View Screen Reader-Friendly Version

Tafod Tirdeunaw

Rhifyn 17 ~ Mawrth 2026

Cam Cynnydd 1

Rydym wedi bod yn ffodus iawn eleni i fod yn rhan o prosiect wyau Fferm Cymunedol Abertawe yn gofalu am wyau ac yn dysgu am cylch bywyd y cyw iar. Mae'r plant wedi mwynhau gweld yr wyau yn deor ac yn gwylio'r cywion yn datblygu ac yn tyfu yn stod yr wythnos. / We've been fortunate this year to be a part of Swansea Community's farm incubator project looking after the eggs and learning about the life cycle of the chicken. The children have enjoyed seeing the eggs hatch and watching the chicks develop and grow during the week.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ein sgiliau TGCH y tymor yma yn creu lluniau on cywion bach/ We have been working on our ICT skills this term creating pictures of little chicks
Mae'r plant wedi mwynhau gwylio'r cywion bach yn tyfu pob dydd/ The children have enjoyed watching the little chicks grow every day.
Dyma plant yn cael cyfle i ddal y cywion tra yn dysgu am cylchred byw Iar./ Here children have the opportunity to hold the chicks while learning about the Chicken's life cycle
Aethom draw i lyfrgell Penlan er mwyn cael sesiwn stori tra yn dathlu Diwrnod y llyfr. Cawsom croeso cynnes ac amser i chwarae yn y parc ar ol. / We went to Penlan library for a story session to celebrate world book day. We had a warm welcome and time to play in the park afterwards.
Dathlu Diwrnod y llyfr / Celebrating world book day
Amser arbennig gyda'r Urdd yn gwneud gweithgareddau Awyr Agored wrth cyfri, chwilio, chwarae a dysgu geirfa newydd. / A great time with Urdd doing outdoor activities, counting, hunting, playing and learning new vocabulary.
Allan ar y beiciau yn ymarfer cyd-bwyso a cymryd tro. Out on the bikes practicing our balance skills and taking turns.
Rydym wedi bod yn mwynhau gwaith Jigsaw ac yn didoli Beth yw ffrind da a ffrind drwg yn ystod y tymor. / Wee have been discussing what makes a good or a bad friend in our Jigsaw sessions.

Dysgom ni am Persi y Pengwin e ddiogelwch ar gyfer diwrnod E-ddiogelwch. / We learned about Persi the smart penguin for e-safety day

Cawsom amser arbennig yn sesiwn drymio Affricanaidd gyda chwmni Stick2. Bu'r plant yn brysur yn cymryd rhan yn y sesiwn yma yn dilyn gwersi ar stori Elfed/ We had a great time for an African drumming session with stick2 learning about the instruments and playing different beats. The children were busy taking part in this session following lessons on Elfed's story
Bu'r plant yn mwynhau llawer o wersi coginio y tymor yma. o greu bisgedi a chacennau i greu enfys allan o fwyd ac yna ei blasu./ The children enjoyed many cooking lessons this term. from creating biscuits and cakes to creating a rainbow out of food and then tasting it.
Blasu bwyddyd enfys/ Tasting all the rainbow foods
Bisgedi Santes Dwynwen/ St Dwynwens biscuits
Bu'r plant yn mwynhau creu hetiau Pasg ac yna yn ei arddangos i'r ysgol a'i rhieni ar ddiwedd ein thema./The children enjoyed creating Easter hats and then displaying them to the school and their parents at the end of our theme.
I ddathlu ein dysgu, fe aethom ar ymweliad i Oriel Gelf Glynn Vivan lle cafodd y plant cyfle i weld yr holl gelf yno a cael gwers ar sut i greu hunan bortead./To celebrate our learning, we went on a visit to the Glynn Vivan Art Gallery where the children had the opportunity to see all the art displays and have a lesson on how to create a self portrait of themselves.

Cam Cynnydd 2

Wythnos Ysbrydoli / Inspiration Week

Cafodd disgyblion Blynyddoedd 1, 2 a 3 y cyfle i gymryd rhan mewn treial blasu bwyd brawychus lle cawsant flasu bwydydd annymunol o bob cwr o'r byd. Mwynhaodd y plant flasu gwahanol fwydydd i ennill sêr. Roeddent wrth eu bodd eu bod wedi curo'r athrawon yn yr heriau. / Pupils in Years 1, 2 and 3 had the opportunity to take part in a bushtucker trial where they got to taste unsavoury foods from around the world. The children enjoyed tasting verious foods to win stars. They were over the moon that they beat the teachers in the challenges.

Ymennydd llygoden ffyrnig o Ffrainc / Rats brains from France
Perfedd dafad o Gymru / Sheep intestine from Wales
Llygaid pysgodyn o Norwy / Fish eyes from Norway
Toesenni gwaedlyd o'r Unol Daleithiau America / Bloody doughnuts from the United States of America
Baw panda o Tsieina / Panda poo from China
Ysgytlaeth ych-a- fi o St Lucia / Horrible milkshake from St Lucia
Cafodd Blwyddyn 1 y cyfle i chwarae gem a oedd yn ehangu eu geirfa am y thema ac yn dosbarthu y bwydydd mewn categoriau gwahanol. / Year 1 had the opportunity to play a game that helped to expand their vocabulary on our new theme and place the various food in their correct categories.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu / Language, Literacy and Communication

Ym Mlwyddyn 1, cawsom gyfle i greu addunedau y Flwyddyn Newydd a dyssgom gan draddodiadol. / We created New Year resolutions in Year 1 and learnt a traditional song that we performed within the class.
Cawsom y cyfle ym Mhlwyddyn 1 i greu adduned blwyddyn newydd ac hefyd dysgu can traddodiadol. Dyma ni'n canu. In Year 1 we had the opportunity to make a New Years resolution and we learnt a traditional New Years song to perform in class.
Darllenon ni ym Mlwyddyn 1 stori Oriol Oren a oedd yn dathlu ei phenblwydd ac roedd rhaid mynd ati i greu rhestr o fwyd addas ar gyfer y parti. / We read a a story about Oriol Oren's birthday in Year 1 and we needed to create a shopping list of all the foods needed for the party.
Dyma ni ym Mlwyddyn 1 yn weithgar dros ben yn canolbwyntio ar ein sesiynau dyddiol o Dric a Chlic. / Here we are in Year 1 working hard during our daily Tric a Chlic phonic sessions.
Dyma Blwyddyn 1 yn yr awyr agored yn ymarfer geirfa Tric a Chlic. Here is Year 1 outdoors practicing Tric a Chlic vocabulary.
Ar ddechrau'r thema, gweithiodd disgyblion Blwyddyn 2 Mrs Davies yn galed i adeiladu a sillafu enwau ffrwythau a llysiau. / At the beginning of the theme, Mrs Davies' Year 2 pupils worked hard to build and spell the names of fruit and vegetables.

Diwrnod y Llyfr / World Book Day

Dyma Blwyddyn 1 wedi gwisgo i fyny ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2026. Here is Year 1 dressed up for World Book Day 2026.
Cawsom ddiwrnod gwych yn ystod Diwrnod y Llyfr. Cafodd pawb y cyfle i wisgo i fyny a cwblhau gweithgareddau hwylus yn ystod y dydd. / We all had a wonderful time during World Book Day. We all had the opportunity to dress up and to take part in various activities during the day.

Rhai o blant Blwyddyn 1 wedi gwisgo i fyny yn ystod Diwrnod y Llyfr. / Some of the Year 1 children dressing up during World Book Day.

Cawsom ddiwrnod arbennig yn dathlu 'Diwrnod y Llyfr' a gwisgo i fyny fel ein hoff gymeriad. / We had a wonderful day celebrating 'World Book Day' and dressing up like our our favourite character.

Fe wnaethon ni greu llyfnodau lliwgar. / We created colourful book marks.

Mathemateg a Rhifedd / Mathematics and Numeracy

Dyma ni ym Mlwyddyn 1 wedi dysgu enwau cywir siapiau 2D ac wedi mynd ati i greu patrymau diddorol allan o'r siapiau. / In Year 1 we learnt the correct names of the 2D shapes and went on to create an interesting pattern out of the shapes.
Aeth Blwyddyn 1 o amgylch yr ysgol ar helfa siapiau. Roeddwn wedi rhyfeddu ar gymaint o siapiau a oedd wedi ei gwasgaru o amgylch y lle. Year 1 went around the school on a shape hunt. We found many shapes scattered around the place.
Aeth Blwyddyn 1 o amgylch cyffuniau yr ysgol i chwilio am siapiau 2D a 3D. Rhyfeddom ni faint o siapiau gwahanol gwnaethom ddarganfod. / Year 1 went around the school to identify 2D and 3D shapes. It was surprising how many shapes we discovered.
Roeddwn wedi mynd ati yn ymarferol i greu ciwb allan o toes a pren. Roedd y weithgaredd hon yn anoddach nag beth oedd y disgyblion wedi meddwl!

Dyma ni ym Mlwyddyn 1 wedi gwneud ychydig o waith ymarferol wrth adeiladu ciwb neu ciwboid allan o bren a toes. / In Year 1 we did some practical work when we built a cube or cuboid using wooden sticks and playdo.

Ym Mlwyddyn 1 creuom ni ciwb neu ciwboid wrth adeiladu caffi newydd i Aled Afal. / In Year 1 we created a cube or cuboid when we built a new cafe for Aled Afal.

Dyma Blwyddyn 1 yn pwyso ffrwythau.
Dyma Blwyddyn 1 yn amcangyfrif ac yna yn cyfri y nifer o flociau sydd yn cyfateb i bwysau o ffrwythau amrywiol. / Year 1 estimating and counting the number of blocks that match the weight of the various fruit.
Blwyddyn 1 yn amcangyfrif ac yn pwyso ffrwythau amrywiol. / Year 1 estimating and weighing various fruit.
Rydym wedi bod yn brysur yn amcangyfrifo, mesur a chofnodi cyfaint poteli maint gwahanol yma ym Mhlwyddyn 1. Roeddwn wedi mwnhau'r gweithgareddau yma!
Gwaith ymarferol wrth gyflwyno ffracsiynau. Dyma Blwyddyn 1 yn hanneri ac yn chwarteri brechdannau blasus. / Introducing fractions by doing some practical work! Year 1 halving and cutting delicious sandwiches into quarters.
Dyma Blwyddyn 1 yn hanneri a chwrateri'n ymarferol gan ddefnyddio bara. Year 1 have enjoyed using bread to practice their quarter and halving skills.

Mae Blwyddyn 1 wedi mwynhau trefnu rhifau mewn trefn o'r lleiaf i'r mwyaf. Year 1 have been busy placing the numbers in order from the smallest to the biggest.

Mae dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Davies wedi bod yn herio eu hunain i greu'r sgwâr cant yn yr amser cyflymaf. / Mrs Davies' Year 2 class have been challenging themselves to create the hundred square in the quickest time.

Mae Blwyddyn 2 wedi bod yn gweithio'n galed i adeiladu eu gwybodaeth o dablau 2, 5 a 10 trwy ddefnyddio grid lluosi a cheisio curo eu hamser ar 'Taro'r botwm'. / Year 2 have been working hard to build their knowledge of the 2, 5 and 10 times tables by using a multiplication grid and trying to beat their time on 'Hit the button'.

Mae Blwyddyn 2 wedi mwynhau eu sesiynau SBLAT lle maen nhw wedi dilyn gwahanol feini prawf llwyddiant i ddod o hyd i eilrifau ac odrifau, lluosrifau o 2, 5 a 10, a rhifau uwchben ac islaw rhifau penodol. / Year 2 have enjoyed their SPLAT sessions where they've followed different success criteria to find even and odd numbers, multiples of 2, 5 and 10, and numbers above and below certain numbers.

Rydym wedi cael yr her o ddysgu sut i rannu a rhannu gyda gweddill yn ystod y tymor. Da iawn ni! / We have had the challenge of learning to divide and divide with remainders. Well done us!

Gwnaethom dasg trefu rhifau pan wnaeth yr Urdd ymweld a ni. Roedd rhaid rhedeg i chwilio am y rhifau a defnyddio sgiliau meddwl i'w trefnu. / We had the task of organising numbers up to 30 by running to collect the numbers before using our thinking skills to arrange them.

Roedd yn dipyn o hwyl i ddysgu am siapiau 2D wrth ddefnyddio rhaffiau. Roedd y her! / We enjoyed using ropes to form 2D shapes. It was a difficult task but we did well.

Mae'r plant wedi mwynhau arbrofi gyda ffracsiynau pan gânt gyfle i’w gweld yn ymarferol mewn sefyllfaoedd bob dydd, megis rhannu siapiau, bwydydd a rhifau. Trwy rannu diod yn hanner neu’n chwarter, neu wrth dorri ffrwythau a chacennau’n ddarnau cyfartal, mae’r syniad o “ran o gyfan” yn dod yn llawer mwy diriaethol iddynt. Wrth chwarae gyda rhifau, gallant gymharu ffracsiynau, cyfuno rhannau i greu cyfan, neu weithio allan faint sydd ar ôl ar ôl defnyddio rhan o rywbeth. Mae’r gweithgareddau syml hyn yn meithrin dealltwriaeth naturiol o ffracsiynau ac yn annog chwilfrydedd mathemategol mewn ffordd hwyliog ac ystyrlon. / The children have enjoyed experimenting with fractions when they have the opportunity to see them in practice in everyday situations, such as dividing shapes, foods and numbers. By dividing a drink into halves or quarters, or by cutting fruit and cakes into equal pieces, the idea of ​​"a part of a whole" becomes much more tangible to them. When playing with numbers, they can compare fractions, combine parts to create a whole, or work out how much is left after using a part of something. These simple activities foster a natural understanding of fractions and encourage mathematical curiosity in a fun and meaningful way.

Mae'r plant wedi datblygu eu dealltwriaeth o bwysau a mesur drwy ddefnyddio offer ansafonol mewn gweithgareddau ymarferol ac hwyliog. Drwy bwyso gwrthrychau gan ddefnyddio blociau gwnaethant gymharu pa wrthrych oedd yn drymach neu’n ysgafnach mewn ffordd a oedd yn hawdd ei gweld a’i theimlo. Gwnaeth helpu'r plant i feithrin sgiliau rhesymu, gwneud amcangyfrifon, a datblygu dealltwriaeth gynnar o gysyniadau mathemategol cyn symud ymlaen i unedau mesur safonol. Mae’r profiadau hyn hefyd wedi annog trafodaeth, cydweithio ac ymholi naturiol wrth iddynt archwilio’r byd o’u cwmpas. / The children have developed their understanding of weight and measurement by using non-standard equipment in practical and fun activities. By weighing objects using blocks they compared which object was heavier or lighter in a way that was easy to see and feel. It helped the children develop reasoning skills, make estimates, and develop an early understanding of mathematical concepts before moving on to standard units of measurement. These experiences have also encouraged discussion, collaboration and natural inquiry as they explore the world around them.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology

Gwaith ymarferol yn cyflwyno sut mae deunyddiau yn newid. Gwnaeth Blwyddyn 1 wneud gwaith arbrofi wrth doddi siocled, creu tost ac edrych sut mae menyn yn toddi ac yna rhewi dŵr. / Practical work on how materials change. Year 1 experimented with melting chocolate, made toast and put butter on it and then created ice cubes!
Blwyddyn 1 yn mwynhau creu tost a thoddi siocled. / Year 1 enjoying making toast and melting chocolate.
Blwyddyn 1 yn mwynhau creu tost a thoddi siocled. / Year 1 making toast and melting chocolate.
Rydyn ni ym Mlwyddyn 1 wedi mwynhau dysgu a gweld sut mae deunyddiau yn newid o fod yn solid i fod yn hylif ac yna yn ol yn solid. / Year 1 have enjoyed seeing how materials change forms. We have seen how chocolate changes from being a solid to liquid and then back to a solid when we heat things.
Yma ym Mhlwyddyn 1, rydym wedi mwynhau dysgu sut mae deunyddiau'n gallu newid o fod yn solid i hylif. Yn ogystal, rydym wedi mwynhau dysgu fod tost methu newid nol i fara ar ol ei tostio yn y tostiwr.

Ar ddechrau'r thema, gofynnwyd i blant Blwyddyn 2 dynnu llun ac ysgrifennu enw eu hoff ffrwyth neu lysieuyn. Datblygodd hyn i ffurfio brawddeg lle'r oedd angen gramadeg ac atalnodi cywir. / At the beginning of the theme, pupils in Year 2 were asked to draw and write the name of their favourite fruit or vegetable. This developed into forming a sentence where correct grammar and punctuation was needed.

Gwnaethom arbrofi er mwyn gweld beth oedd yn digwydd pan oedd bara'n caei ei dostio. Gwnaethom rhagfynegi i weld beth fyddai'n digwydd i olwg, teimlad, lliw ac arogl y bara. Gwnaethom arbrofi'n ofalus gan drafod beth roeddem am gadw'r un peth a beth oeddwn am newid. / We experimented to learn about what happens when bread is toasted. We predicted what would happen to it's colour, look, smell and texture. We experimented carefully by discussing what we were going to change and keep the same.

Y Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Blwyddyn 1 wedi creu cenhinen bedr prydferth/ Year 1 creating a beautiful daffodil.
Roeddwn wedi creu cennin a daffodil prydferth ar gyfer Dydd Gwyl Dewi. We made beautiful daffodils and leeks ready for St.Davids Day.
Blwyddyn 1 yn creu carden Santes Dwynwen hyfryd. Clywsom am hanes Dwynwen a'i goblygiadau. Year 1 created a beautiful card for Dwynwen's day. We heard the story of Dwynwen and the implications of her actions.
Blwyddyn 1 yn creu gwynebau doniol allan o ffrwythau a llysiau amrywiol/ Year 1 creating silly faces by using pictures of fruit and vegetables.
Roedd Blwyddyn 1 wedi creu gwynebau bwyd. Year 1 had the opportunity to create food faces. 
Blwyddyn 1 yn creu lluniau stampiau allan o lysiau a ffrwythau/ Year 1 creating stamp paintings out of fruit and vegetables.
Blwyddyn 1 yn creu lluniau stampiau allan o lysiau a ffrwythau. Year 1 creating stamp pictures out of vegetables and fruit.
Blwyddyn 1 yn pleidleisio eu hoff gan ar Ddiwrnod Miwsig Cymru. Buom yn canu ac yn dawnsio ac ymfalchio yn ein diwylliant/ Year 1 voted on their favourite welsh song during Welsh Music Day. We sang and danced and are proud of our heritage.
Roeddwn wedi mwynhau dewis ein hoff ganeuon ar Ddiwrnod Miwsig Cymru. Roedd rhaid i ni bleidleisio'n unigol. Hei Mistar Urdd oedd ein hoff gan. We enjoyed choosing our favorite songs on Welsh Music Day. We had to vote individually. Hey Mistar Urdd was our favorite song as a class. 
I ddechrau'r thema, gofynnwyd i ddisgyblion blwyddyn i dynnu llun o'r bwydydd yr oeddent yn eu cael yn flasus. Dilynwyd hynny gan drafodaeth yn egluro beth maen nhw'n hoffi ei fwyta. / To start the theme, pupils in year to were asked to draw the foods they found delicious. A discussion followed explaining what they like to eat.

Mwynhaodd dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Davies greu collage o ffrwythau. / Mrs Davies' Year 2 class enjouyed creating a collage of fruit.

Roedd dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Davies eisiau creu siop pitsa ar gyfer yr ardal chwarae rôl. Dyma rai disgyblion yn creu'r pitsa i'w gwerthu yn y siop. / Mrs Davies' Year 2 class wanted to create a pizza shop for the role play area. Here are some pupils creating the pizza's to sell in the shop.

Iechyd a Lles / Health and Well-being

Bu Blwyddyn 1 yn trafod ac yn lleisio eu barn am y thema bwlio. Cawsom drafodaeth werthfawr. Year 1 had a very interesting discussion and they had an opportunity to share their thoughts on the theme of bullying. We had a very thought provoking discussion.
Beth sydd yn gwneud ffrind da? Dyma Blwyddyn 1 yn trafod ac yn penderfynu nodweddion ffrind. What makes a good friend? Year 1 have been discussing the main characteristics of a good friend.
Blwyddyn 1 yn chwarae gemau buarth ac yn gwneud ymarfer corff ond yn ehangu geirfa hefyd/ Year 1 playing iard games and being active and also increasing their Welsh vocabulary.
Dyma Blwyddyn 1 yn dweud beth yw eu dyheadau. Year 1 sharing their aspirations.
Trafododd Blwyddyn 1 eu dyheadau ac yna ysgrifennu eu syniadau ar fyrddau gwyn. Roedd gennym cymaint o wahanol syniadau! Year 1 discussed their aspirations and then wrote their ideas on whiteboards. We had so many different ideas!
Dyma Blwyddyn 1 yn cael y cyfle i greu cebab ffrwythau. Roedd y disgyblion wedi derbyn y cyfle i flasu ffrwythau newydd. This is Year 1 having the opportunity to create a fruit kebab. The pupils had the opportunity to taste new fruit.

Mae dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Davies wedi mwynhau datblygu eu hardal chwarae rôl a chael y teimlad o berchnogaeth yn fawr iawn. / Mrs Davies' Year 2 class have thoroughly enjoyed developing their role play area and having the feeling of ownership.

Wythnos Iechyd Meddwl Plant / Children's Mental Health Week

Dyma Blwyddyn 1 yn gwneud sesiwn ioga er mwyn gwella eu hiechyd meddwl. Ffordd da iawn i dawelu y meddwl. Year 1 taking part in a yoga session in order to improve their mental health. It's a good way to calm and soothe the mind.

Fe wnaeth bob un ohonom ddod mewn a rhywbeth sy'n golygu llawer i ni er mwyn ei ddangos i'r dosbarth a'i drafod. Roedd yn arbennig i glywed ein ffrindiau yn siarad. / We enjoyed bringing in a special object to discuss an show the class. It was interesting to hear our friends speak.

Cawsom fore arbennig yn mwynhau yr awyr iach a gwneud gweithgareddau gyda'r Urdd. / We had a wonderful and busy morning learning in the outdoors with Cian and Emma from the Urdd.

Blwyddyn 1 yn mwynhau sesiwn yn yr awyr agored gyda Mr Urdd. Cawsom gyfle i wneud gweithgareddau rhifedd, ymarfer corff ac ehangu geirfa. Year 1 enjoying an outdoor session with Mr Urdd. The activities concentrated on maths skills, P.E games and extended their vocabulary.

Dyniaethau / Humanities

Dyma Blwyddyn 1 yn dysgu am ddiwylliant Cymru wrth baratoi am Ddiwrnod Dydd Gwyl Ddewi. Year 1 learning about the Welsh culture during the build up to Saint David's Day.

Diwrnod E-Ddiogelwch / E-Safety Day

Dathlodd y disgyblion Ddiwrnod E-ddiogelwch drwy gymryd rhan mewn gwersi a gweithgareddau a oedd yn pwysleisio pwysigrwydd cadw’n ddiogel ar-lein. Trafododd y plant ffyrdd o adnabod peryglon, gwneud penderfyniadau doeth a defnyddio’r rhyngrwyd yn gyfrifol. Roedd yn braf gweld pa mor angerddol yr oeddent yn cymryd rhan, gan ddangos dealltwriaeth gadarn o sut i fod yn ddiogel yn y byd digidol. / Pupils celebrated Safer Internet Day by engaging in lessons and activities that highlighted the importance of staying safe online. The children explored how to identify potential risks, make sensible decisions, and use the internet responsibly. It was great to see them participating so enthusiastically and showing a strong understanding of how to stay safe in the digital world.

Dyma Blwyddyn 1 yn gwrando or stori Smartie y Pengwin yn ystod Diwrnod Diogelwch ar y Rhyngrwyd. Year 1 listening to the story of Smartie the Penguin on Internet Safety Day.

Eisteddfod Ysgol / School Eisteddfod

Mwynheuodd y disgyblion gymryd rhan yn ein Eisteddfod flynyddol, gan ddathlu diwylliant a threftadaeth Cymru drwy ganu, adrodd a dawnsio. Roedd yn hyfryd gweld y plant yn perfformio gydag hyder ac ymroddiad, gan arddangos eu doniau mewn awyrgylch gynnes, gefnogol a chymunedol. Bu’r diwrnod yn llawn balchder, creadigrwydd ac ysbrydoliaeth i bawb a gymerodd ran. / Pupils thoroughly enjoyed taking part in our annual Eisteddfod, celebrating Welsh culture and heritage through singing, reciting and dancing. It was wonderful to see the children perform with confidence and enthusiasm, demonstrating their talents in such a warm and supportive community atmosphere. The day was filled with pride, creativity, and inspiration for everyone involved.

Dyma Blwyddyn 1 yn eu gwisgoedd Cymreig yn barod i berfformio yn Eisteddfod yr ysgol. Year 1 in their Welsh costumes ready to perform in the school Eisteddfod.
Dyma ein tystysgrifau am gymryd rhan yn Eisteddfod Ysgol 2026. These are our certificates for taking part in the 2026 School Eisteddfod.
Roedd dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Davies wedi mwynhau perfformio'r stori 'Aeth Mamgu i'r farchnad' gan ddefnyddio dull Pie Corbett. / Mrs Davies' Year 2 class thoroughly enjoyed performing the story 'Aeth Mamgu i'r farchnad' using the Pie Corbett method.
Roedd perfformio ein stori 'Aeth Mamgu i'r Farchnad' yn yr eisteddfod yn gyffrpus iawn. / We were so excited to perform our stori 'Aeth Mamgu i'r Farchnad' in the eisteddfod.

Diwrnod Santes Dwynwen / St Dwynwen's Day

Mwynhaodd y plant ddysgu am draddodiadau ar Ddiwrnod Santes Dwynwen. Dysgon nhw am stori bywyd Dwynwen. Roedd y plant wrth eu bodd yn gwisgo coch i symboleiddio cariad. / The children enjoyed discovering the traditions on St Dwynwen’s Day. They learnt about the story of Dwynwen's life. The children enjoyed wearing red to symbolise love.

Gwnaethom ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen wrth wneud cardiau hyfryd i'r teulu. / We celebrated Saint Dwynwen's Day by making beautiful cards for the family.

Cam Cynnydd 3

Wythnos Ysbrydoli / Inspiration Week

Cafodd disgyblion Blwyddyn 4, 5 a 6 gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn seiliedig ar ein thema “Deyrnas Rhewllyd”. Mwynhaodd y plant fesur a chreu pengwiniaid maint go iawn, gan ddefnyddio eu sgiliau mathemategol mewn ffordd ymarferol a hwyliog. Llwyddodd y disgyblion hefyd i ysgrifennu darnau rhydd gan ddefnyddio lluniau o’r Arctig, gan gynhyrchu paragraffau disgrifiadol llawn dychymyg ac iaith fywiog. / Pupils in Years 4, 5 and 6 had the opportunity to take part in a range of activities linked to our theme, “Frozen Kingdom.” The children enjoyed measuring and creating life-sized penguins, using their maths skills in a fun and practical way. They also produced independent writing inspired by images of the Arctic, creating descriptive paragraphs full of imagination and rich vocabulary.

Gwaith ymchwilio'r thema newydd. / Researching the new theme.
Cydweithio er mwyn creu pengwilniaid maint bywyd. / Working together to create life sized penguins.
Dysgu am y pegynau ac hanes yr anturiaethwr Sir Robert Falcon Scott. / Learning about the poles and the explorer Sir Robert Falcon Scott.
Blwyddyn 4 Mr Ball yn mwynhau un o'r sesiynau ysbrydoli ar gyfer y thema newydd / Mr Ball's Year 4 class enjoying one of the sessions to inspire them for the new theme.

Diwrnod Santes Dwynwen / Santes Dwynwen Day

Mwynhaodd y plant ddysgu am lwyau caru ar Ddiwrnod Santes Dwynwen. Gwnaeth y plant ddysgu am y symbolau gwahanol ar y llwyau caru, cyn mynd ati i ddylunio llwy garu eu hunain. / The children enjoyed learning about love spoons on St Dwynwen’s Day. They learned about the different symbols found on traditional love spoons before going on to design their own.

Gweithgareddau Ysgol Goed yn yr ardal allanol / Forest School Activities in the outdoor area.

Mwynheuodd disgyblion Blwyddyn 4, 5 a 6 sesiwn gyda’r Urdd, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau Ysgol Goed yn yr ardal allanol. Y sialens oedd creu lloches rhag y gwynt a’r glaw. Mwynhaodd y plant gydweithio fel tîm er mwyn llwyddo i greu eu llochesi. / Pupils in Years 4, 5 and 6 enjoyed a session with the Urdd, taking part in Forest School activities in the outdoor area. Their challenge was to build a shelter to protect them from the wind and rain. The children loved working together as a team to successfully create their shelters.

Blwyddyn 4 Mrs Rees-Jarman. / Mrs Rees-Jarman's year 4.
Blwyddyn 4 Mr Ball yn mwynhau gweithdy tu allan gyda'r Urdd / Mr Ball's Year 4 class enjoying an outside workshop with the Urdd.
Dosbarth Miss Laidlaw wrthi'n adeiladu llochesi. / Miss Laidlaw's class building their shelters.

Diwrnod E-Diogelwch / E-Safety Day

Dathlodd y disgyblion Ddiwrnod E-ddiogelwch drwy gymryd rhan mewn gwersi a gweithgareddau yn canolbwyntio ar sut i gadw’n ddiogel ar-lein. Bu’r plant yn trafod sut i adnabod risgiau, gwneud dewisiadau doeth a defnyddio’r rhyngrwyd mewn ffordd gyfrifol. Roedd yn galonogol gweld y disgyblion yn cymryd rhan yn weithredol ac yn dangos dealltwriaeth glir o bwysigrwydd bod yn ddiogel yn y byd digidol. / Pupils celebrated Safer Internet Day by taking part in lessons and activities focused on staying safe online. The children discussed how to recognise risks, make sensible choices, and use the internet responsibly. It was encouraging to see them engaging so thoughtfully and showing a clear understanding of the importance of being safe in the digital world.

Dysgu sut i gadw'n ddiogel wrth ddefnyddio AI. / Learning about how to keep safe whilst using AI.
Blwyddyn 4 Mr Ball yn dysgu am ddefnyddio'r rhyngrwyd yn fwy diogel / Mr Ball's Year 4 class learning about using the internet safely.

Cwis Dim Clem

Cafodd pedwar aelod o Flwyddyn 6 gyfle i gynrychioli’r ysgol yn rownd sirol Cwis Dim Clem yn Nhŷ Tawe. Llwyddodd y disgyblion i ateb cwestiynau heriol am Gymru, ac fe wnaeth y tîm yn arbennig o dda. Da iawn iddynt! / Four members of Year 6 had the opportunity to represent the school in the county round of the “Cwis Dim Clem” at Tŷ Tawe. The pupils successfully answered challenging questions about Wales, and the team performed exceptionally well. Well done to them!

Dydd Miwsig Cymru / Welsh Music Day

Mwynheuodd y disgyblion ddathlu Dydd Miwsig Cymru drwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cerddorol ar draws yr ysgol. Cawsant gyfle i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, canu gyda’i gilydd ac archwilio gwahanol offerynnau. Roedd yn wych gweld y plant yn dathlu cerddoriaeth Cymru gyda chymaint o frwdfrydedd ac egni. / Pupils across the school enjoyed celebrating Dydd Miwsig Cymru by taking part in a range of music‑based activities. They had the opportunity to listen to contemporary Welsh music, sing together, and explore different instruments. It was wonderful to see the children celebrating Welsh music with such enthusiasm and energy.

Cymryd rhan mewn cwis ar 'Ddydd Miwsig Cymru' yn nosbarth blwyddyn 4 Mrs Rees-Jarman. / Taking part in an online music quiz in Mrs Rees-Jarman's year 4.
Gwasanaeth ' Dydd Miwsig Cymru'. / 'Welsh Music Day' assembly.

Eisteddfod Ysgol / School Eisteddfod

Mwynheuodd y disgyblion gymryd rhan yn ein Eisteddfod Ysgol flynyddol, gan ddathlu diwylliant a threftadaeth Cymru drwy ganu, adrodd, dawnsio ac arddangos eu gwaith creadigol. Roedd yn wych gweld y plant yn perfformio gyda hyder ac angerdd, ac yn dangos eu doniau mewn awyrgylch gynnes a chymunedol. Roedd y diwrnod yn llawn balchder ac ysbrydoliaeth i bawb. / Pupils across the school took part in our annual Eisteddfod, celebrating Welsh culture through music, poetry, art, and performance. The children showcased their talents with great confidence and enthusiasm, whether reciting, singing, dancing, or presenting their creative work. It was a wonderful occasion that brought the whole school community together to celebrate creativity and Welsh heritage.

Blwyddyn 4 Mrs Rees-Jarman. / Mrs Rees-Jarman's year 4.

Yr Eisteddfod Gylch

Cymerodd nifer o’n disgyblion ran yn Eisteddfod y Cylch yr hanner tymor yma, gan gystadlu mewn dawnsio, canu a llefaru. Roedd yn bleser gweld y plant yn perfformio gyda hyder ac angerdd, gan ddangos eu doniau creadigol mewn awyrgylch gynnes a chefnogol. Rydym yn falch iawn o bob un ohonynt am eu hymdrechion a’u hymroddiad. / Several of our pupils took part in the local Area Eisteddfod this half term, competing in dance, singing and recitation. It was wonderful to see the children perform with confidence and enthusiasm, showcasing their creative talents in such a warm and supportive atmosphere. We are very proud of each and every one of them for their effort and dedication.

Yr Wythnos Wyddoniaeth / Science Week

Mwynheuodd disgyblion Blwyddyn 4, 5 a 6 gymryd rhan mewn arbrawf gwyddonol cyffrous yn seiliedig ar ein thema Teyrnas Rhewllyd yn ystod Wythnos Wyddoniaeth. Bu’r plant yn archwilio syniadau gwyddonol, yn cynnal arbrofion ac yn gwerthuso’r canlyniadau’n ofalus. Roedd yn wych gweld y disgyblion yn defnyddio sgiliau ymchwilio ac yn dangos brwdfrydedd tuag at wyddoniaeth drwy gydol y broses. / Pupils in Years 4, 5 and 6 enjoyed taking part in an exciting science experiment linked to our Frozen Kingdom theme during Science Week. The children explored scientific ideas, carried out investigations, and carefully evaluated their results. It was wonderful to see them using their enquiry skills and showing such enthusiasm for science throughout the activity.

Paratoi ein harbrofion ym mlwyddyn 4. / Preparing our experiments in year 4.
Cynnal arbrawf teg ym mlwyddyn 4. / Carrying out a fair experiment in year 4.
Creu graff o'r canlyniadau. / Creating a graph of results.
Blwyddyn 6 dosbarth Miss Laidlaw yn mwynhau cynnal arbrawf wyddonol am bengwiniaid yn cadw gwres. / Year 6 Miss Laidlaw’s class are enjoying carrying out a scientific experiment about how penguins keep warm.
Mwynhau arbrofi a dysgu am gromatograffaeth yn ystod 'Wythnos Wyddoniaeth' ym mlwyddyn 4. / Enjoying experimenting and learning about chromotography during 'British Science Week' in year 4.

Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched Mewn Gwyddoniaeth / International Day of Women and Girls in Science.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, a ddathlwyd ar Chwefror 11eg, yn ddigwyddiad byd-eang a gynlluniwyd i ddathlu gwyddonwyr benywaidd ac annog mwy o ferched i ddilyn gyrfaoedd mewn STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg). Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod menywod yn arloeswyr gwych mewn gwyddoniaeth ac yn sicrhau bod gan bawb gyfleoedd cyfartal i archwilio ac arloesi. /International Day of Women and Girls in Science, celebrated on February 11th, is a global event designed to celebrate female scientists and encourage more girls to pursue careers in STEM (Science, Technology, Engineering, and Mathematics). It highlights that women are brilliant trailblazers in science and ensures everyone has equal opportunities to explore and innovate.

Blwyddyn 4 Mrs Rees-Jarman.
Blwyddyn 4 Mr Ball.
Gwasanaeth 'Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched Mewn Gwyddoniaeth'. / 'International Day of Women and Girls in Science' assembly.
Gwasanaeth 'Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched Mewn Gwyddoniaeth'. / 'International Day of Women and Girls in Science' assembly.
Gwasanaeth 'Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched Mewn Gwyddoniaeth'. / 'International Day of Women and Girls in Science' assembly.

Cystadleuaeth Chwaraeon / Sport competitions

Cymerodd disgyblion o wahanol flynyddoedd ran mewn cystadlaethau pêl‑droed, rygbi a phêl‑rwyd y tymor hwn, gan gynrychioli’r ysgol gyda balchder ac ysbryd tîm rhagorol. Bu’r plant yn gweithio’n galed drwy bob gêm, yn dangos sgiliau cadarn ac yn cefnogi ei gilydd mewn awyrgylch gadarnhaol a chyfeillgar. Roedd yn wych gweld eu brwdfrydedd a’u hymroddiad wrth gystadlu mewn tri o’n hoff chwaraeon tîm. / Pupils from various year groups took part in football, rugby and netball competitions this term, proudly representing the school with excellent teamwork and determination. The children worked hard throughout each match, showing strong skills and supporting one another in a positive and friendly atmosphere. It was wonderful to see their enthusiasm and commitment while competing in three of our favourite team sports.

Tîm pêl-droed bechgyn blwyddyn 5. / Year 5 boys football team.
Tîm pêl-droed merched blwyddyn 6. / Year 6 girls football team.
Gêm rygbi fwdlyd iawn! / A very muddy rugby match!
Ymarfer Pêl-rwyd / Netball practice.
Rygbi blwyddyn 5 a 6. / Year 5 and 6 rugby.

Podlediad Marci G / Marci G Podcast

Hyfforddiant Podlediad gan Marci G. / Podcast training with Marci G.

Mwynhaodd y Dewiniaid Digidol sesiwn wybodus o hyfforddiant podlediadau gan Marci G. Llwyddodd y criw i sefydlu sianel Podlediadau Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw, ac fe ddefnyddiodd y grŵp amrywiaeth o dechnolegau sy’n cael eu defnyddio i greu podlediad yn llwyddiannus. / The Dewiniaid Digidol enjoyed an informative podcast‑creation training session led by Marci G. The group successfully set up the Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw Podcast Channel and used a range of technologies involved in producing a podcast.

Sesiwn Barddoni gydag Aneirin Karadog. / Poetry session with Aneirin Karadog.

Mwynhaodd y plant yn fawr iawn, dysgu am rapio gyda’r bardd Aneirin Karadog. Edrychon nhw ar sut i greu eu cerddi rap eu hunain, gan chwarae gyda rhythm a geiriau sy’n odli — yn enwedig geiriau oedd yn odli gyda’u henwau eu hunain. Roedd yn sesiwn hwyliog ac ysbrydoledig. Cafodd bawb y cyfle i fynegi eu hunain drwy gerddoriaeth a barddoniaeth. / The children thoroughly enjoyed learning about rapping with the poet Aneirin Karadog. They explored how rap works, played with rhythm, and experimented with rhyming patterns—especially using words that rhyme with their own names. It was a fun, creative session that helped them build confidence in expressing themselves through poetry and performance.

Roedd Blwyddyn 4 wedi mwynhau gydag Aneirin Karadog / Year 4 enjoyed with Aneirin Karadog.

Hyfedredd Beicio Blwyddyn 6 / Year 6 Cycling Proficiency

Cafodd grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 6 wythnos arbennig yn dysgu am ddiogelwch tra’n beicio ar yr heol. Cafodd y plant gyfle i ddysgu sut i gadw’n ddiogel a pha arwyddion sydd angen eu defnyddio wrth feicio ar y ffordd. Da iawn i bob un ar gyrraedd Lefel 2! / A group of Year 6 pupils enjoyed a special week learning about road safety while cycling. The children had the opportunity to learn how to stay safe and which signs they need to use when cycling on the road. Well done to all of them for achieving Level 2!

Nofio Blwyddyn 5 / Year 5 Swimming lessons

Mwynheuodd disgyblion Blwyddyn 5 eu gwersi nofio y tymor hwn, gan weithio’n galed i ddatblygu eu sgiliau yn y dŵr. Cawsant gyfle i ymarfer technegau pwysig megis arnofio, troedio dŵr a nofio ar draws y pwll gyda hyder cynyddol. Roedd yn bleser gweld y plant yn dangos dyfalbarhad ac ymroddiad wrth wella eu hyder a’u gallu yn y dŵr. / Year 5 pupils enjoyed their swimming lessons this term, working hard to develop their skills in the water. They had the opportunity to practise key techniques such as floating, treading water, and swimming across the pool with growing confidence. It was wonderful to see the children showing determination and enthusiasm as they improved their confidence and ability in the water.

Diwrnod y Llyfr / World book day

Mwynheuodd y disgyblion ddathlu Dydd y Llyfr drwy gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau darllen a llenyddol ar draws yr ysgol. Daeth y plant i’r ysgol wedi’u gwisgo fel eu cymeriadau hoff o lyfrau, gan greu awyrgylch lliwgar a chreadigol. Cawsant gyfle i rannu straeon, darllen gyda’u ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog yn seiliedig ar lyfrau. Roedd yn ddiwrnod arbennig a llawn brwdfrydedd tuag at ddarllen. / Pupils enjoyed celebrating World Book Day by taking part in a range of reading and literacy activities across the school. The children arrived dressed as their favourite book characters, creating a colourful and imaginative atmosphere. They had the opportunity to share stories, read with friends, and take part in fun, book‑themed activities. It was a wonderful day filled with excitement and a love of reading.

Blwyddyn 4 Mrs Rees-Jarman.
Sesiwn byw Darllen Co gydag Huw Aaron ar ddiwrnod y llyfr. Cafodd y plant hwyl a sbri yn nosbarth Mrs Rees-Jarman yn creu cymeriadau comig eu hun. / Mrs Rees-Jarman's year 4 class enjoyed creating their own comic characters during a live Darllen Co session with the illustrator/author Huw Aaron
Diwrnod y Llyfr Blwyddyn 4 Mr Ball / World Book Day Mr Ball Year 4.
Blwyddyn 4 wedi ymweld â Llyfrgell Penlan / Year 4 visited Penlan Library.

Diwrnod Trwyn Coch / Red nose day

Mwynheuodd y disgyblion ddathlu Diwrnod y Trwynau Coch drwy wisgo coch i’r ysgol ac ymgymryd â gweithgareddau hwyliog i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer elusennau. Roedd yr ysgol yn llawn lliw ac egni wrth i’r plant gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a thrafodaethau am bwysigrwydd helpu eraill. Diwrnod llawn hwyl ac ysbryd cymunedol oedd hi i bawb. / Pupils enjoyed celebrating Red Nose Day by coming to school dressed in red and taking part in fun activities to raise awareness and funds for charity. The school was filled with colour and energy as the children joined in creative tasks and discussions about the importance of helping others. It was a lively and uplifting day for everyone.

Blwyddyn 5 a 6 yn dathlu 'Diwrnod Trwynau Coch' / Years 5 and 6 celebrating 'Red Nose Day'.
Blwyddyn 4 Mrs Rees-Jarman yn dathlu 'Diwrnod Trwynau Coch' / Mrs Rees-Jarman's year 4 celebrating 'Red Nose Day'.

Wythnos Iechyd Meddwl Plant / Children's Mental Health Week

I hyrwyddo wythnos iechyd meddwl plant, cymerodd y plant ran mewn amrywiaeth o weithgareddau i'w helpu i ymlacio. / To promote children's mental health week the children took part in a variety of activities to help them relax.

Lliwio meddwlgarwch ym mlwyddyn 4 Mrs Rees-Jarman. / Mindfulness colouring in Mrs Rees-Jarman'n year 4 class.

CYNGOR ENFYS 🌈

Roedd y gwasanaeth gan Gyngor Enfys ar gyfer ‘Wythnos Iechyd Meddwl Plant’ yn un hyfryd, gan ledaenu neges o garedigrwydd a chyfeillgarwch. Cyfrannodd pob aelod yn frwdfrydig, a chyflwynodd pawb eu llinellau yn hyderus, yn glir ac yn gywir. / The assembly by the Rainbow Council for 'Children's Mental Health Week' was a wonderful one, spreading a message of kindness and friendship. Every member contributed enthusiastically, and everyone delivered their lines confidently, clearly and correctly.

CYNGOR YSGOL

Gwasanaeth gwych gan y Cyngor Ysgol ar 'Ddiwrnod y Llyfr 2026' yn rhannu'r neges 'Darllen am Hwyl!". Fe gyfrannodd bob aelod yn ystod y gwasanaeth a chyflwynodd pob un eu llinellau gyda rhuglder a chywirdeb. /A wonderful assembly by the School Council on 'World Book Day' to promote the message 'Reading is Fun'. Each member took part and delivered their lines with fluency and accuracy.

Y Cyngor Ysgol / The School Council

Cyngor eco

Mae'r Cyngor Eco wedi bod yn brysur yn cyfrif batris y tymor yma / The Eco Council has been busy counting batteries this term.