Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern
GWELEDIGAETH Y CLWSTWR
Bwriad Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern yw diwallu anghenion ein disgyblion, sy’n dod o gefndiroedd amrywiol mewn dalgylch gymysg yn Nwyrain Caerdydd, prifddinas Cymru.
Mae’r Pedwar Diben wrth galon Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern. Er mai dibenion hir dymor yw’r rhain, maent angen sylw dyddiol er mwyn cael eu gwireddu.
Wrth i ni arwain disgyblion sy’n falch o’u treftadaeth ddinesig yn ein prifddinas, mae Cymreictod, yr iaith Gymraeg a’i datblygiad hanesyddol yn greiddiol i’n gweledigaeth.
Mae plethu meysydd ein cwricwlwm yn bwrpasol yn sicrhau bod disgyblion Clwstwr Bro Edern yn elwa o ehangder y cwricwlwm tra’n canolbwyntio ar yr Hyn sy’n Bwysig.
Mae’r bobl a astudir yng Nghwricwlwm Clwstwr Bro Edern yn drawsdoriad amrywiol ac yn cynnwys modelau rôl sy’n ysbrydoliaeth i’r holl ystod o ddisgyblion yn y clwstwr.
Wrth gael eu magu mewn dinas aml-ddiwylliannol ble mae cyd-fyw a chyd-dynnu’n rhan allweddol o fywyd beunyddiol, mae ennyn goddefgarwch a pharch yn ein disgyblion yn hanfodol.
Mae annog uchelgais yn ein disgyblion yn golygu datblygu sgiliau a strategaethau cadarn i’w galluogi i wynebu llwyddiant a methiant. Mae dyfalbarhad a gwydnwch yn allweddol fel rhan o’r feddylfryd twf a fegir yn ein disgyblion.
Gwybodaeth gadarn sy’n gosod y sylfaen i ddisgyblion y clwstwr elwa o sgiliau a phrofiadau y gellir eu trosglwyddo i amryw o gyd-destunau heddiw, ac yn y dyfodol.
Mae rôl allweddol gan ein disgyblion i'w chwarae wrth i ni wynebu heriau ein planed yn yr unfed ganrif ar hugain, felly mae trwytho ein disgyblion yn eu cyfrifoldebau amgylcheddol yn rhan bwysig o'n cenhadaeth.
Mae gan ysgolion y clwstwr y gallu i drawsnewid bywydau ein disgyblion. Dyma ble maen nhw’n ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn cyfoethogi gweddill eu bywydau.
Mae’r gwreiddiau ac adenydd yn logo’r Clwstwr yn crisialu hyn.
Tymor 1
Y Celtiaid
Mae mewnfudo wastad wedi digwydd mewn hanes ac mae’n digwydd hyd heddiw. Mae pobl yn gadael cartref er mwyn bod yn ddiogel neu er mwyn chwilio am waith. Y Celtiaid oedd mewnfudwyr cyntaf i Gymru ac ynysoedd Prydain. Yma gallwch drafod gwledydd yn y byd ble mae hyn yn digwydd heddiw.
Sut daeth y Celtiaid i fyw yng Nghymru?
Pwy oedd y Celtiaid?
Cynnwys yr Uned:
Pwy oedd y Celtiaid?
Ble roedd y Celtiaid yn byw yng Nghymru a thu hwnt?
Sut lwyddon nhw i fewnfudo i Gymru?
Beth oedd effaith y Celtiaid ar y ffordd o fyw yng Nghymru?
Edrych ar ddillad, gemwaith, symbolau, patrymau oedd yn perthyn iddynt.
Creu tariannau gyda phatrymau Celtaidd.
Nodweddion tair Celtiaid (tair crwn a bryngaerau) - adeiladu Bryngaerau ar Minecraft.
Beth yw llwyth?
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Buddug
Caratacus (Caradog)
Gwenno Saunders
Prosiect Celfyddydol: "Y Celtiaid Cythryblus"
Celf: Cerfwedd Tarian. Creu a dylunio tariannau celtaidd.
Cerddoriaeth: Cyfansoddi darn o gerddoriaeth gyda offerynnau o ddeunyddiau naturiol.
Dawns: Creu Dawns Ryfel.
Tymor 2
Vene, Vidi, Vici!
Cyrhaeddodd lluoedd Rhufeinig ffiniau Cymru yn 48 OC, bum mlynedd ar ôl iddynt ddechrau eu concwest o Brydain. Buont yn aros yng Nghymru am dros 300 mlynedd. Eu prif nod oedd gwneud eu hymerodraeth mor fawr a phwerus â phosibl. Roeddent hefyd yn chwilio am adnoddau naturiol, megis metelau gwerthfawr, caethweision, a thir fferm. Roedd gan Brydain lawer o ddeunyddiau gan gynnwys haearn, plwm, copr, arian, ac aur yr oedd eu hangen ar y Rhufeiniaid i gynnal eu hymerodraeth a'u byddin gynyddol.
Roedd Cymru yn arbennig yn ffynhonnell gyfoethog o gyfoeth mwynol, a defnyddiodd y Rhufeiniaid eu technoleg beirianyddol i echdynnu symiau mawr o aur, copr, a phlwm, yn ogystal â symiau cymedrol o rai metelau eraill megis sinc ac arian.
Yn yr uned hon bydd y disgyblion yn dysgu am bwy oedd y Rhufeiniaid, beth wnaethon nhw i ni ac yn edrych ar eu hetifeddiaeth barhaol.
Sut newidiodd y Rhufeiniaid ein bywydau?
Cynnwys yr Uned:
Pwy oedd y Rhufeiniaid?
Ble roedd y Rhufeiniad yn byw yng Nghymru a thu hwnt?
Sut lwyddon nhw i fewnfudo i Gymru?
Beth oedd effaith y Rhufeiniaid ar y ffordd o fyw yng Nghymru? Adeiladau ac isadeiledd - trefi Rhufeining, labelu fila ayyb.
Sut oedd byddin y Rhufeiniaid wedi’i threfnu? Sut oedd y Rhufeiniaid yn ymladd?
Edrych ar Cesar a’r Senedd.
Cyflwyno trosolwg syml o Senedd i Gymru gan bwysleisio mae ni y bobl sydd yn pleidleisio dros ein harweinydd.
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Magnus Maximus (Breduddwyd Macsen Weldig)
Iwl Cesar
Elen Luyddog - gwraig Macsen
Caratacus (Caradog)
Iwl Cesar
Prosiect Celfyddydol: "Pompeii"
Drama: Creu cymeriadau yn seiliedig ar y stori Saesneg "Escape from Pompeii"
Celf: Gwaith argraffu a mosaics Rhufeinig.
Ffilm: Creu ffilm gan ddefnyddio technegau amrywiol megis sgrin werdd.
Tymor 3
Teithio a Dyfeisio!
Mae teithio yn rhan allweddol bwysig o’n bywydau. Yn ystod yr hanner tymor hwn rydym am edrych ar y gwahanol ddulliau o deithio sydd yn bodoli. Byddwn hefyd yn edrych ar ddulliau lleol o deithio a sut mae teithio wedi newid i fod yn fwy cynaliadwy. Erbyn diwedd yr uned hon fe fydd y disgyblion gyda gwybodaeth gadarn o deithio a theithiau enwog drwy hanes.
Rydym am roi cyfleoedd i’r disgyblion i fod yn ddyfeisgar. Yn ystod yr hanner tymor hwn rydym am i’r plant fod yn greadigol gan ddefnyddio technoleg a datblygu ei sgiliau dylunio i greu ac i gyflwyno eu prototeip i dden y dyfeiswyr!
Sut mae pobl yn teithio o le i le?
Allwch chi greu cerbyn i gludo pobl i leoliadau arbennig?
Cynnwys yr Uned:
Teithio o amgylch y wlad.
Sut mae pobl yn teithio ar draws y byd?
Beth yw manteision ac anfanteision gwahanol ddulliau o deithio?
Sut mae cerbydau yn cael eu addasu ar gyfer pobl gyda anableddau?
Cynllunio a chreu cerbyn.
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Dylunwyr trafnidiaeth enwog e.e Amelia Earhart
Y Gofodwr - Tim Peake
Prosiect Celfyddydol: "Y Daith"
Drama: Ysgrifennu sgrip ar gyfer rhaglen radio / podlediad
Cerddoriaeth: Cyfansoddi jingl i'r rhaglen radio / podlediad.
Ffilm: Creu rhaglen radio / podlediad.