Prosbectws Ysgol Llechryd O'r fesen fach i'r gangen uchaf, anelwn am ragoriaeth

Ysgol Gynradd Llechryd, Llechryd, Ceredigion, SA43 2NL

01239682474

www.ysgolllechryd.co.uk

Pennaeth: Mr Lee Burrows

Cadeirydd y Llywodraethwyr: Mrs Nicky Redmond

Croeso

Ar ran fy hun, llywodraethwyr, staff, a disgyblion Ysgol Gynradd Llechryd, croeso i brosbectws yr ysgol.

Ein nod yn Ysgol Gynradd Llechryd yw darparu addysg o’r safon uchaf i’n disgyblion tra’n sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus. Mae lefel gyson uchel o gynnydd academaidd ar draws pob maes dysgu ynghyd â chymorth ar gyfer lles disgyblion yn cyfuno i greu amgylchedd dysgu arbennig lle gall plant ffynnu.

Lleolir ein hysgol yng nghanol Llechryd a rhoddwn bwyslais mawr ar ddatblygu partneriaeth gref rhwng y cartref a’r ysgol drwy gydweithio mewn awyrgylch o barch a chefnogaeth. Mae’n fraint i ddarparu seiliau cadarn i’n dysgwyr, a chariad at ddysgu drwy weithio mewn partneriaeth â’n teuluoedd a’r gymuned ehangach.

Gobeithio y dewch o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein gwefan. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Mr. Lee Burrows.

Pennaeth

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth fel ysgol yw bod pob disgybl yn cael cyfle i serennu beth bynnag fo eu cefndir ieithyddol, anghenion ychwanegol neu rwystrau difreintedd. Ein dyletswydd fel ysgol yw hyrwyddo datblygiad pob disgybl i fod yn seren ddisglair.​

Teulu yw’n hysgol yng nghalon ein cymuned. Dathlwn ein Cymreictod, iaith a diwylliant ac ymfalchïwn yn llwyddiant ein gilydd. Manteisiwn ar bob cyfle i hyrwyddo parch, gofal, cydraddoldeb yn ein bywydau pob dydd a chaiff y plant eu hannog i ddatblygu eu hunan-barch a’u hunanhyder drwy weithgareddau cyfoethog, amrywiol ag heriol. Cydweithiwn, yn athrawon, disgyblion ac yn staff cynorthwyol, yn llywodraethwyr, rhieni a ffrindiau gan anelu at yr un nod, sef gwneud Ysgol Llechryd yn gymuned hapus, fywiog, ysgogol, gofalgar, diogel a chroesawgar lle mae pob plentyn yn profi llwyddiant ac yn cael cyfle teg i flodeuo.​

Byddwn yn hyrwyddo, datblygu a darparu’r disgyblion gyda sgiliau priodol ar gyfer addysg a bywyd. ​

Amcanion:​

  • Darparu cwricwlwm eang a chytbwys gan geisio sicrhau bod pob plentyn yn cael yr un cyfle ac yn llwyddo hyd eithaf ei allu. ​
  • Hybu datblygiad annibyniaeth a hunan-hyder fydd yn galluogi’r disgyblion i ddysgu dros eu hunain a datblygu eu cywreinrwydd naturiol.​
  • Darparu amgylchfyd fydd yn gyfoethog, yn galonogol ac yn sialens i’r disgyblion.​
  • Helpu’r disgyblion i dyfu’n unigolion hyderus a chyfrifol o gymdeithas wrth roi iddynt y wybodaeth, agweddau a’r sgiliau fydd eu hangen arnynt yn y dyfodol.​
  • Datblygu’n unigolion hyderus, dwyieithog sy’n gallu cyfathrebu ac arddel pob agwedd ar ddiwylliant Cymru. ​
  • Magu dealltwriaeth sut y gellir datblygu’n unigolion iach yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.

Ein Cwricwlwm

Lluniwyd ein cwricwlwm newydd gan gydweithio'n agos gyda disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a phobl y gymuned.

Bydd ein cwricwlwm yn codi’r dyheadau ar gyfer pob dysgwr. Fel ysgol rydym wedi ystyried sut y bydd pob dysgwr yn cael cymorth i wireddu uchelgeisiau a dyheadau’r pedwar diben, ac i symud ymlaen.

Cyfleoedd Allgyrsiol gan gynnwys Chwaraeon

Mae’r ysgol yn darparu amgylchedd sy’n symbyliad ac yn ddiogel i ddisgyblion lle gallant weithio tuag at aeddfedrwydd cyffredinol wrth ddatblygu sgiliau corfforol. Bydd yr ysgol yn cymeradwyo ac yn hybu diddordeb y plant mewn chwaraeon o bob math fel rhan o'u datblygiad cymdeithasol a chorfforol. Trefnir cwrs o wersi nofio ym mhwll nofio Castell Newydd Emlyn i ddisgyblion blynyddoedd 3 i 6. Mae gennym iard a chae helaeth ar gyfer gweithgareddau corfforol yn ystod gwersi ac amser chwarae.

Mae cyfleoedd rheolaidd ar gael i’r disgylion i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau allgyrsiol yn Ysgol Llechryd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • gweithgareddau a chystadlaethau chwaraeon
  • digwyddiadau'r Urdd
  • ymweliadau addysgol
  • cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd
  • cystadleuaethau Cogurdd a Phoburdd
  • gweithgareddau diwylliannol
  • ymweliadau preswyl â chanolfannau'r Urdd yn Llangrannog a Glanllyn

Lle codir tâl ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol, byddwn yn hysbysu rhieni drwy ebost ac yn sicrhau digon o amser er mwyn galluogi rhieni i dalu mewn rhandaliau dros gyfnod o amser.

Tymhorau a Gwyliau

Mae’r flwyddyn ysgol yn rhedeg o 1af Medi y flwyddyn gyfredol i 31ain Awst y flwyddyn ddilynol ac mae’n cynnwys tri thymor. Mae dyddiad dechrau a diwedd y tymhorau ysgol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond, yn fras, dyma nhw:

  • Tymor yr Hydref – Medi i Ragfyr
  • Tymor y Gwanwyn – Ionawr i Fawrth / Ebrill (yn dibynnu ar ddyddiad y Pasg)
  • Tymor yr Haf – Ebrill i Orffennaf

Amseroedd

Mae oriau dysgu'r ysgol yr un fath i bob unigolyn yn ein hysgol. Mae'r drysau yn agor i ddisgyblion am 8:45y.b ac mae'r ysgol yn gorffen am 3:30y.p.

Dyma amserlen fras o ddiwrnod y plant:

8:45-9:00 - Cyrraedd yr ysgol

9:00-10:30 - Sesiwn cyntaf y bore

10:30-10:45 - Amser chwarae

10:45-12:00 - Ail sesiwn y bore

12:00-1:00 - Amser cinio

1:00-2:15 - Sesiwn cyntaf y prynhawn

2:15-2:30 - Amser chwarae

2:30-3:30 - Ail sesiwn y prynhawn

3:30 - Diwedd y dydd

Clwb Brecwast

Mae Ysgol Llechryd yn falch o gynnig Clwb Brecwast am ddim sy’n rhedeg bob bore’r wythnos o 8:00 tan 8:45. Mae’r Clwb Brecwast ar agor i’r holl ddisgyblion ac yn rhoi dechrau maethlon ac egniol iddynt i’r diwrnod, gan sicrhau eu bod yn barod ar gyfer eu gwersi. Gall disgyblion fwynhau amrywiaeth o opsiynau brecwast iach, gan gynnwys grawnfwyd, tost a sudd, mewn amgylchedd croesawgar ac o dan oruchwyliaeth.

Clwb Cŵl

Bob Nos Fawrth rhwng 3:30 a 4:30yp, rydym yn cynnal clwb ar ôl ysgol, sef Clwb Cŵl. Mae croeso i bob unigolyn i fynychu'r clwb yma, wrth fwynhau amryw o weithgareddau megis sesiynau chwaraeon gyda'r Urdd, gemau parasiwt, sesiynau ioga a llawer mwy! Os ydych yn dymuno i'ch plentyn i fynychu'r clwb cwl, yna cysylltwch â'r ysgol.

Gwisg Ysgol

Mae ein gwisg ysgol swyddogol yn cynnwys:

  • Crys T melyn
  • Siwmper glas
  • Ffrog, sgert neu trowsus llwyd
  • Ffrog haf glas neu siorts llwyd
  • Esgidiau du

Gofynnwn yn garedig i chi ysgrifennu enw eich plentyn ar bob ddilledyn.

Gwisg Ymarfer Corff

  • Crys T glas
  • Siorts/legins/jogyrs tywyll
  • Esgidiau ymarfer corff

Mae modd prynu’r wisg swyddogol o'r cyflenwyr canlynol

  • Teifi Embroidery
  • Sacco's Embroidery

Mae’r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i blant a phobl ifanc sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYDd), Plant sy’n Derbyn Gofal, a’r rhai nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus o’r flwyddyn dderbyn i Flwyddyn 11.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mrs C. Jones ydy Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) Ysgol Llechryd.

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion arbennig yn Ysgol Llechryd yn ateb gofynion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Cymru. Mae pob disgybl sydd wedi ei gofnodi ar gofrestr anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol yn derbyn cynhaliaeth o ryw fath, naill o fewn y dosbarth, mewn grwpiau bach neu cefnogaeth 1 i 1. Ymdrechwn i adnabod anawsterau dysgu yn gynnar gan ddarparu cefnogaeth effeithiol lle bo angen.

Mae cynhwysiant yn holl bwysig i ni yn Ysgol Llechryd ac rydym wedi ystryried ein darpariaeth ADY a sut y byddwn yn diwallu anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr.. Rydym yn darparu ystod o gymorth i'n disgyblion ADY. Rydym yn monitro cynnydd disgyblion yn gyson ac os teimlwn fod angen cefnogaeth bellach, bydd yr ysgol yn cysylltu â rhieni/gwarchodwyr y plentyn er mwyn trafod a chynllunio’r ffordd ymlaen. Mae cydweithio effeithiol gyda rhieni ac asiantaethau allanol yn hanfodol er mwyn ein galluogi i gynnig y gefnogaeth orau oll i’n disgyblion.

Rydym yn gweithredu polisi drws agored lle gall rhieni rannu unrhyw bryderon sydd ganddynt am eu plentyn.

Ymddygiad

Ceir polisi ymddygiad cadarn yn yr ysgol ond pan fo angen cefnogaeth ymddygiad pellach ar ein dysgwyr, mae gennym fynediad at gefnogaeth arbenigol drwy bartneriaeth gyda Mentoriaid Dysgu'r Awdurdod Addysg Leol. Mae'r ysgol yn hyrwyddo ymagwedd adferol wrth ddelio gyda anghydfod ac anawsterau ymddygiad.

Hygyrchedd

Mae Ysgol Llechryd wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd sy’n galluogi mynediad cwricwlwm llawn sy’n gwerthfawrogi ac yn cynnwys yr holl ddisgyblion, staff, rhieni ac ymwelwyr waeth beth fo’u hanghenion addysgol, corfforol, synhwyraidd, cymdeithasol, emosiynol a diwylliannol. Rydym wedi ymrwymo i weithredu’n gadarnhaol yn ysbryd Deddf Cydraddoldeb 2010 o ran anabledd ac i ddatblygu diwylliant o gynhwysiant, cefnogaeth ac ymwybyddiaeth o fewn yr ysgol.

Fe fyddwn yn gwneud pob ymdrech i addasu'r ysgol yn ôl yr angen er mwyn hwyluso mynediad i bob disgybl yn ôl ei anghenion unigol.

Cyfleoedd Cyfartal

Yn Ysgol Gynradd Llechryd, rydym yn ymrwymedig i sicrhau cydraddoldeb addysg a chyfle i'r holl ddisgyblion, staff, rhieni a gofalwyr sy'n derbyn gwasanaethau gan yr ysgol, ni waeth beth yw eu hanabledd, hil, rhyw, oedran, tueddfryd rhywiol, crefydd neu gred, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, priodas a phartneriaeth sifil. Rydym yn ceisio datblygu diwylliant o gynhwysiad ac amrywiaeth sy'n galluogi pawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol i deimlo'n falch o'i hunaniaeth, a chyfranogi'n llawn ym mywyd yr ysgol.

Caiff cynnydd disgyblion ei fonitro, a byddwn yn defnyddio'r data hwn i gefnogi disgyblion, codi safonau a sicrhau addysgu cynhwysol. Byddwn yn mynd i'r afael â gwahaniaethu drwy hyrwyddo cydraddoldeb yn gadarnhaol, herio bwlio ac ystrydebau a chreu amgylchedd sy'n hyrwyddo parch at bawb. Yn Ysgol Gynradd Llechryd credwn fod amrywiaeth yn gryfder y dylid ei barchu a'i ddathlu gan bawb sy'n addysgu, ac yn dysgu yma, ac yn ymweld â'r ysgol.

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd a ddaw yn sgil cyflwyno Cwricwlwm i Gymru, mae addysg cydberthynas a rhywioldeb bellach yn elfen orforol o fewn y cwricwlwm. Golygai hyn nad oes modd i rieni i dynnu eu plant allan o'r ddarpariaeth mwyach. Fodd bynnag, wrth gynllunio ac yn unol a'r "cod" mae angen sicrhau fod y ddarpariaeth yn briodol o ran datblygiad ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a pharch. Ceir 3 cyfnod o fewn y cod sydd yn nodi'n fras y cynnwys a fyddai ar gyfer disgybl 3, 7 ac 11 oed a hynny o fewn 3 llinyn dysgu

  1. Cydberthnasau a Hunaniaeth
  2. Iechyd Rhywiol a Lles
  3. Grymuso, diogelwch a pharch.

Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd

Darperir ar gyfer addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. O fewn y cwricwlwm hwn bydd staff yn darparu cwricwlwm cyfoethog sy’n cydymffurfio â’r Maes Llafur Cytûn Lleol. Yn unol â deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, nid oes gan rieni hawl i ofyn am gael tynnu eu plentyn yn ôl o addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn Cwricwlwm i Gymru

Mae gwasanaethau boreol yr ysgol yn rhan bwysig o ethos ac ymdeimlad yr ysgol. Cysylltir yr agwedd grefyddol â phrofiadau plant yn eu bywydau beunyddiol, gan bwysleisio’r agwedd o feddwl am eraill a gofalu amdanynt. Cyflwynir gwybodaeth am grefyddau’r byd ond pwysleisir y grefydd Gristnogol. Trefnir casgliadau tuag at achosion dyngarol lleol a chenedlaethol.

Defnydd o'r Iaith Gymraeg

Dynodir yr ysgol yn ‘Ysgol Gymraeg’ Categori 3 yn ôl polisi iaith yr awdurdod addysg; golyga hyn mai’r Gymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol, ond anelir at sicrhau bod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt drosglwyddo i'r sector uwchradd.

Mae’r staff a’r disgyblion yn ymdrechu’n galed i gadw naws ac awyrgylch Gymreig yr ysgol:

  • Cymraeg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol.
  • Mae’n cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwy- ieithog yn ôl yr angen.
  • Mae hon yn ysgol sydd ag ethos Cymraeg cadarn, gan gefnogi a galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a'r tu allan iddi.
  • Yn y Cyfnod Sylfaen, mae pob dysgwr yn cael ei addysgu'n llawn yn y Gymraeg, gyda’r Saesneg yn cael ei defnyddio ar brydiau i sicrhau dealltwriaeth yn ystod y cyfnod trochi cynnar.
  • O 7 oed ymlaen bydd o leiaf 80% o weithgareddau ysgol y dysgwr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.

Polisi Codi Tâl

Ni chodir tâl am unrhyw rhan o'r Cwricwlwm fel y cyfryw. Er hyn, mae'n bosib y bydd gofyn i deulu gyfrannu'n wirfoddol tuag at ymweliadau addysgol a rhai gweithgareddau allgyrsiol.

Mae'r Awdurdod Addysg Leol yn codi tâl am wersi cerddoriaeth gan diwtoriaid teithiol yr Awdurdod Addysg Leol.

Cwynion

Mae Ysgol Gynradd Llechryd wedi ymrwymo i ymdrin â chwynion yn effeithiol. Rydym yn anelu at egluro unrhyw faterion nad ydych yn siŵr yn eu cylch. Os oes modd, byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau yr ydym wedi’u gwneud a byddwn yn ymddiheuro. Rydym yn anelu at ddysgu oddi wrth gamgymeriadau a defnyddio’r profiad hwnnw i wella’r hyn a wnawn.

Ein diffiniad o gwŷn yw ‘mynegiant o anfodlonrwydd mewn perthynas â’r ysgol neu aelod o’i staff sy’n gofyn am ymateb gan yr ysgol’.

Mae’r weithdrefn gwyno hon yn ategu’n hymrwymiad ac mae’n ffordd o sicrhau bod unrhyw un sydd â buddiant yn yr ysgol yn gallu mynegi pryder a bod yn hyderus y bydd yn cael ei ystyried yn llawn ac, os credir bod sail i’ch pryderon, y bydd y mater yn cael ei drin yn briodol ac yn ddi-oed.

Diogelwch Staff a Disgyblion

Rydym yn cynnal a chadw tiroedd yr ysgol er mwyn sicrhau cyfleoedd chwarae eang a diogel i’r disgyblion. Cedwir yr ardal yn lân, yn ddiogel ac yn daclus.

Rhaid i bob ymwelydd i lofnodi i mewn er mwyn hwyluso diogelu a threfniadau tân. Ceir un mynedfa i'r ysgol ar gyfer gollwng a chasglu dysgwyr yn y bore a'r prynhawn sy'n cael ei goruchwylio gan staff yr ysgol yn gyson. Yn ystod y dydd, bydd ymwelwyr a rhieni ond yn medru cael mynediad i'r adeilad drwy ganu'r gloch ym mlaen yr ysgol ac yna cael eu gadael i mewn gan aelod o staff.

Cyn pob ymweliad addysgol ag eithrio ymweliadau cyson mae’r ysgol yn cynnal asesiad risg priodol er mwyn sicrhau diogelwch disgyblion. Defnyddir system 'Evolve' ar bob achlysur y mae disgyblion allan o'r ysgol heblaw am ymweliadau rheolaidd lle asesir y risgiau gan staff yr ysgol. Drwy weithredu'r system 'Evolve', sicrheir fod pob taith yn derbyn cymeradwyaeth ar ddwy lefel, gyda gweithgareddau awyr agored yn derbyn cymeradwyaeth ychwanegol gan swyddogion yr Awdurdod Lleol. Yn dilyn pob taith, y mae trefnydd yr ymweliad yn adolygu pob rhan ohono er mwyn sicrhau gwelliannau.

Trefniadau Derbyn

Derbynia’r ysgol ddisgyblion yn llawn amser i’r Dosbarth Derbyn yn y tymor yn dilyn eu penblwydd yn bedair oed.

Mae croeso i rieni i gysylltu â'r ysgol er mwyn trefnu ymweliad â'r ysgol cyn gwneud cais am le ar gyfer eu plentyn.

Os am wneud cais am le yn yr ysgol gellir gwneud hynny drwy wefan Ceredigion

Presenoldeb

Rhoddir pwyslais mawr ar bresenoldeb da, ac mae gan yr ysgol weithdrefnau trylwyr ar gyfer sicrhau hyn. Y Pennaeth sydd â throsolwg dros bresenoldeb ac y mae yna gydweithio agos gyda Swyddogion Cynhwysiant Sirol. Mae’r Polisi Presenoldeb yn amlinellu ein hymarfer a’n trefniadau er mwyn cynnal lefel uchel o bresenoldeb. Gellir cael copi o bolisi presenoldeb yr ysgol o Swyddfa’r ysgol.

Disgwyliwn i rieni:

  • Annog eu plant i fynychu’r ysgol yn rheolaidd.
  • Sicrhau eu bod yn cysylltu â’r ysgol pan fo’u plentyn yn / wedi methu mynychu’r ysgol.
  • Sicrhau bod eu plentyn yn cyrraedd yr ysgol ar amser ac wedi paratoi’n addas ar gyfer y dydd.
  • Cysylltu â’r ysgol pan gyfyd unrhyw broblem a allai gadw eu plentyn o’r ysgol.