Themau tymor nesaf / Next term's themes
Y Byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol / The World, it's past, it's present, it's future
Gwerth y Mis/Value of the Month
Chwefror/February - Gonestrwydd/Honesty
Mawrth/March - Symlrwydd/Simplicity
Hawl y Mis/Right of the Month
Chwefror/February - Erthygl 13 - Eich hawl i gael gwybodaeth / Article 13 - Your right to information.
Mawrth/March - Erthygl 30 - Eich hawl i ddefnyddio eich iaith eich hun / Article 30 - Your right to use your own language.
Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember
12-16.02.2024 - Gwyliau/Holidays
Dydd Llun 19.02.2024 Monday - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school
20-21.02.2024 - Derbyn/Reception - Sgrinio Clyw, Taldra a Phwysau / Hearing, Height & Weight Screening
22.02.2024 - B5/6 - Cystadleuaeth Pȇl-droed Merched yr Urdd / Girls Urdd Football Competition
22.02.2024 - B3/4 - Gŵyl Rygbi Cymysg / Mixed Rugby Festival
22.02.2024 - B6 - Ymweliad i Fferm gyda Cook 24 / Visit to a Farm with Cook 24
26.02.2024 - HMS / INSET
28.02.2024 - Rhagbrofion Eisteddfod yn Trimsaran / Eisteddfod Preliminaries in Trimsaran
29.02.2024 - B6 - Gweithdy 'Ynni Da' Workshop (renewable energy)
01.03.2024 - Dydd Gŵyl Dewi / St David's Day
02.03.2024 - Eisteddfod Gylch yn Ysgol y Strade / Local Eisteddfod at Ysgol y Strade
05.03.2024 - B3 - Ymweliad i Ganolfan Ailgylchu Nantycaws / Visit to Nantycaws Recycling Centre
07.03.2024 - Diwrnod y Llyfr - thema 'Ble mae Wally?' - disgyblion i wisgo coch a gwyn neu streipiau coch a gwyn fel Wally / World Book Day - 'Where's Wally?' theme - pupils to wear red and white or red and white stripes
07.03.2024 - B2/3 a B5/6 - Gŵyl Rygbi / Rugby Festival
08.03.2024 - 09:10 Gwasanaeth Dosbarth Derbyn Class Assembly
15.03.2024 - 09:10 Gwasanaeth Dosbarth Meithrin Class Assembly
15.03.2024 - Diwrnod Trwyn Coch / Red Nose Day
18.03.2024 - Derbyn-B6 - Farnais Fflworid / Fluoride Varnish
19-20.03.2024 - B5/6 Taith i Lundain / Trip to London
21.03.2024 - B5/6 - Gŵyl Rygbi Merched / Girls Rugby Festival
22.03.2024 - 09:10 Gwasanaeth Blwyddyn 1 Assembly
23.03.2024-07.04.2024 - Gwyliau/Holidays
08.04.2024 - HMS/INSET
09.04.2024 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to schooL
09.04.2024-26.04.2024 - B3/4 - Gwersi Nofio/Swimming Lessons
Archebu cinio ysgol dyddiol / ParentPay Daily Meals Bookings
Atgof Pwysig:
Gall pob teulu gofio bod yn rhaid archebu pryd bwyd eu plentyn ar ParentPay cyn 8yb bob dydd gan ei fod yn helpu staff y gegin i ddarparu bwyd ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys plant sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim a'r plant hynny ym mhob dosbarth hyd at Flwyddyn 5 sydd â hawl i UPFSM.
Gofynnwch yn y dderbynfa os nad ydych yn gwybod sut i wneud hyn.
Diolch am eich cefnogaeth gyda'r mater hwn.
Important Reminder:
Please can all families remember that they must book their child's meal on ParentPay before 8am each day as it helps the kitchen staff cater accordingly. This includes children who are in receipt of Free School Meals and those children in all classes up to Year 5 who are entitled to UPFSM.
Please ask in reception if you don't know how to do this.
Thank you for your support with this matter.
Blwyddyn 5/6 - Gwyl Rygbi Cymysg ym Mharc y Scarlets / Mixed Rugby festival at Parc y Scarlets
Blwyddyn 3/4 Rygbi TAG a Blwyddyn 5/6 Rygbi TAG Merched yr Urdd yn Dyffryn Amman / Year 3/4 TAG Rugby and Year 5/6 Girls Urdd TAG Rugby in Dyffryn Amman
Ffair Iaith / Language Fayre
Daeth Ameer i’r ysgol i gynnal Ffair Iaith fel rhan o’i ymgyrch #1miliwn. Bu disgyblion Blynyddoedd 4, 5 a 6 yn mwynhau cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gwahanol i hybu’r iaith Gymraeg e.e creu blog a chynnal sioe radio ffug. Diolch yn fawr i Ameer am godi ymwybyddiaeth yr Iaith Gymraeg ac am roi cyfle i’r disgyblion rhoi eu barn am yr iaith.
Ameer came to the school to hold a Language Fair as part of his #1million campaign. Pupils in Years 4, 5 and 6 enjoyed taking part in a number of different activities to promote the Welsh language e.g. creating a blog and hosting a fake radio show. Many thanks to Ameer for raising awareness of the Welsh Language and for giving the pupils an opportunity to give their opinion about the language.
Meithrin
Yn ystod yr hanner tymor yma rydym ni wedi bod wrth ein bodd yn dysgu llawer am ein tymor newydd a sut i ofalu am yr anifeiliaid tu allan yn y tywydd oer. Dysgom am wahanol adar sydd o gwmpas a chafodd pawb gyfle i fynd am dro o amgylch yr ysgol i weld pa adar oedd yna. Gofynnodd y plant pa fath o fwyd roedd yr adar yn hoffi a dechreuom greu bwyd blasus iddyn nhw gan ddefnyddio hadau a menyn cnau. Wrth i’r tywydd oeri rydym wedi dechrau dysgu am y tymhorau a beth sydd yn newid wrth i’r misoedd fynd heibio. Dysgom am dymor y Gaeaf a buom yn ffodus iawn i weld bach o eira yn disgyn wrth chwarae yn ein hardal allanol. Braf oedd gweld llawer o wynebau hapus iawn y diwrnod yna. Fe wnaeth pawb fwynhau gwrando ar y stori ‘Pengwin ar ei wyliau’ a chymryd rhan yn y llawer o weithgareddau wnaeth ddilyn. Buom yn paratoi bag i’r pengwin i fynd ar wyliau ar gyfer llefydd poeth ac oer, dysgu sut i helpu’r pengwin arnofio ar draws y môr a thynnu llun ein hoff ran allan o’r stori ar y cyfrifiadur.
Rydym yn edrych ymlaen at barhau’r efo’r thema ar ôl hanner tymor. Mwynhewch y gwyliau!
During this half term we have been excited learning about our new season and learning how to look after the different animals around us. We recently learnt about the birds that fly around us and everybody had lots of fun going on a walk around the school to see what birds we could see. The children were interested to learn what type of food the birds enjoy and how we could make them some tasty treats. We decided to use peanut butter and bird seeds to place around the school grounds. As the weather gets colder, we have started learning about the different seasons and what changes happen as months pass. We have been learning all about the Winter and were lucky enough see a little bit of snow fall in our outside area. There were many happy faces that day making snowballs and mini snowmen. We all loved listening to the story “A Penguin on holiday” and enjoyed the fun activities that followed. Packing a case for the penguin with clothes needed for both a hot or cold holiday, learning how we could help the penguin float across the sea safely and drawing our favourite parts of the story on the iPad.
We look forward to continuing with the theme after half term and learning lots of new facts. Enjoy the half term holidays.
.
Derbyn
Dechrau digon oer oedd i’r tymor newydd nôl ym mis Ionawr. Cyfle perffaith felly i ddysgu am y gaeaf a’r newidiadau hyfryd sydd yn digwydd o’n cwmpas ar yr adeg yma o’r flwyddyn. Roedd sylwi ar y rhew ar ôl noson oer iawn wedi sbarduno sawl trafodaeth ymysg y disgyblion ac fe fuom yn brysur yn gwneud marciau a phatrymau yn y rhew oedd wedi ffurfio ar y ffens, y bocs storio a’r llawr.
Yn dilyn stori ‘Pengwin ar ei wyliau’ aethom ati i drafod y gwahanol fathau o ddillad byddai angen arnom wrth fynd ar wyliau. Aethom ati i bacio ces i’r pengwin i fynd ar ei wyliau i’r traeth a ces arall i Ffranc y Cranc fynd ar ei wyliau i begwn y de.
Un bore fe dderbyniom lythyr arbennig oddi wrth Pengwin yn gofyn am ein help. Roedd yn barod i ddychwelyd o’i wyliau ar y traeth ond roedd ganddo broblem – roedd y darn iâ gwnaeth deithio arni ar draws y môr i’r traeth wedi toddi yn yr haul ac nid oedd yn gwybod sut allai deithio adref. Aethom ati i arbrofi gyda llawer o wahanol ddeunyddiau i weld p’un ai roedden nhw’n suddo neu’n arnofio. Cawsom llawer o hwyl yn chwilio am ddeunyddiau gwahanol ac fe benderfynom mai plastig fyddai orau i greu cwch i Pengwin deithio yn ôl o’i wyliau yn ddiogel ac yn sych!
Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi bod yn dysgu am adar yr ardd. Fe sylweddolom ni fod y pridd yn gallu bod yn galed iawn yn ystod y gaeaf a’i fod yn anodd iawn i’r adar bach i ddod o hyd i fwyd. Aethom ati i wneud bwyd i’r adar ac rydym wedi eu gosod ar y coed o gwmpas yr ysgol. Yn yr ardal greadigol rydym wedi mwynhau creu lluniau ar ddeunyddiau gwahanol - mae peintio ar ‘cling film’ sydd wedi ei lapio o gwmpas y bwrdd yn llawer o hwyl ac mae’n amlwg bod sawl artist addawol iawn yn ein plith. Yn ein tŷ bach twt rydym wedi bod yn brysur yn dysgu sut i baratoi llysiau i wneud cawl yn barod ar gyfer dydd gŵyl Dewi. Roedd pob un yn ofalus iawn wrth ddefnyddio cyllyll a phlicwyr ac roedden nhw hefyd yn arbennig wrth fynd ati i dacluso, clirio a golchi’r llestri a ddefnyddiwyd. Mae wedi bod yn hanner tymor prysur ond cyffrous iawn yn y dosbarth. Edrychwn ymlaen i ddychwelyd i’r dosbarth ar ôl y gwyliau.
It was quite a cold start to the new term back in January. A perfect opportunity to learn about winter and the wonderful changes that happen around us at this time of year. Noticing the ice after a very cold night had triggered several discussions among the pupils and we have been busy making marks and patterns in the ice that had formed on the fence, the storage boxes and the floor.
Following the story 'Penguin on holiday' we started to discuss the different types of clothes we would need when going on holiday. We set about packing for two different types of holidays - one for the penguin to go on holiday to the beach and another one for Crab to go on holiday to the South Pole.
One morning we received a special letter from Penguin asking for our help. He was ready to return from his beach holiday but had a problem – the piece of ice he had travelled on across the sea to the beach had melted in the sun and he didn’t know how he could come home. We experimented with many different materials to see if they would sink or float and decided that plastic would be best to create a boat for Penguin to travel back from holiday safe and dry!
Over the last few weeks, we have been learning about garden birds. We realized that the ground can be very hard during the winter and that it is very difficult for the little birds to find food. We set out to make food for the birds and have placed them on the trees around the school.
In the creative area we have enjoyed making pictures on different materials – painting on cling film wrapped around the table seems to be a favourite and there are several very promising artists among us. In our role play area we have been busy learning how to prepare vegetables to make ‘cawl’ ready for St Davids day. We were very careful when using knives and peelers and were also particularly good when it came to tidying, clearing and washing the dishes used!
It has been a busy but very exciting half term in the classroom. We look forward to returning to class after the holidays.
Cook 24
Ar hyn o bryd mae disgyblion Blwyddyn 6 yn cymryd rhan mewn prosiect coginio yn yr ysgol a bydd hyn yn cynnwys taith i fferm. Ariennir y prosiect gan y Llywodraeth ac mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr.
Mae'r disgyblion yn mwynhau gwersi coginio bob dydd Iau yn yr ysgol gan gogyddion proffesiynol. Dyma rai lluniau.
Year 6 pupils are currently taking part in a cooking project at school and this will include a trip to a farm. The project is funded by the Government and in partnership with Coleg Sir Gar.
Pupils are enjoying cookery lessons every Thursday at the school from professional chefs. Here are some photos.
Blwyddyn 1
Er ei bod hi’n hanner tymor byr iawn rydyn ni dal wedi bod yn brysur iawn ym Mlwyddyn 1. Dros yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi dechrau dysgu sut oedd bywyd yn arfer bod yn ystod Oes Fictoria. Rydym wedi bod yn cymharu ein hystafell ddosbarth i un Fictoraidd ac rydym hefyd wedi edrych ar ba deganau sydd gennym o gymharu â’r teganau y byddai plant wedi’u cael yn oes Fictoria. Gan y byddai rhai plant wedi gorfod gwneud eu teganau eu hunain yr holl flynyddoedd yn ôl, rydym hefyd wedi bod yn gwneud ein teganau ein hunain yn y dosbarth. Meddyliom am syniadau fel ysbienddrych, pêl mewn cwpan a chwpanau ar linyn i siarad â'n gilydd. Wrth edrych ar deganau modern roeddem yn gallu gweld bod llawer o'r rhain bellach yn defnyddio trydan. Er mwyn datblygu ein dealltwriaeth ymhellach fe ddechreuon ni archwilio a defnyddio cylchedau syml. Roeddem wrth ein bodd yn arbrofi i weld beth oedd ei angen i gwblhau cylched a dysgu sut mae switsh yn gweithio. Yn ystod yr hanner tymor hwn rydym wedi bod yn datblygu ein sgiliau mesur ymhellach. Rydym wedi dysgu sut i gymharu pwysau gwahanol wrthrychau, a hefyd datblygu ein dealltwriaeth o sut i ddefnyddio clorian cydbwyso i ddarganfod pwysau gwrthrychau amrywiol. Wrth i ni symud ymlaen at yr hanner tymor nesaf byddwn yn parhau i ddysgu am oes Fictoria ac edrychwn ymlaen at ymweld â Sain Ffagan i weld sut oedd cartrefi a siopau yn ystod y cyfnod hwnnw.
Even though it’s been a very short half term we have still been very busy in Year 1. For the last few weeks, we have started learning about how life used to be during the Victorian times. We have been comparing our classroom to that of a Victorian one and we have also looked at what toys we have compared with the toys children would have had in the Victorian era. As some children would have had to make their own toys all those years ago, we have also been making our own toys in class. We came up with ideas such as binoculars, ball in a cup and cups on a string to talk to each other. While looking at modern toys we were able to see that a lot of these now use electricity. To develop our understanding further we then began exploring and using simple circuits. We loved experimenting to see what was needed to complete a circuit and learning how a switch works. During this half term we have been further developing our measuring skills. We have learnt how to compare the weights of different objects, and we also developed our understanding of how to use balancing weighing scales to discover the weight of various objects. As we continue into the next half term we will continue our learning about the Victorian age and we look forward to visiting St Fagan’s to see how homes and shops used to be during that time.
Cyngor Eco Council
Diolch yn fawr i Mari Arthur am ddod i’r ysgol i ymuno ag un o’m cyfarfodydd. Wrth drafod ein syniadau rydym wedi ymgeisio am arian ar gyfer prosiect newydd i’r Cyngor Eco â’r gymuned. Croeswn bopeth ein bod yn llwyddiannus. Hoffwn hefyd ychwanegu, bod yna rhesel ddillad yn ein derbynfa. Mae llawer o wisgoedd ysgol yna, felly os oes angen unrhywbeth arnoch plis dewch i edrych i weld os ydy’r maint cywir yna cyn mynd i brynu un newydd.
Thank you very much to Mari Arthur for joining the Eco council once again for a meeting. Following discussions about our plans for the future we have applied for a grant for another new project for the Eco Committee and the community. We are crossing our fingers that we will be successful. We would also like to remind you that there is a clothes rail in the reception full of school uniform, please come and look here before going out to buy new.
Blwyddyn 2
Wel, mae’r hanner tymor yna wedi hedfan! Dechreuom ni’r tymor gyda sbardun ar gyfer ein thema newydd ac aethom ar daith i draeth Llanelli lle cawsom ni’r cyfle i chwarae, creu gwaith celf a chynnal arolwg sbwriel. Yn gyffrous, darganfyddom neges mewn potel wrth fôr leidr yn gofyn i ni helpu i gadw’r traeth yn ddiogel a thaclus! Rydyn ni wedi bod wrth ein boddau yn dechrau ein sesiynau ‘Kerbcraft’. Mae’r sesiynau yma mor bwysig oherwydd rydyn ni’n dysgu sut i gerdded ar y palmant a chroesi’r heol yn ddiogel. Sgiliau bywyd pwysig iawn! Daeth Cwmni ‘ADA Recycling’ mewn i’r ysgol i ddysgu ni am bwysigrwydd arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu. Cawsom ni lawer o syniadau o’r pethau yr oeddem yn gallu gwneud yn yr ysgol ac yn y tŷ. Rydym hefyd wedi bod yn dysgu sut i gasglu data, creu pictogramau a graffiau ar J2Data a chynnal arbrawf gwyddonol. Uchafbwynt ein hanner tymor oedd cynnal ein gwasanaeth dosbarth. Roedden ni wrth ein boddau yn cyflwyno fel môr ladron i’r rhieni. Fe wnaethom ni ganu, rapio, dawnsio a joio mas draw.
Well, that half term flew by! We started the term with a taster day for our new theme and went on a trip to Llanelli beach where we had the opportunity to play in the sand, create artwork and carry out a litter survey. Excitingly, we found a message in a bottle from a pirate asking us to help keep the beach safe and tidy! We’ve really enjoyed starting our ‘Kerbcraft’ sessions. These sessions are very important because we learn how to walk on the pavement and cross the road safely. Very important life skills! 'ADA Recycling' came into school to teach us the importance of reducing, reusing and recycling items. They gave us plenty of ideas of things we could do at school and at home to help look after our planet. We have also been learning how to collect data, create pictograms and graphs on J2Data and complete Science investigations. The highlight of our half term was holding our class assembly. We loved presenting as pirates to our parents. We sang, rapped, danced and had lots of fun.
Blwyddyn 3
Am hanner tymor byr, ond am dymor arbennig! Ar gyfer y tymor newydd, mae gennym ni thema newydd, sef ‘Dylunio’r Dyfodol’. I ddechrau’r thema, fe wnaethon ni drafod ein prosiect mawr am y tymor sef perfformio sioe ffasiwn ym mis Mawrth. Felly, rydym wedi bod yn brysur gyda’r paratoadau ar gyfer ein sioe ffasiwn foesegol.
Yn ein gwersi Mathemateg, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ddata. Ar ddechrau’r hanner tymor, edrychon ni ar Ddiagramau Carroll a Venn. Roedd Blwyddyn 3 yn awyddus iawn i ddidoli’r eitemau ailgylchu i mewn i Ddiagram Venn, a deall y gwahanol ffyrdd o ddidoli data. Maent hefyd wedi bod yn dehongli gwahanol graffiau. O fewn graff bar, atebon nhw gwahanol gwestiynau ar law a sut mae newid hinsawdd wedi cael effaith ar y glaw a gwympwyd yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.Yn ystod ein hastudiaethau thema, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ddinasyddiaeth a sut mae gennym ni gyfrifoldeb i edrych ar ôl ein byd. Ar gyfer y sioe ffasiwn, rydym wedi bod yn ymchwilio gwahanol ddillad, a sut mae’r byd ffasiwn yn effeithio ar newid yn yr hinsawdd. Dysgom ni fod ffasiwn gyflym yn effeithio’r byd mewn ffordd wael, ac mae angen i ni brynu dillad ail-law, neu ddillad o fusnesau lleol a fydd yn para am flynyddoedd. Dysgom ni hefyd am ble rydym yn byw a sut rydym yn perthyn i’r byd trwy edrych ar ein pentref, sir, gwlad, cyfandir a'r byd ehangach. Yn ogystal â hyn, defnyddiom ni Microbits am y tro cyntaf! Gwnaethon nhw côd ar gyfer rhwydi pysgota, lle mae’r rhwydi yn goleuo yn y môr i helpu gwahanol greaduriaid y môr i osgoi rhwydi pysgota peryglus a hyrwyddo pysgota cynaliadwy.
Rydym yn edrych ymlaen at ein hymweliad i’r ganolfan ailgylchu yn Nantycaws, ble byddwn yn archwilio ailgylchu a sut mae ail-ddefnyddio eitemau yn helpu’r byd.
That’s another half term flown! This new term brings a new theme, which is ‘Designing the Future’. To start the theme, we discussed what we’d like to learn in the lead up to our big fashion show coming up in March. We’ve begun our preparation for the big performance!
In our Mathematic lessons, we have been concentrating on data. We looked at Venn diagrams and Carroll diagrams. Year 3 were very enthusiastic to distribute the recycling items into the correct part of the diagrams. They learned a lot about the recycling symbols on different packaging, and what they meant. They’ve also been looking at different graphs and learnt how to read a bar graph. The graph concentrated on how rainfall in Wales has increased owing to global warming.
During our thematic lessons, we have been concentrating on Citizenship and our responsibility to look after the world. For the fashion show, we have researched different clothing and how the fashion industry contributes to climate change. We learnt that fast fashion effects the world in a negative way, and it’s important to buy clothes that will last, or buy second-hand clothes instead of buying new all the time. We’ve also learnt about where we live and how we relate to the world. We looked at our village, county, country and continent and where we are on the globe. Year 3 also experimented with Microbits and they coded them to flash and make a high pitched noise. We learned that this code could help sea creatures avoid fishing nets and promote sustainable fishing.
Year 3 are looking forward to our trip to the recycling centre next term, where we will see how recycling works and what part we play in looking after our planet.
Blwyddyn 4
Mae’r hanner tymor yma wedi bod yn un byr iawn, ond rydym wedi dysgu cymaint o bethau newydd. Rydym yn ffocysu ar effaith dur yn ardal Llanelli. Dysgom am Alexander Raby; Mr Beast y gorffennol dywed rhai! Daeth ef a gymaint o arian i Lanelli, adeiladodd gymaint a thrawsnewidiodd y dref oedd unwaith yn dref fechan dlawd, i dref llewyrchus. Rydym wedi dysgu am y broses o wneud dur, ac mae’n rhaid i ni ddweud rydym nawr yn wybodus iawn, roedd hyd yn oed Eleanor o gwmni TATA Steel wedi syfrdanu gyda’n ffeithiau ni! Rydym wedi ail greu ffatri dur, defnyddiodd rhai amryw o ddeunyddiau; cardfwrdd, papur, paent, tra bod eraill wedi defnyddio Minecraft. Hefyd gwnaethom defnyddio ein sgiliau creadigol i beintio llun gweithiwyr dur neu ffatri dur. Rydym wedi bod yn dadansoddi data a chreu graffiau bar. Tasgau heriol, ond wrth ymarfer fe lwyddodd pob un o’r disgyblion. Anodd iawn oedd darganfod barddoniaeth am ddur, felly tra bod y tywydd yn stormus, darllenom ddarn gan T Llew Jones; Y Storm. Roedd y plant yn gallu uniaethu yn syth, roedd bod o dan garthen wlanog yn llawer fwy apelgar na bod allan yn y storm! Rydym hefyd wedi bod yn ffocysu ar drafodaeth, mae’r cwestiynau mae’r disgyblion wedi codi wedi bod yn rhai i wneud i bawb feddwl, roedd dadleuon cryf o blaid ac yn erbyn y cwestiynau. Ein nofel yr hanner tymor yma yw ‘Y Dyn Haearn’ gan Ted Hughes, nofel sydd wedi gadael ni ar frigau’r draen, roedd Mrs Bowler yn rhy ofnus i ddarllen ymlaen ar adegau! Os gewch chi amser dros yr hanner tymor, ewch am dro i’r llyfrgell i fenthyg llyfrau, mae eich plant yn dwlu ar wrando ar storiau, ac mae’n ffordd wych o ddatblygu geirfa. Mwynhewch yr wythnos, ewch allan i’r awyr iach, ewch am anturiaethau a mwynhewch gwmni eich gilydd.
This half term has been a very short one, but we have learned so many new things. We are focusing on the impact of steel in the Llanelli area. We learned about Alexander Raby; Mr. Beast of the past some say! He brought so much money to Llanelli, he built so much and transformed the town, which was once a poor little town, into a prosperous town. We have learned about the process of making steel, and we have to say we are now very knowledgeable, even Eleanor from the TATA Steel company was amazed with our facts! We have recreated a steel factory, some used various materials, cardboard, paper, paint, while others used Minecraft. We also used our creative skills to paint a picture of steelworkers or a steel factory. We have been analysing data and creating bar graphs. Challenging tasks, but when practicing all the pupils succeeded. It was very difficult to find poetry about steel, so while the weather was stormy, we read a piece by T Llew Jones; The Storm. The children were able to relate immediately, being under a woollen blanket was much more appealing than being out in the storm! We have also been focussing on discussion, the questions the pupils have raised have been ones to make everyone think, there were strong arguments for and against the questions. Our novel this half term is 'Y Dyn Hearn' by Ted Hughes, a novel that has left us on edge, Mrs Bowler was too scared to read on at times! If you have time over half term, go for a walk to the library to borrow books, your children love listening to stories, and it's a great way to develop vocabulary. Enjoy the week, get out into the fresh air, go on adventures and enjoy each other's company.
Gweithdy Forensic Workshop
Mwynhaodd Blwyddyn 4 weithdy gwyddoniaeth Safleoedd yr Heddlu, Troseddau a Throseddu yn fawr. Buont yn edrych ar chwilio, arestio a DNA a daethant i ben gyda'r ymchwiliad i drosedd 'go iawn' lle daethpwyd â'u holl sgiliau ynghyd.
Year 4 thoroughly enjoyed the Police, Crimes and Crime Scene Science workshop. They looked at searching, arresting and DNA and concluded with the investigation of a 'real' crime scene where all their skills were brought together.
Blwyddyn 5
Dechreuodd ein hanner tymor gyda gwibdaith ar y trên i Abertawe. I rai ohonom, dyma oedd y tro cyntaf i ni fynd ar drên! Roedd yn brofiad gwych. Pwrpas y wibdaith oedd i gymharu pentref, tref a dinas. Byddwn yn gallu cymharu dinas Abertawe gyda Llundain pan fyddwn yn ymweld â’r brifddinas ym Mis Mawrth hefyd. Gwelsom wahaniaethau mawr rhwng Trimsaran ac Abertawe, mae pont enfawr, lliw aur newydd wedi’i hadeiladu yn Abertawe ac fe gerddom drosti i weld yr Arena newydd sbon. Pont ychydig yn wahanol i’r un gerddom drosti yn y Godian.
Yn ogystal ag edrych ar y gwahaniaethau rhwng pentref a dinas, bûm yn astudio mapiau. Gwnaethom llawer o waith ar gyfesurynnau a datrys y pellter ac amser yn byddai’n cymryd i fws deithio llwybr gan ddefnyddio’r graddfa ar y map. Ar Google Classroom, dysgom pa symbolau sydd yn cael eu defnyddio ar fapiau Ordnance Survey – gyda’r symbolau yma, aethom ati i greu ein mapiau ein hun. Hefyd, fe ddefnyddion ni Microbits i raglennu cwmpawd. Roedd y cwmpawd yn dangos cyfeiriad gogledd, de, dwyrain a gorllewin wrth ei symud o amgylch y dosbarth. Defnyddiol iawn wrth wneud gwaith mapiau!
Our half term started with a train excursion to Swansea. For some of us, it was the first time we boarded a train! It was a great experience. The purpose of the excursion was to compare village, town and city. We will also be able to compare the city of Swansea with London when we visit the capital in March. We saw big differences between Trimsaran and Swansea, a huge, gold coloured new bridge has been built in Swansea and we walked over it to see the brand new Arena. A slightly different bridge to the one we walked over in the Godian.
As well as looking at the differences between village and city, we studied maps. We did a lot of work on coordinates and working out the distance and time it would take for a bus to travel a route using the scale on the map. On Google Classroom, we learned what symbols are used on Ordnance Survey maps – with these symbols, we set out to create our own maps. We also used Microbits to program a compass. The compass indicated a north, south, east and west direction when moved around the classroom. Very useful when doing map work!
Blwyddyn 6
Mae Blwyddyn 6 wedi cael hanner tymor prysur iawn. Aethon ni ar drip i Gaerdydd i ymweld â’r Senedd. Cafodd y disgyblon gyfle i ofyn cwestiynau i Cefin Campbell a Lee Waters am amrywiaeth o faterion cyfredol. Hefyd aethon ni ar daith o amgylch yr adeilad gan gynnwys y siambr unigryw. Ar ôl bod yn y Senedd aethon ni ar y trên i’r Amgueddfa Genedlaethol. Roedd y disgyblion wrth eu bodd yn edrych ar yr anifeiliaid amrywiol a dysgu nifer o ffeithiau newydd. Hefyd dysgodd y plant ychydig am fywyd Beti Campbell ar ôl gweld ei chofeb yn y Brifddinas.
Daeth Ameer i’r ysgol fel rhan o’i ymgyrch #1miliwn. Bu’r disgyblion yn creu rhaglenni radio ffug, creu podcast, fideo tiktok a hefyd cael cyfle i drio’r gogls VR. Roedd hi’n braf gweld y disgyblion yn rhannu eu syniadau am yr iaith Gymraeg ac yn datblygu eu hyder i siarad yr Iaith.
Yn ystod yr hanner tymor, mae prosiect ‘Cook 24’ wedi bod allan gyda blwyddyn 6 yn coginio amrywiaeth o fwydydd gwahanol e.e.. pancos, sglodion, cwcis a nwdls cyw iâr. Mae’r dosbarth yn edrych ymlaen at ymweld â fferm fel rhan o’r prosiect ar ôl hanner.
Mae nifer o’r disgyblion wedi bod yn rhan o dimoedd pêl rwyd neu rygbi sydd wedi bod yn cystadlu dros yr hanner tymor diwethaf. Da iawn i bawb am gymryd rhan ac am gynrychioli’r ysgol. Mae’r dosbarth wedi dathlu diwrnod ‘Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel’ drwy gymryd rhan mewn sesiwn ar-lein a hefyd cynnal trafodaethau ynglŷn â bywyd ar-lein o fewn y dosbarth.
Daeth y Fenter Iaith i’r ysgol i gynnal ‘Disgo Tawel’. Roedd hyn yn rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru. Roedd y disgyblion wrth eu bodd yn chwarae gemau dawnsio wrth wrando ar gerddoriaeth Gymraeg.
Year 6 has had a very busy half term. We went on a trip to Cardiff to visit the Senedd. The pupils had the opportunity to ask Cefin Campbell and Lee Waters questions about a variety of current issues. We also went on a tour of the building including the unique chamber. After being in the Senedd we went by train to the National Museum. The pupils loved looking at the various animals and learning many new facts. The children also learned a little about Beti Campbell's life after seeing her memorial in the Capital.
Ameer came to the school as part of his #1million campaign. The pupils created fake radio programmes, created a podcast, a tiktok video and also had the opportunity to try the VR goggles. It was nice to see the pupils sharing their ideas about the Welsh language and developing their confidence to speak the language.
During the half term, the 'Cook 24' project has been out with year 6 cooking a variety of different foods e.g. pancakes, chips, cookies and chicken noodles. The class is looking forward to visiting a farm as part of the project after half term.
Many of the pupils have been part of netball or rugby teams that have been competing over the last half term. Well done to everyone for taking part and representing the school. The class has celebrated 'Using the Internet more Safely' day by taking part in an online session and also holding discussions about online life within the class.
The Menter Iaith came to the school to hold a 'Silent Disco'. This was part of the Welsh Music Day celebrations. The pupils loved playing dancing games while listening to Welsh music.