio gyda chi - mewn partneriaeth - er lles, datblygiad a chynnydd eich plentyn fel unigolyn.

Yn ddiffuant,

Nicola Roscoe (Pennaeth)

A word of Welcome

I would like to introduce this booklet to you which explains the school’s aims and objectives. There is important and necessary information in here that will help your child to settle well at school.

We look forward to working with you - in partnership - in order to ensure your child’s well-being, progress and development as an individual.

Yours sincerely,

Nicola Roscoe (Headteacher)

Nid ydym yn gallu hawlio parch; mae'n rhaid ei hennill trwy ein gweithredoedd ac agwedd.

Respect cannot be demanded; respect must be earned through our actions and attitude.

Cefndir a Lleoliad

Lleolir ein hysgol ar gyrion pentref gwledig Penparc ger Aberteifi, Sir Geredigion, a gwasanaetha'r pentref a'r ardal gyfagos.

Derbynia’r ysgol ddisgyblion yn llawn amser i’r Dosbarth Derbyn yn y Tymor yn dilyn eu penblwydd yn bedair oed.

Dynodir yr ysgol yn ‘Ysgol Gymraeg’ Categori 3 yn ôl polisi iaith yr awdurdod addysg; golyga hyn mai’r Gymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol, ond anelir at sicrhau bod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt drosglwyddo i'r sector uwchradd.

• Cymraeg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol.

• Mae’n cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog yn ôl yr angen.

• Mae hon yn ysgol sydd ag ethos Cymraeg cadarn, gan gefnogi a galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a'r tu allan iddi.

Mewn lleoliad trochi mae pob dysgwr yn cael ei addysgu'n llawn yn y Gymraeg, gyda’r Saesneg yn cael ei defnyddio ar brydiau i sicrhau dealltwriaeth yn ystod y cyfnod trochi cynnar.

Background and Location

Our school is situated on the out- skirts of the rural village of Penparc, near Cardigan in the county of Ceredigion, and serves the village and the surrounding area.

The school admits pupils on a full time basis to the reception class in the term following their fourth birthday.

The school is designated as a Category 3 Welsh-medium school in accordance with the Education Authority’s language policy. This means that Welsh is the main medium of the life and work of the school and seeks to ensure that pupils are fully bilingual by the time they transfer to the secondary sector.

Welsh is the school’s main language of internal communication, and we run support interventions for pupils and families from non-welsh speaking backgrounds to ensure we are an inclusive and welcoming school to all

Presenoldeb / Attendance

100% - Presenoldeb Rhagorol / Excellent Attendance

95% - Presennoldeb Da Iawn / Very Good Attendance

90% -94.99% -Presennoldeb Da / Good Attendance

85%-89.99% - 85% = 29 diwrnod coll /days lost

80% - 84.99% - 80% =38 diwrnod coll /days lost

<79.99% -75% = 47 diwrnod coll /days lost

Mae pob diwrnod ysgol yn cyfrif ar gyfer dyfodol eich plentyn. Mae diwrnodau ffwrdd o’r ysgol yn cyfri at addysg a gollir. Mae disgyblion yn mynychu'r ysgol am 190 o ddiwrnodau.

Rhennir y diwrnod ysgol yn ddwy sesiwn. Felly dylai disgybl fynychu'r ysgol am 380 o sesiynau mewn blwyddyn.

Every school day counts towards your child’s future. Days off school add up to lost learning.

Pupils attend school therefore for 190 days. A school day is divided into two sessions. A pupil therefore should attend school for 380 sessions.

Er mwyn gwneud cynnydd, mae angen bod yn bresennol i dderbyn cefnogaeth ac arweiniad gan y staff.

To make progress, pupils need to attend regularly to receive support and guidance from our team of staff.

Gofynnir i deuluoedd cysylltu gyda'r ysgol i esbonio unrhyw absenoldebau, naill ai trwy ebost i prif@penparc.ceredigion.sch.uk, galwad ffôn i sgwrsgio gyda'r Pennaeth, neu i adael neges ar beiriant ateb Absenoldeb yr ysol ar 01239 810586.
We ask families to contact the school to provide information on any absenteeism, either through email to prif@penparc.ceredigion.sch.uk, to telephone the school to speak to the Headteacher, or to leave a message on our automated Absence line on 01239 810586.

Targed Presenoldeb yr ysgol yw 95.1%.

Our Attendance target is 95.1%.

Gwrth-fwlian / Anti-Bullying

Mae prosesau clir gan yr ysgol i ddelio ag unrhyw achosion neu honiadau o fwlio yn yr ysgol.

"Cofia ddweud wrth rhywun - unrhyw un"

The school has a clear process to deal with any accusations or examples of bullying at school.

"Remember to tell someone - anyone"

Clwb Gofal Bore / Morning Care Club

I gynnig hyblygrwydd i rieni, mae Clwb Gofal Bore a Brecwast ddyddiol ar gael, gyda giatiau yn agor am 8:15yb. Mae'r Clwb Gofal Bore am ddim, nid oes cost. Cynigir tôst a diod yn ddyddiol i frecwast, yn rhâd ac am ddim, a hynny rhwng 8:15yb a 8:45yb.

For parents in need of greater flexibility, we have a daily Morning Care and Breakfast Club, with gates open from 8:15am. The Morning Care Club is a free facility. We offer toast and drink daily for breakfast, which is free, between 8:15am and 8:45am.

Mae giatiau'r ysgol yn agor am 8:15yb, gyda disgyblion i fynd i'w hystafelloedd ddosbarth am 8:45yb ar gyfer dechrau'r Diwrnod Ysgol
The main school gate opens at 8:15am, with pupils' registration in class at 8:45am for the beginning of our School Day

Clybiau ar ôl Ysgol / After school Clubs

Yn ogystal, mae clybiau ar ôl ysgol yn ogystal, ar gael tan 4:45yh. Y gost i fynychu'r clwb ar ôl ysgol yw £5.00 pob sesiwn, sydd hefyd yn cynnwys bwyd. Mae'n rhaid cofrestru i fynychu'r Clwb ar ôl Ysgol o leiaf 24 awr o flaen llaw, er mwyn sicrhau fod lefelau Staffio a Bwyd yn gywir gennym ar ei gyfer.

Nid oes clwb yn rhedeg ar nos Wener olaf pob tymor a hanner tymor

Er mwyn gallu trefnu a chynllunio'n effeithiol yn ddyddiol, os nad oes unrhyw un wedi cofrestru ar gyfer clwb erbyn 12yh, ni fydd clwb yn rhedeg ar ôl ysgol y noson honno. Ond os oes un plentyn wedi

Additionally, we have after school clubs available for parents, until 4:45pm. The cost to attend the after school club is £5.00 for each session, which includes food. Families must register for After School Club at least 24 hours in advance, so we can ensure the correct Staffing ratios and ensure that enough food is available.

In order to plan effectively for club daily, if nobody has registered for club on a specific day by 12pm, club will not run on that day. However, even if only one child has registered, the club will run.

The last Friday of every term and half term are the only evenings when club will not be available.

Gwisg Ysgol / School Uniform

Bee Embroidery (01239 571782)

Thermatex (01239 614648)

Sacco's (07527 980715)

Mae ein gwisg ysgol yn cael ei wisgo gan bob disgybl a gellir ei brynu yn Thermatex, Parc Teifi, Aberteifi, Bee Embroidery, Pendre, Aberteifi, neu Sacco's, Heol y Gogledd, Aberteifi.

Gwisg posibl yw crys polo marŵn, siwmper chwys neu gardigan marŵn, a throwsus, sgert, siorts neu leggings du neu lwyd; esgidiau du neu esgidiau du ymarfer corff.

Gall ddisgyblion wisgo hoodie neu hoodie gyda zip tu fâs ar y campws fel haen ychwanegol, ond y siwmperi a chrys polo yw'r wisg cywir oddi fewn yr adeilad mewn unrhyw fan.

Y wisg cywir ar gyfer Ymarfer Corff yw crys polo gwyn, siorts neu leggings du, ac esgidiau ymarfer corff. Gall y crys polo gynnwys bathodyn yr ysgol pe dymunir.

Cofiwch ysgrifennu enw’ch plentyn ar bob dilledyn.
Mae gwisg ysgol yn gallu gwneud bywyd yn haws ar gyfer teuluoedd, trwy osgoi helbul posibl yr angen i ddewis dillad pob bore, a dyna pam mae gwisg ysgol ar gael. Serch hyn, y peth mwyaf pwsyig yw bod eich plentyn yn mynychu'r ysgol, beth bynnag bo eu gwisg. ni fydd unrhyw ddadl na stŵr ar gyfer disgybl sydd ddim yn gwisgo y wisg ysgol awgrymedig: mae disgybl sydd yn yr ysgol yno i allu datblygu ac i wneud cynnydd, beth bynnag maent yn ei wisgo.

We have an official school uniform which can be worn by all pupils and can be bought at Thermatex, Parc Teifi, Cardigan, Bee Embroidery, Pendre, Cardigan, or Sacco's, North Road, Cardigan. A list for your information is available in school.

The possible school uniform is a maroon polo shirt, maroon sweatshirt or cardigan, and grey or black trousers, skirt, leggings or shorts, with black shoes or black trainers.

Pupils can wear overhead or zip-up hoodies as an extra layer outside or to come to school, but all pupils will be expected to wear the sweatshirt and polo shirt in all areas within the school building.

The correct Sports kit is a white polo shirt, black shorts or leggings, and trainers. The polo shirt can contain the school emblem.

A school uniform can help families to avoid the possible strain of having to choose clothing for the school day, and that is why we have a recommended uniform. But, the most important thing is that your child attends school, whatever they wear. there will be no challenging or penalty for not wearing the recommended school uniform: they are here to learn and progress, whatever they are wearing.
Please write your child’s name on all garments.

Nid yw esgidiau "heelies" yn dderbyniol ar gampws yr ysgol

"Heelies" are not permitted on the school campus

Grant PDG: Cefnogi Teuluoedd a disgyblion

Mae'r ysgol yn derbyn grant i gefnogi teuluoedd pob blwyddyn, ac mae'r ysgol yn defnyddio arian o'r grant yma i gefnogi disgyblion i gael gwisg ysgol, i fynd ar deithiau ac ymweliadau (gan gynnwys teithiau preswyl), i ddarparu ffrwyth a diod yn ychwanegol yn ystod y dydd, ac i gyfrannu tuag at gostau staffio i rhoi cymorth ac ymyrraeth penodol yn y dosbarth.

PDG Grant, Pupil and Family Support

The school receives an annual Pupil Development Grant to support specific families, and we use this grant to support families with the purchase of school uniform, to attend day trips (and overnight visits) free of charge, to offer fruit and drinks during the school day, and to contribute towards staffing costs that offer specific provision and intervention in class.

Teganau a cherdiau chwarae / Toys and playing cards

Nid oes hawl dod â'r nwyddau yma i'r ysgol, oherwydd gallent achosi cwympo mâs, ac nid ydyn am weld eiddo personol yn mynd ar goll ar y campws.

Pupils are not permitted to bring these items to school, as they can cause fallings-out, and we do not wish to see the items getting lost on the campus.

Nwyddau o'r cartref / Items from home

Nid oes hawl dod ag eitemau o'r cartref i'r ysgol, yn enwedig eitemau gall achosi niwed i eraill e.e. siswrn, cyllell, unrhywbeth miniog. Mae hyn er mwyn sicrhau diogelwch pob un ar y campws.
Pupils are not permitted to bring items from home to school, especially items that can cause harm to others e.g. scissors, knives, anything sharp. This is to ensure everyone's safety on campus.

Cinio ysgol

Mae Staff y Gegin yn darparu Cinio Ysgol twym yn ddyddiol, ond mae hawl gan ddisgyblion i gael pecyn bwyd pe dymunent. Mae cinio ysgol yn rhad ac am ddim ar gyfer pob disgybl.

Os yn cael pecyn bwyd, dyler sicrhau pryd maethlon ac iach, yn unol â'n dymuniad i fod yn Ysgol Iach.

Ni chaniateir losin yn yr Ysgol, gan gynnwys sioceldi a lolipops.

Mae disgyblion yn gwneud eu dewis o ginio yn ddyddiol, ac nid un penderfyniad ar gyfer wythnos lawn.

Ni chaniateir cnau o unrhyw fath yn yr ysgol

School lunch

Our Kitchen Staff produce a hot lunch daily, but pupils can choose to have a home-prepared packed lunch if they wish to do so. School lunches are free for all pupils.

If pupils have a packed lunch, we do ask parents for their support in our wish to be a Healthy School, and therefore to prepare a suitably healthy lunch.

We do not allow sweets, chocolates and lollipops at School

WE are a strictly nut-free school

Amserlen y Dydd / Our Daily Timetable

ar gyfer disgyblion derbyn, blynyddoedd 1 a 2 / for reception, years 1 and 2 pupils
ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 / for years 3, 4, 5 and 6 pupils

Clwb Gofal Bore / Morning Care Club

I gynnig hyblygrwydd i rieni, mae Clwb Gofal Bore a Brecwast ddyddiol ar gael, gyda giatiau yn agor am 8:15yb. Mae'r Clwb Gofal Bore am ddim, nid oes cost. Cynigir tôst a diod yn ddyddiol i frecwast, yn rhâd ac am ddim, a hynny rhwng 8:15yb a 8:45yb.

For parents in need of greater flexibility, we have a daily Morning Care and Breakfast Club, with gates open from 8:15am. The Morning Care Club is a free facility. We offer toast and drink daily for breakfast, which is free, between 8:15am and 8:45am.

Mae giatiau'r ysgol yn agor am 8:15yb, gyda disgyblion i fynd i'w hystafelloedd ddosbarth am 8:45yb ar gyfer dechrau'r Diwrnod Ysgol
The main school gate opens at 8:15am, with pupils' registration in class at 8:45am for the beginning of our School Day

Clybiau ar ôl Ysgol / After school Clubs

Yn ogystal, mae clybiau ar ôl ysgol yn ogystal, ar gael tan 4:45yh. Y gost i fynychu'r clwb ar ôl ysgol yw £5.00 pob sesiwn, sydd hefyd yn cynnwys bwyd. Mae'n rhaid cofrestru i fynychu'r Clwb ar ôl Ysgol o leiaf 24 awr o flaen llaw, er mwyn sicrhau fod lefelau Staffio a Bwyd yn gywir gennym ar ei gyfer.

Nid oes clwb yn rhedeg ar nos Wener olaf pob tymor a hanner tymor

Er mwyn gallu trefnu a chynllunio'n effeithiol yn ddyddiol, os nad oes unrhyw un wedi cofrestru ar gyfer clwb erbyn 12yh, ni fydd clwb yn rhedeg ar ôl ysgol y noson honno. Ond os oes un plentyn wedi cofrestru, mi fydd y clwb yn rhedeg.

Additionally, we have after school clubs available for parents, until 4:45pm. The cost to attend the after school club is £5.00 for each session, which includes food. Families must register for After School Club at least 24 hours in advance, so we can ensure the correct Staffing ratios and ensure that enough food is available.

In order to plan effectively for club daily, if nobody has registered for club on a specific day by 12pm, club will not run on that day. However, even if only one child has registered, the club will run.

The last Friday of every term and half term are the only evenings when club will not be available.

Diogelwch rhag yr Haul / Sun protection

Anogir pob un ar y campws i gymeryd camau i'w hamddiffyn rhag effeithiau'r haul, yn enwedig yn ystod Tymor y Gwanwyn a'r Hâf.

Everybody on campus is encouraged to take the appropriate steps to ensure protection against the sun, especially during the Spring and Summer terms.

Mae gwisgo eli haul addas yn y bore yn gymorth (ac mae cael cymorth Staff i wneud hynny yn rhan o'r Cytundeb ddechrau blwyddyn), yfed digon o ddŵr, gwisgo het addas tu allan, a cheisio defnyddio'r ardaloedd cysgodol yn ystod y dydd yn enghreifftiau o arfer dda i bawb.

Applying appropriate sun tan lotion in the morning (which is also part of the Pupil Agreement at the beginning of the academic year), drinking plenty of water, wearing a hat/cap outside, and using the sheltered/covered areas during the day are all examples of good practise for everybody.

Mae peiriant dŵr yn yr ysgol er mwyn i bawb ail-lenwi wrth i'r diwrnod fynd rhagddi.
There is a water dispenser in school so everybody can re-stock as needed.

Polisi Iaith / Language Policy

Cymraeg yw iaith pob gwers ym Mhenparc, ar wahân i wersi Saesneg a ddechreuir yn ffurfiol ym mlwydyn 3, ond a pharatoir ar ei gyfer ym mlwyddyn 2.

All lessons are taught through the medium of Welsh, apart from English lessons that are taught formally from Year 3 but is introduced in Year 2.

Mae'r ysgol yn cydweithio'n agos gyda'r Ganolfan Iaith i gefnogi unrhyw hwyr-ddyfodiaid di-Gymraeg sydd yn dod i'r ysgol, ac yn cynnig cefnogaeth amgen i'r rhain yn yr ysgol er mwyn eu cefnogi gyda'r Gymraeg, ac yn hyrwyddo cymuned cynhwysol.

The school works closely with the Language Centre for additional support for pupils who join the school from a non-Welsh speaking background in later years, and we also then offer additional support in class with the language, to emphasise the inclusive community.

Mae'r ysgol yn mynnu bod gwerth addysgol o feddu ar ddwy iaith.

Nôd ein polisi ydy sicrhau fod y plant yn gwbl ddwyieithog wrth ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg erbyn gadael yr ysgol gynradd er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o'r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni. Mae'r ddarpariaeth a wneir yn yr ysgol yn sicrhau fod pob plentyn yn medru cyfathre- bu yn hyderus yn y ddwy iaith a'u bod yn ymwybodol o’i hetifeddiaeth ddiwylliannol.

Mae nifer o fanteision i fod yn ddwyieithog:

• Yn gyntaf, lleolir yr ysgol mewn ardal lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad a’i defnyddio’n eang. Mae’n bwysig felly i sicrhau bod disgyblion yr ysgol yn datblygu i allu defnyddio’r ddwy iaith yn hyderus a rhugl, fel eu bod yn gallu dewis cymryd rhan lawn ym mhob agwedd o fywyd yr ardal.

• Bydd rhai o’n disgyblion yn symud ymlaen i ddysgu ieithoedd eraill yn y dyfodol, ac mae gwaith ymchwil yn dangos bod plant sy’n medru siarad dwy iaith eisoes yn dysgu ieithoedd eraill yn gyflymach na phlant sy’n siarad ond un iaith.

The school asserts its belief in the educational value of acquiring two languages.

The aim of our bilingual policy is to teach children to be totally bilingual in the use of Welsh and English by the time they leave primary school to enable them to participate fully in the bilingual community of which they are a part. The provision at the school should ensure that each child is able to communi- cate confidently in both languages and be aware of Welsh cultural heritage.

Being bilingual has a number of advantages:

• The school is situated in an area where Welsh is spoken and used widely. It is therefore important that the school’s pupils develop the ability to use both languages confidently and fluently, so that they can choose to take part fully in all aspects of life in the area.

• Some of our children will move on to learn other languages in the future, and research shows that children who are bilingual learn other languages more quickly than those who speak only one language

Addysgu a Dysgu / Teaching and Learning

Yn Ysgol Gymunedol Penparc, rydym yn falch o gynnig cwricwlwm eang a chyfoethog sy’n adlewyrchu anghenion, cryfderau ac uchelgeisiau amrywiol pob un o’n dysgwyr—beth bynnag fo’u cefndir neu fan cychwyn. Rydym yn credu mai partneriaeth gref rhwng y cartref a’r ysgol yw’r allwedd i wir lwyddiant. Dyna pam ein bod yn rhoi gwerth mawr ar gefnogaeth ein teuluoedd. Mae rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr yn chwarae rôl hollbwysig wrth helpu eu plant i ffynnu, ac, gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod pob plentyn ym Mhenparc yn cyrraedd ei wir botensial—yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.
At Ysgol Gymunedol Penparc, we are proud to offer a broad and enriching curriculum that reflects the diverse needs, strengths, and aspirations of every one of our learners—whatever their background or starting point. We believe that true success is built on strong partnerships between home and school. That is why we place such value on the support of our families. Parents, guardians and carers play a vital role in helping their children thrive, and together, we can ensure that every child at Penparc reaches their full potential—academically, socially, and emotionally.

Llais y Disgybl / Voice of the Pupil

Mae sawl Senedd, Cyngor a Mudiad yn yr Ysgol er mwyn cwrdd i drafod materion pwysig am fywyd, rhediad a chyfeiriad yr ysgol:

We have School Parliament, Councils and Groups that convene to discuss important matters affecting school life, structure and aims:

Disgwyliadau a Gwobrau

Y mae cyfrifoldeb disgyblaeth ysgol yn nwylo'r Pennaeth, ond y mae'n fater i bawb sydd â chysylltiad â'r ysgol gan gynnwys rhieni. Disgwylir i bob plentyn ymddwyn yn dderbyniol ac fel aelod o gymdeithas yr ysgol. Anogir pob disgybl i ddilyn ‘Rheolau Euraidd’ yr ysgol a restrir isod:

RHEOLAU EURAIDD:

• Cymraeg yw iaith Ysgol Gymunedol Penparc
• Gwneud ein Gorau Glas
• Dangos Cwrteisi i bawb
• Gofalu am ein hysgol a phopeth o'i cwmpas

• Cerdded o fewn yr ysgol bob amser

Yr ydym hefyd yn cynnal gwasanaeth wythnosol ‘Tystysgrifau’ lle rydym yn clodfori llwyddiant disgyblion sydd wedi cyflawni’n arbennig, gyda "Disgybl yr Wythnos", "Cymro/Cymnraes yr Wythnos" a "Ffrind yr Wythnos".

Expectations and Prizes

Overall responsibility for school Discipline rests with the Headteacher, but it is a matter for everyone connected with the school, including parents. Children are expected to conform to certain standards of behaviour. All pupils are encouraged to follow the school’s ‘Golden Rules’ listed below .

GOLDEN RULES:

• To speak Welsh at school
• To try our best at all times
• Show courtesy to everybody
• To care for our school, its contents and the people within

• Walk into and around the school at all times

We also hold a ‘Certificates' assembly where we praise the achievement of pupils who have performed exceptionally well in various aspects of school life, with certificates for "Pupils of the Week", "Cymro/Cymraes" of the week, and "Friend of the week".

Polisi defnydd effeithiol T.G.Ch / Acceptable use of I.C.T. Policy

1. Er mwyn fy niogelwch personol fy hun:

• Deallaf y bydd yr ysgol yn monitro fy nefnydd o'r systemau TGCh, e-bost a chyfathrebu digidol arall.

• Byddaf yn trin fy enw defnyddiwr a chyfrinair fel fy mrws dannedd - ni fyddaf yn ei rannu, ac ni fyddaf yn ceisio defnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair unrhyw un arall.

• Byddaf yn ymwybodol o "berygl dieithriaid" pan fyddaf yn cyfathrebu ar-lein.

• Ni fyddaf yn datgelu neu'n rhannu gwybodaeth bersonol amdanaf fy hun neu eraill pan fyddaf ar-lein.

• Os ydw i'n trefnu i gwrdd â phobl all-lein rwyf wedi cyfathrebu â nhw ar-lein, byddaf yn gwneud hynny mewn lle cyhoeddus ac yn mynd ag oedolyn gyda mi.

• Byddaf yn adrodd ar unwaith am unrhyw ddeunyddiau neu negeseuon annymunol neu amhriodol neu unrhyw beth sy'n gwneud i mi deimlo'n anghysurus pan fyddaf yn ei weld ar-lein.

1. For my own personal safety:

• I understand that the school will monitor my use of the ICT systems, email and other digital communications.

• I will treat my username and password like my toothbrush – I will not share it, nor will I try to use any other person’s username and password.

• I will be aware of “stranger danger”, when I am communicating on-line.

• I will not disclose or share personal information about myself or others when on-line.

• If I arrange to meet people off-line that I have communicated with on-line, I will do so in a public place and take an adult with me.

• I will immediately report any unpleasant or inappropriate material or messages or anything that makes me feel uncomfortable when I see it on-line.

Teithiau Ysgol / School Trips

Trefnir nifer fawr o deithiau ac ymweliadau fel rhan o'r flwyddyn ysgol, a disgwylir i ddisgyblion barhau i ddilyn rheolau'r ysgol ac i gynnal y disgwyliadau uchel sy'n bodoli ar y campws.

There are many school trips and visits during the year, and we expect pupils to continue to follow our school rules and maintain the high standards that are expected on the school campus on these visits.

Mae'r Pennaeth yn cadw'r hawl i wrthod i ddisgybl/disgyblion fynychu teithiau os nad ydynt yn gallu dilyn canllawiau'r ysgol yn ystod y tymor, neu os oes consyrn am ddiogelwch unigolion oddi ar y campws.

The Headteacher reserves the right to refuse pupils' participation on trips if they are not able to follow school rules, or if the pupil presents a potential risk when off the school campus.

Polisi yw yr Ysgol yw i disgyblion wisgo Gwisg Ysgol ar unrhyw daith yn ystod y dydd, ONI NODIR HYNNY YN WAHANOL TRWY LYTHYR. Ar gyfer teithiau dros nos, caniateir i'r disgyblion wisgo dillad eu hunain yn ôl y galw.
School Policy is that pupils will wear School Uniform on an trip during the day, UNLESS STATED OTHERWISE THROUGH LETTER. For overnight trips, pupils can wear their own clothes according to circumstance of trip

Cynhwysiant

Fel ysgol yr ydym yn ceisio sicrhau fod pob plentyn sydd ag anghenion ychwanegol yn cael darpariaeth addysgol briodol o safon uchel ac yn cael mynediad i gwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol. Yr ydym yn ceisio adnabod disgyblion sy’n cael anawsterau’n gynnar gan dargedu cymorth yn y dosbarth Derbyn. Pan greda athro fod anghenion ychwanegol gan blentyn mae’n nodi ei anawsterau ac yn trafod gyda’r Pennaeth. Cyn rhoi plentyn ar gam priodol y gofrestr addysg arbennig byddwn bob amser yn gofyn ca- niatad y rhieni, a lle bo’n briodol, gofyn barn y plentyn.

Mae’r ysgol yn:

• darparu cwricwlwm ystyrlon a pherthnasol sy’n cymell dysgwyr.

• diwallu anghenion penodol dysgwyr a hyrwyddo datblygiad cyffredinol

Ymdrechwn i gadw mewn cysylltiad â’r rhieni a hefyd i gyfrannu sylwadau ar Gynllun Addysg Unigol eu plentyn. Mae pob athro yn yr ysgol yn ymwybodol o bwysigrwydd gwahaniaethu er mwyn darparu ad- dysg gyflawn a pherthnasol i’r disgyblion. Yn dibynnu ar y dasg, mae gwahaniaethu yn digwydd o ran lefel y gwaith, marcio a chanmoliaeth, disgwyliadau a threfniadaeth dosbarth, h.y. gweithio mewn pâr, grŵp neu’n unigol.

Inclusion

As a school we aim to ensure that every pupil with additional needs receives a high standard of educational pro- vision and has access to a curriculum that has breadth, balance and relevance. We try to identify children who are having difficulties as early as possible and target support in the reception class. When a teacher believes that a pupil requires additional support he/she will make a note of any difficulties and discuss the matter with the Headteacher. Parental permission will always be sought before placing a child on the special educational needs register and, where appropriate, the child’s view will also be taken into account.

For all learners in our school we:

• provide a meaningful, relevant and motivating curriculum

• meet the specific needs of learners and further their all-round development.

We aim to keep parents well informed and invite them to comment on their child’s Individual Education Plan. Every teacher is aware of the importance of differentiation in order to provide a full and relevant education to his or her pupils. Depending on the nature of the task, differentiation will focus on the level of the work, marking and praise, expectations and class management, i.e. working in pairs, groups or individually.

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig drwy’r dulliau canlynol:

• Defnyddio cynlluniau gwaith gwahaniaethol tu mewn i grwpiau gallu cymysg.

• Y Pennaeth a’r Cydlynydd Addsg Arbennig sydd yn gyfrifol am drefnu darpariaeth ar gyfer plant ag Anghenion Addysgol Ychwanegol.

• Mae un aelod o’r Corff Llywodraethol â chyfrifoldeb dros Anghenion Addysgol Arbennig.

• Ymgynghori a chydweithio gydag Ymgynghorwyr Addysg Arbennig ac asiantaethau allanol o fewn y Sir pan fo’n briodol.

Mae'n gyfrifoldeb ar bob aelod o Staff i ddarparu a Gwahaniaethu'n effeithiol i gwrdd â gofynion pob disgybl yn yr ysgol.

Additional Learning Needs (ALN)

We provide for children with special educational needs in the following ways:

• The use of differentiated schemes of work in mixed ability teaching groups.

• The Head teacher and SENCO have specific responsibility for provision for children with Additional Educational Needs.

• The Governing Body has a designated person with responsibility for Special Educational Needs.

• Consultation and liaison with SEN Advisors and outside agencies within the county when necessary.

It is the responsibility of every Staff member to Differentiate and support every pupil's progress at School.

Diogelwch a Lles

Yn ein hysgol ni, diogelwch a lles y plant sy’n dod gyntaf. Mae’r gatiau o amgylch yr ysgol ar gau drwy’r amser. Mae’n rhaid i bob ymwelydd ganu’r gloch er mwyn cael sylw..

Rhaid cyd-weithio i sicrhau diogelwch y disgyblion. O ran maes parcio’r ysgol anogir pawb i barcio’n gyfrifol a dilyn y cyfarwyddiadau diweddaraf a ddosberthir gan y Pennaeth. Yr ysgol sydd yn gyfrifol am dddiogelwch y plant nes y trosglwyddir i’r rhieni neu ofalwyr.

Mae gennym hefyd bolisi cynhwysfawr ysgol gyfan o ran hyrwyddo Iechyd a Diogelwch i bawb.

Bydd nyrs ysgol a therapydd lleferydd yn ymweld â'r ysgol yn rheolaidd. Rhoddir archwiliad meddygol gan y nyrs ysgol. Fe'ch hysbysir ymlaen llaw o'r dyddiad a'r amser.

Y Pennaeth a'r Dirprwy Bennaeth yw'r Swyddogion Diogelu dynodedig yma yn Ysgol Gymunedol Penparc.

Safety and Wellbeing

The safety and wellbeing of our pupils is of paramount importance within the school. All visitors must ring the bell for attention.

Co-operation is key to ensuring the safety of the children. In relation to the school car park we urge everyone to park responsibly and to follow the latest instructions from the Headteacher. The school is responsible for the safety of the children up until they are transferred to the parent/guardian or carer.

We have a comprehensive whole school policy to promote the Health and Safety of all individuals in contact with the school.

The school is visited by the school nurse and speech therapist that make periodic visits to examine children. Parents are informed of these visits.

The Headteacher and Deputy Headteacher are the designated Safeguarding officers at Ysgol Gymunedol Penparc.

Toileta / Toiletting

Gofynnwn yn garedig i deuluoedd sicrhau fod disgyblion ddim angen gwisgo cewynnau erbyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol. Gall Ymwelydd Iechyd cynorthwyo teuluoedd gyda thoileta cyn iddyn nhw gyrraedd oedran ysgol.

Canllawiau gan yr Awdurdod

WE ask families to ensure that pupils don't need to wear nappies by the time they start school. Families' Health Visitors can support families in toilet training before they start school if needed.

Guidance from the Authority
Cydnabyddwn y bydd amgylchiadau arbennig ar gyfer rhai disgyblion, ac mi fyddwn wrth gwrs fel ysgol yn hapus i gefnogi'r teuluoedd hynny.
There will be some pupils in exceptional circumstances that require further support, and we as a school will of course be fully supportive in those cases.

Credits:

Created with images by Africa Studio - "Pile of toys on blue background" • kucherav - "Healthy eating and balanced nutrition ingredients clean food" • Pavlo Vakhrushev - "Beautiful dramatic sunset with sun rays and clouds" • Antony McAulay - "Supporter of Wales" • Prathankarnpap - "Young woman using mockup laptop computer on table." • Syda Productions - "tour bus driving outdoors" • pkanchana - "Empty public toilet interior."