Mae Jacqui wedi ymddeol yn ddiweddar o’i rôl fel Pennaeth Hyfforddiant ac Addysg yn Ffederasiwn Cymorth i Fenywod, Lloegr. Cyn hyn, bu’n gweithio am bron i 30 mlynedd ar lefel weithredol mewn gwasanaethau cam-drin domestig uniongyrchol yn rheoli lloches, datblygu gwasanaethau allgymorth a gweithio’n strategol ar hyd a lled dinas Hull. Mae Jacqui hefyd yn athrawes cymwys ymarfer ar gyfer myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol israddedig ac ôl-raddedig. Roedd Jacqui yn allweddol i greu tîm sawl asiantaeth yn Hull, a oedd yn gweithio o un swyddfa, gydag Uned Heddlu CD Arbenigol, Gweithwyr Cymdeithasol Plant, Swyddogion Tai, Ymarferwyr Iechyd a gweithwyr Cymorth Arbenigol, ac aeth ymlaen i reoli ar y cyd. Cefnogodd Jacqui Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) i ymchwilio i rai o’u 43 o ardaloedd heddlu. Arweiniodd hyn at argymell cyflwyno hyfforddiant wyneb yn wyneb ar gam-drin domestig a rheolaeth drwy orfodaeth i bob swyddog sy’n gweithio ar y rheng flaen. Mae Jacqui hefyd wedi cymhwyso i gadeirio Adolygiadau Lladdiadau Domestig. Mae bellach yn cynnig gwasanaeth ymgynghori achlysurol.