View Static Version

Llais Beca Cylchlythyr Ysgol Beca

Rhifyn 1 Tymor yr Haf 2024

Mae'n bleser cyflwyno cylchlythyr sy'n cynnwys newyddion am ddisgwyddiadau a gweithgareddau'r ysgol yn ystod yr hanner tymor yma.

Issue 1 Summer Term 2024

It is a pleasure to present a newsletter which contains news about the school's events and activities during this half term.

Dyddiadau Allweddol / Key Dates

3.6.24 Disgyblion a staff yn dychwelyd i'r ysgol / Pupils and staff return to school

6.6.24 Ffotograffau Blwyddyn 6 a Dosbarthiadau / Year 6 and Class Photographs

14.6.24 Mabolgampau / Sports Day

21.6.24 Ffotograff Ysgol Gyfan / Whole School Photograph

24.6.24 - 27.6.24 Pontio Ysgol Preseli Blwyddyn 6 / Year 6 transition to Ysgol Preseli.

4.7.24-5.7.24 Pontio Ysgol Dyffryn Taf Blwyddyn 6 / Year 6 transition to Ysgol Dyffryn Taf.

13.7.24 Ffair Haf / Summer Fayre

18.7.24 (Dydd Iau) Diwrnod olaf i staff a disgyblion / (Thursday) Last day for staff and pupils

Gwybodaeth / Information

'My School App'

Ein bwriad yw sicrhau sianeli cyfathrebu cadarn er mwyn bod rhieni yn derbyn gwybodaeth yn amserol am ddigwyddiadau a materion addysgol Ysgol Beca. Rydym wedi buddsoddi yn yr ap 'MySchoolApp' a gwelwyd bron pob rhiant yn ymrwymo i'r cyfrwng cyfathrebu. Dyma yw ein sianel cyfathrebu gyda rhieni sy'n caniatau i'r staff rhannu dyddiadau allweddol, newyddion a negeseuon allweddol gyda chymuned yr ysgol. Gwerthfawrogwn pe bai pob rhiant yn ymrwymo i'r dull yma o gyfathrebu. Pe bai argyfwng ysgol, dyma'r cyfrwng byddwn yn ei ddefnyddio i gyfathrebu gyda rhieni a staff. Ein bwriad yw gwneud defnydd llawn o'r ap felly anogaf i bob rhiant ddefnyddio'r ap. Bydd rhaid gwneud cais drwy ebost am fynediad i'r ap ac mae cymorth ar gael o'r swyddfa ar ddefnydd yr ap pe bai angen.

Our intention at ysgol Beca has been to ensure robust communication channels to ensure that parents receive timely information about events and educational matters. We have invested in the 'MySchoolApp' app and have seen the majority of parents commit to this medium of communication. This is our communication channel with parents which allows the staff to share key dates, news and key messages with the school community. We would appreciate it if all parents would commit to this method of communication. If there is a school emergency, this is the medium we would use to communicate with parents and staff. Our intention is to make full use of the app so I encourage all parents to use the app if you are not currently doing so. An application must be made by email for access to the app and help is available from the office on the download and use of the app if needed.

Cymorth Ariannol / Financial Support

https://www.gov.wales/get-help-school-costs#freeschoolmeals

Sylwer, pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim, mae ein hysgol yn derbyn cyllid ychwanegol a ddefnyddir i gadw costau ymweliadau addysgol a phrofiadau i'r plant yn is.

Please note that when you register for Free School Meals, our school could get additional funding which is used to keep the costs of educational visits and experiences for the children low.

Eich Llais / Your Voice

Wrth i’r flwyddyn academaidd ddod i ben, rydym yn gwahodd rhieni i fyfyrio ar y daith rydyn ni wedi’i rhannu gyda’n gilydd. Mae eich mewnwelediadau a'ch syniadau yn amhrisiadwy wrth lunio dyfodol cymuned ein hysgol. Er mwyn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, byddwn yn cynnal dau fforwm 'Yn fy marn i'. Dewiswch un dyddiad os ydych am ddod i'r ysgol. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i randdeiliaid rannu eu barn, eu meddyliau a’u hawgrymiadau ar gyfer gwella ein hysgol, cynnig syniadau am Gwricwlwm yr ysgol a thynnu sylw at arbenigedd yn y gymuned. Rydym yn deall efallai na fydd pawb yn gallu mynychu'n bersonol, felly rydym hefyd wedi sicrhau bod ffurflen ddigidol ar gael i'r rhai sy'n dymuno cyfrannu o bell. Mae eich mewnbwn yn hynod werthfawr i ni, ac rydym yn gwerthfawrogi'n fawr eich cyfranogiad yn y broses gydweithredol hon. Gyda’n gilydd, gallwn barhau i greu amgylchedd meithringar a chyfoethog ar gyfer ein disgyblion.

Fforwm 1 / Forum 1 : 25.6.24 @ 9:00-10:00

Fforwm 2 / Forum 2 : 1.7.24 @ 3:00 - 4:00

Cwblhewch y ffurflen hon os nad ydych yn medru mynychu fforwm / Please complete this form if you are unable to attend a forum

As the academic year comes to a close, we warmly invite parents to take a moment to reflect on the journey we've shared together. Your insights and ideas are invaluable in shaping the future of our school community. In order to ensure that every voice is heard, we will be hosting two 'In My Opinion' forums. You may choose one date. These sessions give stakeholders the opportunity to share their views, thoughts and suggestions for improving our school, offer ideas about the school's Curriculum and draw attention to expertise in the community. We understand that not everyone may be able to attend in person, so we have also made available a digital form for those who wish to contribute remotely. Your input is incredibly valuable to us, and we sincerely appreciate your participation in this collaborative process. Together, we can continue to create a nurturing and enriching environment for our pupils.

Hoffech chi ddysgu Cymraeg? Would you like to learn Welsh?

New Learn Welsh Course for Parents, Carers and the School Community

Would you like to learn Welsh to use with your children and within the family? Would you like to gain confidence in supporting your children to learn Welsh? We are hoping to run a new Welsh at Home course for Ysgol Bro Brynach and Ysgol Beca parents, carers and members of the school community.

It will be for 1.5 hours a week for 30 weeks at beginners’ level. You will learn new vocabulary and phrases to use at home and enjoy learning to speak about everyday activities relating to school and family life. You will learn a lot of songs and use websites and resources relevant to children.

Please complete this form by June 10th, 2024 to let us know if you would like to participate and when you’d be available to attend the course.

https://forms.office.com/e/vw0qwYYJhr

Cylchgronau'r Urdd Am Ddim

Cylchgronau cyffrous AM DDIM! Mae holl gylchgronau’r Urdd nawr ar gael yn ddigidol ac am ddim!

Free Urdd Magazines

Exciting FREE magazines! All the Urdd magazines are now available digitally and for free!

https://www.urdd.cymru/cy/cylchgronau/

Gweithgareddau / Activities

Ymadawyr / Leavers

Roedd Blwyddyn 6 yn hapus dros ben i dderbyn ei hwdis ymadawyr oddi wrth y CRhA. Hoffwn ddiolch am eich caredigrwydd, mae'r plant yn edrych yn smart iawn!

Year 6 received their Leavers hoodies from the PTA this half term. We would like to thank them for their generous gift, the children look very smart!

Ysgrifenwyr Ifanc / Young Writers

Roedd yn amser balch i ni yn Nosbarth Cwm Cerwyn cael nifer fawr o'n disgyblion yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth 'Young Writers' wrth ysgrifennu stori. Mae'r plant yma wedi ennill tystysgrifau, a hefyd yn cael eu gwaith wedi cyhoeddi mewn llyfr straeon byrion yn hwyrach yn y flwyddyn. Llongyfarchiadau!

We were so proud in Dosbarth Cwm Cerwyn to have so many of our pupils be successful in the Young Writers competition to write a short story. These children have been awarded certificates, but will also have their worked published in a book of short stories later this year. Congratulations!

Gwener Gwyllt

Rydym wedi bod yn brysur iawn yn ystod ein sesiynau Gwener Gwyllt. Mae pawb wedi helpu er mwyn symud cerrig, gwehyddu ffens a chreu twnnel gan ddefnyddio helyg o'r ardal allanol. Rydym hefyd wedi plannu nifer o goed ffrwyth ar dir yr ysgol er mwyn creu perllan Ysgol Beca.

We have been busy this half term during our Gwener Gwyllt sessions. We have been moving stones and weaving willow from our school grounds to make a fence, and a tunnel, in our garden area. We also planted lots of fruit trees to create our own orchard at Ysgol Beca.

Cwrs Beicio / Cycling Proficiency

Bu Blwyddyn 5 a 6 wrthi’n cymryd rhan mewn cwrs beicio’n ddiogel. Dysgon nhw sut i wirio bod y beic yn ddiogel, sut i ymateb yn briodol i beryglon ac ymarfer reidio’r beic yn ddiogel allan ar yr heol.

Year 5 and 6 took part in a safe cycling course. They learnt how to check that their bike is safe, how to respond appropriately to dangers and they also practised riding their bike safely out on the road.

Ymweliad Diogelwch RNLI / RNLI Safety Visit

Roedd y plant yn lwcus iawn i gael ymweliad oddi wrth yr RNLI er mwyn trafod diogelwch ar lan y mor. Cafodd pawb hwyl yn dysgu am wisgoedd penodol a beth ydy ystyr y baneri ar y traeth.

The children were very lucky to have a visit from the RNLI to discuss safety near the sea. Everyone had fun learning about the different clothes, equipment, and the meaning of different flags on the beach.

Dosbarth Carn Gyfrwy

Hanner tymor arall wedi hedfan yn ddosbarth Carn Gyfrwy! Mae wedi bod yn ddechreuad cyffrous iawn i dymor yr haf wrth i ni gymryd mantais o’r tywydd braf a thwym. Rydym wedi datblygu ein sgiliau Mathemateg a Rhifedd tymor yma trwy ffocysu ar ymarfer cyfri fesul rhif penodol o fewn dilyniant rhif, mesur tymheredd a chael profiad ymarferol wrth edrych ar gynhwysedd. Roedd y plant wrth eu boddau yn datblygu’r sgiliau yma wrth ddefnyddio cyfri fesul rhif penodol mewn ystod bywyd go iawn. Hanner tymor yma, rydym wedi denu ein ffocws tuag at ysgrifennu blog ar y gliniadur a pharatoi am ysgrifennu cerdd wrth ffocysu am ein teimladau. Mae’r plant wedi dyfalbarhau wrth adolygu ein berfau ‘ais’, defnyddio ansoddeiriau ardderchog, dod ar draws geiriau sy’n odli a chreu cymariaethau cyffrous. Roeddwn yn bles iawn gyda’r creadigrwydd ymddangosodd yn y dosbarth a’r defnydd o iaith effeithiol a phwerus. Ein thema tymor yma yw ‘Weithiau Rwy’n Teimlo…’. Ar draws yr ysgol rydym wedi ymgymryd â’r cyfleoedd dysgu i’r eithaf.

Yn nosbarth Carn Gyfrwy rydym wedi bod yn edrych ar ein hemosiynau. Mae’r plant wedi efelychu celf Pablo Picasso, dyfeisio strategaethau rheoli emosiwn a chynnal arbrawf effaith ymarfer corff ar ein corff. Rydym wedi bod yn cymryd mantais o’r tywydd braf hanner tymor yma yn ystod ein sesiynau Llun Llanast. Rydym wedi bod ymarfer technegau anadlu gan ddefnyddio swigod, ymlacio wrth wrando am synau gwahanol yn ein hamgylchedd, creu dyluniadau lliwgar a negeseuon positif ar yr iard wrth sicrhau rydym yn edrych ar ôl ein tir ysgol a bod yn derbyn gofal da. Mae Llun Llanast wedi bod yn gyffrous iawn hanner tymor yma gyda phlant Meithrinfa Ffynnonwen yn ymuno gyda ni pobl yn ail wythnos yn ddiweddar. Rydym wedi mwynhau croesawi bob un ac yn edrych ymlaen at barhau hanner tymor nesaf. Edrychwn ymlaen at hanner tymor cyffrous a phrysur arall, yn llawn profiadau dysgu a gweithgareddau hwylus!

Another half term has flown by in dosbarth Carn Gyfrwy! A very exciting beginning to the summer term as we take advantage of the fine, warm weather. We have developed our Mathematics and Numeracy skills this term by focusing on practicing counting by a specific number within a number sequence, measuring the temperature and gaining experience by practically looking at capacity. The children have thoroughly enjoyed developing these skills whilst using counting by a specific number within a real-life experience. This half term, we have been drawing our focus towards writing a blog on the laptop and preparing to write a poem focusing on our feelings. The children have persevered whilst revising verbs ending in ‘ais’, using amazing adjectives, discovering words that rhyme and creating creative comparisons/similes. We were so pleased with the creativity shown within the class and the use of effective and powerful language. Our theme this term is ‘Sometimes I Feel…’. Across the school we have been participating in various learning activities.

In dosbarth Carn Gyfrwy we have been looking at our feelings. The children have been imitating the work of artist Pablo Picasso, devising strategies to regulate our emotions and have conducted an investigation into the effect of exercise on our bodies. We have been ensuring to take advantage of the lovely weather we have experienced during Messy Monday sessions. We have practised breathing techniques using bubbles, relaxed whilst listening for sounds we hear in our environment, created colourful and positive messages on the yard whilst ensuring our school grounds are well looked after and cared for. Messy Mondays have been very exciting this half term with children from Meithrin Ffynnonwen joining us every two weeks recently. We have thoroughly enjoyed welcoming them and looking forward to continuing this next half term. We look forward to another exciting half term, full of fun learning experiences and activities!

Dosbarth Cwm Cerwyn

Yn ystod yr hanner tymor yma, mae Dosbarth Cwm Cerwyn wedi bod yn dysgu am ein hemosiynau o dan ein thema ‘Weithiau Rwy’n Teimlo.’ Mae’r dysgwyr wedi dechrau llyfryn ‘Llwybr Lleisiau’ yn ystod yr hanner tymor, lle maent yn gallu ymchwilio i gwestiynau o’u dewis nhw. Yr hanner tymor yma mae dysgwyr wedi ymchwilio os ydy anifeiliaid yn teimlo emosiynau a sut mae emosiynau yn gweithio, ymysg pethau eraill. Rydym wedi bod yn datblygu sgiliau cyfrifo canran, ffracsiwn a degolion yn ystod yr hanner tymor yma. Nawr maent yn symud ymlaen i ddatblygu sgiliau mesur a chyfrifo arwynebedd. Yn ein gwersi Iaith rydym wedi gwella sgiliau dadlau a chreu trafodaeth fel ‘Ydy sŵ yn greulon neu’n garedig?’ Yn Gwyddoniaeth, rydym wedi ymchwilio os ydy pobl dalach yn gyflymach na pobl sy'n fyrrach, gyda chanlyniadau diddorol! Hefyd, rydym wedi bod yn parhau i wella sgiliau codio wrth godio Micro:Bit i ddarllen tymheredd deunyddiau naturiol neu synthetig o gwmpas ardal yr Ysgol. Yn ystod ein gwersi ymarfer corff rydym wedi bod yn ymarfer taflu, dal a batio yn sesiynau rownderi ac rydym yn ymarfer yn frwd yn barod am y mabolgampau. Rydym hefyd wedi bod yn ymateb i ddarn o gelf ‘The Scream’ gan greu celf ein hunan sydd wedi selio ar emosiwn penodol.

During this half term, Dosbarth Cwm Cerwyn have been learning about our emotions and feeling under our theme ‘Sometimes I Feel.’ The pupils have started a ‘Llwybr Lleisiau’ book during this half term, where they are able to investigate and explore questions that they decide upon. So far we have researched if animals feel emotions, how emotions work, amongst other things. We have been developing our calculating skills when finding percentages, fractions and decimals of numbers. Now we are moving on to measuring and calculating area and perimeter. In our language lessons we improved our debating skills and held a class discussion on whether zoos were cruel or kind. In science, we investigated whether tall people were faster than short people and had some interesting results! We have also been developing our coding skills by programming a Micro:Bit to read the temperature of natural and synthetic materials in our school ground. During our PE sessions we have been improving our throwing, catching and batting during rounders sessions and we have also been practicing hard for our mabolgampau! We have also been looking at ‘The Scream’ during our art lessons and creating our own art based on an emotion.

‘Ni ddylai ddim eich rhwystro’

Diolch am eich cefnogaeth barhaus / Thank you for your continued support

NextPrevious