Uned Diogelu Pobl Agored i Niwed, Heddlu Gogledd Cymru Mae Mike wedi bod yn swyddog heddlu gyda Heddlu Gogledd Cymru ers 2008. Mae cyfran fawr o hyn wedi bod yn gweithio o fewn yr Uned Diogelu Pobl Agored i Niwed. Roedd rolau penodol yn ymwneud â Cham-drin Domestig, lle bu'n gweithio gyda dioddefwyr i helpu i sicrhau euogfarnau yn erbyn eu troseddwyr ac yn gweithio ar y cyd ag elusennau Cam-drin Domestig. Yna daeth yn Arweinydd Strategol yr Heddlu mewn Cam-drin Domestig, Stelcio a Harasio a Cham-drin ar Sail Anrhydedd, gan edrych ar ffyrdd y gallai'r heddlu wneud newidiadau cadarnhaol i'w ddarpariaeth gwasanaeth i gefnogi dioddefwyr. Mae Mike yn Llysgennad ac yn Ymddiriedolwr i White Ribbon UK, yn gysylltydd ag Elusen Cam-drin Domestig, Safelives, yn darparu hyfforddiant Cam-drin Domestig i swyddogion rheng flaen eraill mewn heddluoedd ledled y DU. Mae Mike wedi ennill gwobrau yn yr heddlu am ymgodymu chamfanteisio yn 2021 ac arloesedd ar sut i weithio ar y cyd â chymunedau i gefnogi dioddefwyr Cam-drin Domestig yn 2022. Yn 2021 enillodd Wobr Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhyw 'Womenspire' Chwarae Teg Cymru a chafodd ei benodi'n MBE am wasanaethau i ddioddefwyr Cam-drin Domestig yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.