Illyria: HMS Pinafore CASTELL ABERTEIFI / CARDIGAN CASTLE - 05/08/25

Gwybodaeth Hanfodol

Essential Information

**Neges ddwyieithog yw hon gweler y fersiwn Saesneg isod **

** This is a bilingual message – please click here for English**

ILLYRIA: HMS PINAFORE

Nos Fawrth 5 Awst 2025

7.00PM (DRYSAU 6.00PM)

CYNHELIR Y DIGWYDDIAD YNG NGHASTELL ABERTEIFI.

HYRWYDDIAD AR Y CYD GAN MWLDAN / CASTELL ABERTEIFI

Diolch am brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn. Rydym wedi cynnwys ychydig wybodaeth hanfodol i geisio sicrhau bod yr achlysur yn rhedeg yn ddidrafferth. Cymerwch yr amser i ddarllen trwy’r pwyntiau isod, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau yna cysylltwch â Swyddfa Docynnau Y Mwldan ar 01239621200 neu e-bostiwch boxoffice@mwldan.co.uk a gwnawn ein gorau i geisio esbonio pethau i chi.

Y Mwldan yw’r unig werthwr tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gallwch archebu tocynnau ar-lein yn www.mwldan.co.uk neu drwy'r swyddfa docynnau yn wyneb yn wyneb neu drwy ffonio 01239 621 200.

Castell Aberteifi, Stryd Werdd, Aberteifi, SA321JA

WHAT3WORDS: ///surnames.tribe.thrones

Digwyddiad awyr agored yw hwn. Awgrymwn fod cwsmeriaid yn gwisgo esgidiau addas ac yn dod â siaced / dilledyn cynnes gan ei bod yn gallu oeri gyda’r hwyr a bydd y perfformiad yn cael ei gynnal boed law neu hindda.

  • Bydd Swyddfa Docynnau Dros Dro ar agor o 6.00pm ym mhrif fynedfa'r castell lle gellir cyfnewid eich tocynnau am fandiau arddwrn.
  • Bydd Drysau/Gatiau yn agor am 6.00pm a bydd lluniaeth ar gael ar y safle o'r amser hwn. Bydd ‘Illyria: HMS Pinafore’ ar y llwyfan o tua 7.00pm.
  • Bydd y performiad yn cychwn am 7.00pm
  • Hyd y perfformiad (tua): 2 awr (gan gynnwys egwyl o tua 20 munud).
  • Tocynnau: £18 (£16 gostyngiadau), £10 i bobl 14 oed ac yn iau (ffioedd archebu yn berthnasol)
  • Ni roddir ad-daliadau ar gyfer tocynnau i'r sioeau hyn.
  • Mae’n bosibl bydd tocynnau ar gael wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd.
  • Argymhellwn archebu tocynnau i osgoi cael eich siomi.

Noder, NID OES UNRHYW BARCIO ar safle Castell Aberteifi, a chynghorwn ein cwsmeriaid i ddefnyddio’r meysydd parcio talu ac arddangos cyhoeddus (yn ddi-dâl ar ôl 6pm) sydd o gwmpas y dref.

  • Ni ddarperir unrhyw gadeiriau yn y digwyddiad hwn. Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau.
  • Gellir trefnu seddi i'r rhai sydd ag anghenion hygyrchedd - rhowch wybod i ni am eich gofynion wrth archebu eich tocynnau.
  • Peidiwch â defnyddio ymbarelau wrth eistedd oherwydd bydd hyn yn rhwystro eraill rhag gweld.
  • Mae yna fynediad gwastad i’r safle i ddefnyddwyr cadair olwyn, a bydd aelodau penodedig o staff ar gael i’ch cynorthwyo. Dewch i’r brif fynedfa a nodir ar y map isod lle bydd aelod o’n tîm ar ddyletswydd yn cwrdd â chi.
  • NODER: Os ydych eisoes wedi archebu tocynnau ond nad ydych eto wedi rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion arbennig o ran eistedd, byddwch cystal â gwneud hynny yn syth trwy gysylltu â’n swyddfa docynnau ar 01239 621 200 neu drwy e-bostio boxoffice@mwldan.co.uk.

Bydd mynediad i ddeiliaid tocynnau drwy brif fynedfa’r castell fel y nodir ar y map.

Bydd Swyddfa Docynnau Dros Dro ar agor o 6.00pm wrth brif fynedfa'r castell..

I gael mynediad gallwch

  • Ddangos eich cod archebu QR ar eich ffôn symudol
  • Cyfnewid eich tocyn papur
  • Dangos eich allbrint tocynnau os ydych wedi archebu ar-lein

Cysylltwch â swyddfa docynnau Mwldan os na fedrwch argraffu eich tocyn eich hun a gallwn ei argraffu ar eich rhan.

  • Peidiwch â dod ag unrhyw alcohol na gwydr, bydd bar gyda diodydd poeth ac oer a byrbrydau ar gael ar y safle*
  • Derbynnir taliadau cerdyn yn unig (dim arian parod) yn y bwyty a'r bariau.

*Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â’r fwydlen, cysylltwch â Chastell Aberteifi 01239 615131 / info@cardigancastle.com

Ni chaniateir cŵn ar y safle yn ystod perfformiadau ar wahan i gŵn tywys.

Ni chaniateir ysmygu na fêpio ar y safle.

ILLYRIA: HMS Pinafore

Tuesday 5 August 2025

7.00pm (doors 6.00pm)

EVENT TAKES PLACE AT CARDIGAN CASTLE.

A MWLDAN / CARDIGAN CASTLE CO-PROMOTION

Thank you for purchasing tickets for this event. We’ve put together some essential information to help make the event go as smoothly as possible. Please take time to read through the points below, and if you have any questions please get in touch with Mwldan’s box office on 01239 621 200 or email boxoffice@mwldan.co.uk and we’ll do our very best to clarify things for you.

Mwldan is the sole ticket outlet for these events. You can book online at www.mwldan.co.uk or via the box office in person or by calling 01239 621 200.

Cardigan Castle, Green Street, Cardigan, SA43 1JA

WHAT3WORDS: ///surnames.tribe.thrones

This is an open-air event. We advise customers to wear appropriate footwear and to bring a jacket / warm layer as the evenings can get chilly and the performance will go ahead come rain or shine.

  • A Pop-up Box Office will be open from 6.00pm at the castle main entrance where your tickets can be exchanged for wristbands.
  • Doors/Gates will open at 6.00pm and refreshments will be available on site from this time. ‘Illyria: HMS Pinafore’ will be on stage from approximately 7.00pm.
  • The show will be performed in two parts with a total runtime of 2 hours. This also includes an interval of approximately 20 minutes.
  • £18 (£16 concessions), £10 for children aged 14 and under (booking fees apply)
  • See www.mwldan.co.uk for tickets conditions.
  • Tickets may be available on the door, but this is strictly subject to availability.
  • We advise booking in advance to avoid disappointment.

Please note that there is NO ON-SITE PARKING at Cardigan Castle, and we advise customers to use the public pay & display carparks (free after 6pm) situated around the town.

  • You are welcome to bring your own low-backed camping chair or rug to sit on. No seating will be provided.
  • Seating can be arranged for those with accessibility needs - please let us know your requirements when booking your tickets.
  • Please do not use umbrellas while seated as this will obstruct the view for others.
  • There is level access to the site for wheelchair users, and there will be designated members of staff on hand to assist you. Please come to the main entrance point marked on the map below where you will be met by a member of our duty team.
  • PLEASE NOTE If you have already booked your tickets but have not yet advised us of any special seating requirements please do so immediately via our box office on 01239 621 200 or by emailing boxoffice@mwldan.co.uk.

Entry to the site for ticket holders is via the main castle entrance marked on the map.

A Pop-up Box Office will be open from 6.00pm at the castle main entrance..

To gain entry you can:

  • Show your QR booking code on your mobile phone
  • Exchange your physical ticket
  • Show your ticket printout if you have booked online

We reserve the right to request a form of ID to verify that you are the booker, or in the event of needing to clarify eligibility for a concessionary price (where applicable).

  • Please do not bring any alcohol or glass, a bar with hot and cold drinks and snacks will be available on site*
  • We will only be accepting card payments (no cash) at the restaurant and bars.

*For questions about the menu, please contact Cardigan Castle 01239 615131 / info@cardigancastle.com

Dogs are not allowed on site during performances apart from guide dogs.

No smoking or vaping is permitted on site for these events.

map