Mae gan Mark dros 45 mlynedd o brofiad mewn 40 gwlad, ac mae’n dod ag agwedd unigryw fel cyn uwch dditectif sydd bellach yn gweithio yn y maes lles anifeiliaid. Mae’n Rheolwr Ymgyrchoedd yn Sefydliad Naturewatch ar hyn o bryd, ac mae’n arwain ymdrechion i gryfhau deddfwriaeth drwy bwysleisio’r cysylltiad clir rhwng creulondeb i anifeiliaid ac ymddygiad troseddol ehangach. Amrywiodd ei yrfa blismona o weithio ar y rheng flaen i rolau uwch dditectif, a bu’n arbenigo mewn gweithrediadau cuddwylio i fynd i’r afael â throseddau difrifol a therfysgaeth. Bu ynghlwm â datblygu tactegau cudd, gan gynnwys arwain timau arloesol ar laddiadau plant proffil uchel. Ers iddo ymddeol o blismona 15 mlynedd yn ôl, mae wedi parhau i ganolbwyntio ar amddiffyn y cyhoedd drwy ymgyrchoedd lles anifeiliaid cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ei waith yn cynnwys cydweithio’n agos gyda’r heddlu, erlynwyr, a llunwyr polisi i arwain diwygiadau cyfreithiol a pholisi sy’n diogelu anifeiliaid a phobl fregus. Drwy gyfuno ei brofiad o orfodi’r gyfraith a diogelu anifeiliaid, mae’n hyrwyddo mentrau sy’n amddiffyn anifeiliaid, yn atal niwed, ac yn cryfhau diogelwch yn y gymuned.